Rydym yn gweithredu polisi dwyieithog. Gwahoddir ymgeiswyr i wneud cais yn Gymraeg, ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a wneir yn Saesneg.
Dyddiad Cau: 05/05/2026
Cyfeirnod: REQ106504
37 awr / Parhaol
42,839 - 45,091 *
Penmorfa, Aberaeron
Noder fod y cyflog a hysbysebir ar gyfer y swydd hon yn amodol ar ddyfarniad cyflog cenedlaethol 2026/2027 sydd ar ddod. Caiff y cyflog terfynol ei addasu yn unol â hynny unwaith y bydd y dyfarniad wedi’i gytuno.
Mae’r hysbyseb hon ar gyfer tair swydd: un swydd barhaol a dwy swydd tymor penodol. Nodwch yn glir yn eich cais a ydych chi’n gwneud cais am y swydd barhaol neu swydd tymor penodol.
Rydym yn chwilio am Syrfëwr / Prisiwr Siartredig proffesiynol llawn cymhelliant i ymuno â’n tîm Asedau o fewn y Gwasanaeth Economi ac Adfywio. Byddwch yn chwarae rôl allweddol wrth ddarparu gwasanaethau prisio a rheoli asedau sy’n cefnogi datblygiad strategol ledled Ceredigion.
Mae’r rôl yn cynnwys:
Mae hwn yn gyfle cyffrous i rywun sydd ag ymwybyddiaeth fasnachol gref, sgiliau trafod, ac angerdd dros gefnogi twf economaidd Ceredigion.
Rydym yn chwilio am rywun sydd:
 Chymwysterau proffesiynol (MRICS + Prisiwr Cofrestredig)
Profiadol mewn prisio a rheoli asedau
Hyderus yn gweithio’n annibynnol ac yn medru rheoli llwyth gwaith amrywiol
Medrus mewn trafod ac ymgysylltu â rhanddeiliaid
Ymwybodol o wleidyddiaeth ac â gofal cwsmeriaid da
Yn gallu teithio ledled y sir yn ôl yr angen (trwydded yrru lawn y DU)
Mae sgiliau Cymraeg Lefel 3 yn ofynnol ar gyfer y rôl hon. Os nad ydych yn bodloni’r lefel hon ar hyn o bryd, byddwn yn eich cefnogi i ddatblygu ac ennill y sgiliau angenrheidiol ar ôl cael eich penodiad, gan gynnwys mynediad at gyfleoedd dysgu yn ystod oriau gwaith.
Beth rydym yn ei gynnig
Credwn fod cydbwysedd bywyd a gwaith yn holl bwysig. I’ch cefnogi i gyflawni hyn, bydd gennych fynediad at y buddion dewisol canlynol:
Helpwch ni i lunio dyfodol amgylchedd adeiledig Ceredigion!
Disgrifiad Swydd a Manyleb Person
Pecyn Gwybodaeth Tîm Ceredigion
Cysylltwch â ni
Am wybodaeth pellach a thrafodaeth anffurfiol ynglŷn â’r swydd hon cysylltwch âGraeme Lane ar Graeme.Lane2@ceredigion.gov.uk
Dyddiad y cyfweliad: 02.04.2026
Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.
Cydbwysedd bywyd a gwaith
Cynllun cynilo ffordd o fyw
Cynllun pensiwn cyflogwr hael
Cynllun beicio i'r gwaith
Dysgu a datblygu
Rydym yn chwarae rhan hanfodol yn y gwaith o gyflawni un o brif amcanion Strategaeth Gorfforaethol y Cyngor, sef ceisio rhoi hwb i economi’r Sir a Chanolbarth Cymru. Rydym wedi ein trefnu yn dair prif adran: Gwasanaethau Economi, Cynllunio ac Eiddo. Ein prif swyddogaethau yw: