Rydym yn gweithredu polisi dwyieithog. Gwahoddir ymgeiswyr i wneud cais yn Gymraeg, ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a wneir yn Saesneg.

2 x Gweithiwr Cymdeithasol – Gwasanaethau Uniongyrchol: Maethu

Dyddiad Cau: 30/05/2024

Cyfeirnod: REQ105030

37 awr / Parhaol

33,024 - 38,223 *

Aberaeron

*Mae'r gwerthoedd cyflog yn pro-rata.

Ynglŷn â'r rôl

Bydd Gweithwyr Cymdeithasol Newydd Gymhwyso yn dechrau ar gyflog a disgrifiad swydd Gradd 9 cyn symud ymlaen i radd 10 ar ôl 2 flynedd yn y swydd. Bydd gweithwyr cymdeithasol profiadol yn dechrau ar gyflog a disgrifiad swydd Gradd 10. Gellir cael mynediad i’r ddau ddisgrifiad swydd isod.

Mae’r swydd hon yn gymwys ar gyfer taliad atodol marchnad o £200 y mis. Nodwch y bydd y taliad ychwanegol hwn yn cael ei adolygu ar 31 Mawrth 2024.

Gall yr ymgeisydd llwyddiannus fod yn gymwys i gael hyd at uchafswm o £8,000 (gan gynnwys TAW) tuag at gost y treuliau a dynnwyd o ganlyniad i’w adleoli i Geredigion. Am wybodaeth bellach anfonwch e-bost at adnoddaudynol@ceredigion.gov.uk. Am fwy o wybodaeth am sir Ceredigion a’r ffordd o fyw mae’n ei chynnig cliciwch yma.

Ydych chi’n Weithiwr Cymdeithasol Cymwysedig sy’n chwilio am y cyfle i weithio mewn ardal wledig a heddychlon yng Ngorllewin Cymru?

Fel gweithwr cymdeithasol bydd gennych brofiad ar ôl ennill cymhwyster ym maes gwasanaethau gofal plant gan fod yn rhan o’r gwaith o recriwtio, hyfforddi, asesu a chefnogi gofalwyr yn unol â Safonau Cenedlaethol Maethu. Byddwch chi’n cael eich cefnogi â chefnogaeth reolaidd. Bydd cyfle i ymgymeryd a phrosiectau newydd.

Mae’r Awdurdod wedi ymrwymo i’r dull Arwyddion Diogelwch ac mae yn y broses o drawsnewid i’r model gydol oed sy’n cynnig mwy o hyblygrwydd i ddatblygu cynlluniau a gwasanaethau i fodloni gofynion ac mae hyn wedi arwain at rai cyfleoedd cyffrous i gydweithio rhwng adrannau o fewn yr awdurdod yn ogystal â gyda’n hasiantaethau partner.

Rydym yn chwilio am unigolion a chanddynt rywfaint o allu yn y Gymraeg. Pe na bai gan ymgeisydd llwyddiannus y medrau gofynnol yn y Gymraeg, byddai’n cael ei gefnogi’n llawn i gyrraedd y safon angenrheidiol o fewn dwy flynedd i ddyddiad ei benodiad.

Yn gyfnewid am eich sgiliau a’ch ymrwymiad, byddwn yn cynnig ystod o fuddion gweithwyr i chi gan gynnwys cynllun oriau hyblyg, lwfans gwyliau blynyddol cystadleuol a chynllun cyfraniadau pensiwn hael. Mae mwy o wybodaeth am ein hystod eang o fuddion gweithwyr i’w gweld yma.

Yn ogystal, rydym wedi ymrwymo i ddatblygu ein pobl a byddwn nid yn unig yn darparu cefnogaeth i’ch galluogi i gymryd perchnogaeth o feysydd cyfrifoldeb allweddol y rôl hon, yn gyflym ac yn hyderus, ond rydym hefyd wedi ymrwymo i gefnogi’ch datblygiad er mwyn i chi allu ddatblygu eich gyrfa, wrth i chi weithio gyda ni.

Mae’r swydd yn gofyn am Wiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. A’r brydiau fydd ofyn i chi gweithio gyda’r nos ac ar benwythnosau.

Fe wnawn ystyried ceisiadau gan unigolion sy’n ceisio am swydd gyda threfniadau gweithio rhan amser, rhannu swydd, neu yn ystod y tymor yn unig.

Credwn fod cydbwysedd bywyd a gwaith yn holl bwysig. I’ch cefnogi i gyflawni hyn, bydd gennych fynediad at y buddion dewisol canlynol:

  • Gweithio Hybrid: Yn amodol ar fodloni rhai amodau, gallwch ddewis gweithio o’ch cartref neu mewn swyddfa.
  • Amser-fflecsi: Gellir gweithio oriau o fewn lled band diffiniedig, o ddydd Llun i ddydd Gwener, yn amodol ar anghenion gwasanaeth.

Disgrifiad Swydd a Manyleb Person (Newydd Gymhwyso)

Disgrifiad Swydd a Manyleb Person (Gymhwyso)

Cysylltwch â ni

Am wybodaeth pellach a thrafodaeth anffurfiol ynglwn â’r swydd hon cysylltwch â Nerys Lewis ar Nerys.Lewis2@ceredigion.gov.uk

Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.

Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu ac amddiffyn plant ac oedolion sydd mewn perygl Fel rhan o’r ymrwymiad hwn, mae rhai rolau o fewn ein sefydliad yn gofyn am wiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) i asesu addasrwydd ymgeiswyr. Bydd y rôl hon yn gofyn am wiriad DBS Uwch. Sylwch na fydd presenoldeb euogfarnau blaenorol o reidrwydd yn anghymhwyso ymgeisydd rhag ystyriaeth ar gyfer y swydd hon. Rydym yn asesu pob ymgeisydd fesul achos, ac yn ystyried natur a pherthnasedd unrhyw euogfarnau mewn perthynas â chyfrifoldebau’r rôl. Ein nod yw creu amgylchedd gwaith cynhwysol a chefnogol lle caiff pob unigolyn ei drin yn deg a chyda pharch. Os oes gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau am y broses hon, mae croeso i chi gysylltu â ni am eglurhad. Mae eich preifatrwydd a’ch urddas yn hollbwysig i ni drwy gydol y broses recriwtio.

Yr hyn a gynigwn

Cydbwysedd bywyd a gwaith

Cynllun cynilo ffordd o fyw

Cynllun pensiwn cyflogwr hael

Cynllun beicio i'r gwaith

Dysgu a datblygu

Lle byddwch yn gweithio

Porth Gofal – Gwasanaethau Ymyrraeth wedi’u Targedu

Rydym wrth wraidd darpariaeth gofal cymdeithasol gydol oes Ceredigion ac ein nod yw sicrhau bod pob unigolyn yn derbyn yr ymyrraeth orau i ddiwallu ei anghenion neu, lle bo angen, eu tywys at gymorth cynnar neu wasanaethau arbenigol. Ein prif swyddogaethau yw:

  • Tîm Derbyn a Brysbennu Porth Ceredigion
  • Gwasanaethau Ymyrraeth wedi’i Thargedu
  • Gwasanaethau Maethu
  • Gwasanaethau Preswyl a Gofal Dydd
  • Gwasanaethau Tai
  • Storfeydd Cyfarpar Cymunedol Integredig
  • Tîm Dyletswydd Argyfwng
Aberaeron
Mae Aberaeron yn dref harbwr brydferth ac mae'n un o gyrchfannau gwyliau mwyaf poblogaidd Ceredigion gyda llefydd poblogaidd i aros a bwyta.
Darllen mwy