Rydym yn gweithredu polisi dwyieithog. Gwahoddir ymgeiswyr i wneud cais yn Gymraeg, ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a wneir yn Saesneg.
Dyddiad Cau: 12/05/2024
Cyfeirnod: REQ105295
32.5 awr / Parhaol
30,742 - 57,713 *
Ysgol Gyfun Penweddig, Aberystwyth
Dymunwn benodi erbyn Medi 2024, athro/athrawes brwdfrydig a chymwys i ymgymryd â swydd Pennaeth Cyfadran Ieithoedd Byd Eang.
Dyma gyfle arbennig o gyffrous i arwain Cyfadran lewyrchus.
Bydd disgwyl i ddeiliad y swydd addysgu Saesneg hyd at TGAU a Safon Uwch. Mae’r pwnc yn boblogaidd gyda niferoedd iach yn dewis astudio hyd at Safon Uwch.
Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus sgiliau a gwybodaeth dda iawn o anghenion arweinyddiaeth ar lefel rheolaeth ganol.
Disgwylir ymrwymiad llawn i gefnogi a hyrwyddo addysg Gymraeg yn holl fywyd yr ysgol.
Mae croeso i unrhyw ymgeisydd gysylltu gyda’r Pennaeth am sgwrs anffurfiol.
Gellir cael mwy o wybodaeth am y swydd drwy gysylltu â’r ysgol: Ffôn: 01970 639499 neu ebost: ymholiadau@penweddig.ceredigion.sch.uk
Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.
Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu ac amddiffyn plant ac oedolion sydd mewn perygl Fel rhan o’r ymrwymiad hwn, mae rhai rolau o fewn ein sefydliad yn gofyn am wiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) i asesu addasrwydd ymgeiswyr. Bydd y rôl hon yn gofyn am wiriad DBS Uwch. Sylwch na fydd presenoldeb euogfarnau blaenorol o reidrwydd yn anghymhwyso ymgeisydd rhag ystyriaeth ar gyfer y swydd hon. Rydym yn asesu pob ymgeisydd fesul achos, ac yn ystyried natur a pherthnasedd unrhyw euogfarnau mewn perthynas â chyfrifoldebau’r rôl. Ein nod yw creu amgylchedd gwaith cynhwysol a chefnogol lle caiff pob unigolyn ei drin yn deg a chyda pharch. Os oes gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau am y broses hon, mae croeso i chi gysylltu â ni am eglurhad. Mae eich preifatrwydd a’ch urddas yn hollbwysig i ni drwy gydol y broses recriwtio.
Cydbwysedd bywyd a gwaith
Cynllun cynilo ffordd o fyw
Cynllun pensiwn cyflogwr hael
Cynllun beicio i'r gwaith
Dysgu a datblygu
Rydym yn cynnig her a chefnogaeth briodol i’n hysgolion, i’w helpu i gyflwyno addysg o’r radd flaenaf i bob disgybl, ar draws yr ystod oedran a gallu. Mae ein prif swyddogaethau yn cynnwys: