Rydym yn gweithredu polisi dwyieithog. Gwahoddir ymgeiswyr i wneud cais yn Gymraeg, ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a wneir yn Saesneg.
Dyddiad Cau: 01/08/2024
Cyfeirnod: REQ105172
Achlysurol
30,742 - 47,340 *
Canolfan Rheidol, Aberystwyth
Mae Carlam Cymru yn parhau i gynnal sesiynau adolygu ar gyfer myfyrwyr TGAU, Uwch Gyfrannol a Safon Uwch. Caiff y rhain eu recordio, er mwyn i fyfyrwyr ailymweld â hwy ar unrhyw adeg.
Nod y sesiynau yw cyfoethogi gwybodaeth y myfyrwyr mewn gwahanol bynciau ac i gynnig cymorth pellach i’r gwaith anhygoel mae’r athrawon yn eu cyflawni yn eu hysgolion. Mae’r sesiynau adolygu AM DDIM ac ar gael i bob myfyriwr ledled Cymru a thu hwnt.
Mae e-sgol yn edrych i benodi ymarferwyr profiadol o bob rhan o Gymru i ddarparu sesiynau ar-lein a fydd yn cael eu rhannu ag ysgolion ledled Cymru. Bydd y sesiynau yn cynorthwyo dysgwyr i ddatblygu ymhellach eu dealltwriaeth o wahanol destunau/unedau o fewn pynciau amrywiol.
Yn eich cais, cofiwch nodi pob pwnc rydych chi’n hapus i gynnig, ym mha iaith, ac i ba lefel.
Os hoffech wybodaeth bellach am y rôl hon, cysylltwch â Nia Jones ar: nia.jones2@e-sgol.cymru
Disgrifiad Swydd a Manyleb Person
Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.
Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu ac amddiffyn plant ac oedolion sydd mewn perygl Fel rhan o’r ymrwymiad hwn, mae rhai rolau o fewn ein sefydliad yn gofyn am wiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) i asesu addasrwydd ymgeiswyr. Bydd y rôl hon yn gofyn am wiriad DBS Uwch. Sylwch na fydd presenoldeb euogfarnau blaenorol o reidrwydd yn anghymhwyso ymgeisydd rhag ystyriaeth ar gyfer y swydd hon. Rydym yn asesu pob ymgeisydd fesul achos, ac yn ystyried natur a pherthnasedd unrhyw euogfarnau mewn perthynas â chyfrifoldebau’r rôl. Ein nod yw creu amgylchedd gwaith cynhwysol a chefnogol lle caiff pob unigolyn ei drin yn deg a chyda pharch. Os oes gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau am y broses hon, mae croeso i chi gysylltu â ni am eglurhad. Mae eich preifatrwydd a’ch urddas yn hollbwysig i ni drwy gydol y broses recriwtio.
Cydbwysedd bywyd a gwaith
Cynllun cynilo ffordd o fyw
Cynllun pensiwn cyflogwr hael
Cynllun beicio i'r gwaith
Dysgu a datblygu
Rydym yn cynnig her a chefnogaeth briodol i’n hysgolion, i’w helpu i gyflwyno addysg o’r radd flaenaf i bob disgybl, ar draws yr ystod oedran a gallu. Mae ein prif swyddogaethau yn cynnwys: