Rydym yn gweithredu polisi dwyieithog. Gwahoddir ymgeiswyr i wneud cais yn Gymraeg, ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a wneir yn Saesneg.

Gweithiwr Cymdeithasol – Gwasanaethau Asesu a Brysbennu Integredig x 3

Dyddiad Cau: 15/04/2026

Cyfeirnod: REQ106565

37 awr / Parhaol

35,412 - 40,777 *

Penmorfa, Aberaeron

*Mae'r gwerthoedd cyflog yn pro-rata.

Ynglŷn â'r rôl

Gymhwyso yn dechrau ar radd 9 cyn symud ymlaen i radd 10 ar ôl 2 flynedd yn y swydd. Bydd gweithwyr cymdeithasol profiadol yn dechrau ar radd 10. Gellir cael mynediad i’r ddau ddisgrifiad swydd Gradd 9 cyn symud ymlaen i radd 10 ar ôl 2 flynedd yn y swydd. 

Mae’r swydd hon yn gymwys ar gyfer taliad atodol marchnad o £200 y mis. Nodwch y bydd y taliad ychwanegol hwn yn cael ei adolygu ar 31 Mawrth 2027. 

Gall yr ymgeisydd llwyddiannus fod yn gymwys i hyd at uchafswm o £8,000 (gan gynnwys TAW) tuag at gost y treuliau a dynnir oherwydd adleoli i Geredigion. Am fwy o wybodaeth, anfonwch e-bost at adnoddaudynol@ceredigion.gov.uk. Am fwy o wybodaeth am sir Ceredigion a’r ffordd o fyw ragorol y mae’n ei gynnig, cliciwch yma. 

Ydych chi’n angerddol am wneud gwahaniaeth gwirioneddol ym mywydau pobl? Ydych chi’n ffynnu mewn amgylchedd cyflym a chydweithredol lle mae ymyrraeth gynnar ac adferiad wrth wraidd popeth a wnewch?

Rydym yn chwilio am Weithiwr Cymdeithasol deinamig a brwdfrydig i ymuno â’n Tîm Brysbennu ac Asesu Integredig. Mae hwn yn gyfle unigryw i fod yn rhan o wasanaeth sy’n edrych ymlaen ac sy’n gweithio ar y cyd i ddarparu cefnogaeth amserol, sy’n canolbwyntio ar y person, i oedolion a’u gofalwyr.

Fel aelod allweddol o’n tîm, byddwch yn:

  • cynnal asesiadau sy’n seiliedig ar gryfderau gydag oedolion a gofalwyr
  • datblygu a gweithredu cynlluniau gofal a chymorth sy’n hyrwyddo annibyniaeth, lles ac adferiad
  • gweithio’n agos gyda phartneriaid iechyd, tai a chymunedol i sicrhau dull cyfannol ac integredig
  • canolbwyntio ar ymyrraeth gynnar i atal angen rhag cynyddu a chefnogi pobl i fyw’r bywydau maen nhw’n eu dewis

Yr hyn rydym yn chwilio amdano:

  • gweithiwr Cymdeithasol cymwys a chofrestredig (mae angen cofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru).
  • profiad neu ddiddordeb mewn gweithio gydag oedolion.
  • sgiliau cyfathrebu a gwneud penderfyniadau cryf.
  • ymrwymiad i hyrwyddo annibyniaeth, urddas a dewis.

Yr hyn a gynigiwn:

  • amgylchedd tîm cefnogol a chynhwysol
  • cyfleoedd ar gyfer datblygiad proffesiynol a dilyniant gyrfa
  • trefniadau gwaith hyblyg
  • mynediad at oruchwyliaeth fyfyriol a chefnogaeth gan gymheiriaid

Disgrifiad Swydd a Manyleb Person (Newydd Gymhwyso)

Disgrifiad Swydd a Manyleb Person (Cymwysedig)

Pecyn Gwybodaeth Tîm Ceredigion

Cysylltwch â ni

Am wybodaeth pellach a thrafodaeth anffurfiol ynglŷn â’r swydd hon cysylltwch âJackie Roberts: Jackie.Roberts@ceredigion.gov.uk

Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.

Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu ac amddiffyn plant ac oedolion sydd mewn perygl Fel rhan o’r ymrwymiad hwn, mae rhai rolau o fewn ein sefydliad yn gofyn am wiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) i asesu addasrwydd ymgeiswyr. Bydd y rôl hon yn gofyn am wiriad DBS Uwch. Sylwch na fydd presenoldeb euogfarnau blaenorol o reidrwydd yn anghymhwyso ymgeisydd rhag ystyriaeth ar gyfer y swydd hon. Rydym yn asesu pob ymgeisydd fesul achos, ac yn ystyried natur a pherthnasedd unrhyw euogfarnau mewn perthynas â chyfrifoldebau’r rôl. Ein nod yw creu amgylchedd gwaith cynhwysol a chefnogol lle caiff pob unigolyn ei drin yn deg a chyda pharch. Os oes gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau am y broses hon, mae croeso i chi gysylltu â ni am eglurhad. Mae eich preifatrwydd a’ch urddas yn hollbwysig i ni drwy gydol y broses recriwtio.

Yr hyn a gynigwn

Cydbwysedd bywyd a gwaith

Cynllun cynilo ffordd o fyw

Cynllun pensiwn cyflogwr hael

Cynllun beicio i'r gwaith

Dysgu a datblygu

Lle byddwch yn gweithio

Porth Gofal – Gwasanaethau Ymyrraeth wedi’u Targedu

Rydym wrth wraidd darpariaeth gofal cymdeithasol gydol oes Ceredigion ac ein nod yw sicrhau bod pob unigolyn yn derbyn yr ymyrraeth orau i ddiwallu ei anghenion neu, lle bo angen, eu tywys at gymorth cynnar neu wasanaethau arbenigol. Ein prif swyddogaethau yw:

  • Tîm Derbyn a Brysbennu Porth Ceredigion
  • Gwasanaethau Ymyrraeth wedi’i Thargedu
  • Gwasanaethau Maethu
  • Gwasanaethau Preswyl a Gofal Dydd
  • Gwasanaethau Tai
  • Storfeydd Cyfarpar Cymunedol Integredig
  • Tîm Dyletswydd Argyfwng
Penmorfa
Penmorfa yw ein swyddfa fwyaf canolog, dyma lle mae ein Prif Weithredwr a'n Cynghorwyr wedi'i leoli. 
Darllen mwy
Aberaeron
Mae Aberaeron yn dref harbwr brydferth ac mae'n un o gyrchfannau gwyliau mwyaf poblogaidd Ceredigion gyda llefydd poblogaidd i aros a bwyta.
Darllen mwy