Rydym yn gweithredu polisi dwyieithog. Gwahoddir ymgeiswyr i wneud cais yn Gymraeg, ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a wneir yn Saesneg.
Dyddiad Cau: 06/06/2024
Cyfeirnod: REQ104935
Achlysurol
22,366 *
O fewn Ceredigion
Rydym am recriwtio Cynorthwyydd Arlwyo i ymuno â’n tîm ar gytundeb parhaol, rhan-amser.
Rydym yn chwilio am unigolyn sy’n llawn cymhelliant ac yn frwdfrydig am natur y gwaith. Mae’n rhaid i’r unigolyn feddu ar sgiliau cyfathrebu da a rhaid iddynt allu cyflawni gwahanol ddyletswyddau gydag amserlen waith amrywiol.
Fydd angen i’r ymgeisydd llwyddiannus fod yn ddigon hyblyg i weithio mewn unrhyw lleoliad gwaith a’r oriau a weithir.
Mae’r rôl yn cynnwys:
Gosod y byrddau a chlirio os oes angen:
Rydym am recriwtio unigolyn:
Yn gyfnewid am eich sgiliau a’ch ymrwymiad, byddwn yn cynnig ystod o fuddion gweithwyr i chi gan gynnwys lwfans gwyliau blynyddol cystadleuol a chynllun cyfraniadau pensiwn hael. Mae mwy o wybodaeth am ein hystod eang o fuddion gweithwyr i’w gweld yma. Yn ogystal, rydym wedi ymrwymo i ddatblygu ein pobl, a byddwn nid yn unig yn darparu cymorth i’ch galluogi i ymgymryd â meysydd cyfrifoldeb allweddol y rôl hon yn gyflym ac yn hyderus ond yn ogystal, rydym wedi ymrwymo i gefnogi eich datblygiad er mwyn i chi allu datblygu eich gyrfa gyda ni.
Disgrifiad Swydd a Manyleb Person
Os hoffech wybodaeth bellach am y rôl hon, cysylltwch â: Mandy Jones 07789985538 or Gill Jones 07794627915.
Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.
Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu ac amddiffyn plant ac oedolion sydd mewn perygl Fel rhan o’r ymrwymiad hwn, mae rhai rolau o fewn ein sefydliad yn gofyn am wiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) i asesu addasrwydd ymgeiswyr. Bydd y rôl hon yn gofyn am wiriad DBS Uwch. Sylwch na fydd presenoldeb euogfarnau blaenorol o reidrwydd yn anghymhwyso ymgeisydd rhag ystyriaeth ar gyfer y swydd hon. Rydym yn asesu pob ymgeisydd fesul achos, ac yn ystyried natur a pherthnasedd unrhyw euogfarnau mewn perthynas â chyfrifoldebau’r rôl. Ein nod yw creu amgylchedd gwaith cynhwysol a chefnogol lle caiff pob unigolyn ei drin yn deg a chyda pharch. Os oes gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau am y broses hon, mae croeso i chi gysylltu â ni am eglurhad. Mae eich preifatrwydd a’ch urddas yn hollbwysig i ni drwy gydol y broses recriwtio.
Cydbwysedd bywyd a gwaith
Cynllun cynilo ffordd o fyw
Cynllun pensiwn cyflogwr hael
Cynllun beicio i'r gwaith
Dysgu a datblygu
Rydym yn cynnig her a chefnogaeth briodol i’n hysgolion, i’w helpu i gyflwyno addysg o’r radd flaenaf i bob disgybl, ar draws yr ystod oedran a gallu. Mae ein prif swyddogaethau yn cynnwys: