Rydym yn gweithredu polisi dwyieithog. Gwahoddir ymgeiswyr i wneud cais yn Gymraeg, ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a wneir yn Saesneg.
Dyddiad Cau: 16/04/2026
Cyfeirnod: REQ106566
37 awr / Parhaol
46,142 - 48,226 *
Penmorfa, Aberaeron
Rydym yn edrych i recriwtio unigolyn brwdfrydig sy’n llawn cymhelliant i gynorthwyo’r rheolwr tîm Rheoli Adeiladau y Cyngor yn barhaol, llawn amser.
Gan ffurfio rhan o’r Gwasanaeth Cynllunio ehangach, sy’n delio â dyletswyddau a gofynion statudol o dan y Deddfau Rheoleiddio Adeiladu a deddfwriaeth gysylltiedig arall, byddai’r deiliad swydd yn chwarae rôl allweddol wrth fonitro a rheoleiddio datblygiadau ar draws y sir
O ddydd i ddydd, byddwch yn:
Rydym yn edrych i recriwtio unigolyn:
Mae’r swydd yn gofyn am rywfaint o rhuglder yn yr iaith Gymraeg. Sylwch y bydd ymgeisydd llwyddiannus heb y sgiliau Cymraeg angenrheidiol yn cael cefnogaeth lawn i gyrraedd y safon ofynnol o fewn dwy flynedd ar ôl ei benodi.
Gallwch hefyd ddod o hyd i ragor o wybodaeth ddefnyddiol ar ein gwefan gyrfaoedd. Yma, fe welwch fanylion mewn perthynas â’r hyn y gallwn ei gynnig a pha fath o ffordd o fyw y gallwch ei ddisgwyl. Yn wir, mae Ceredigion yn cael ei chydnabod fel un o’r lleoedd mwyaf diogel i fyw a gweithio, gyda diwylliant bywiog, ysgolion ardderchog ac arfordiroedd hardd a chefn gwlad tonnog.
Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person
Pecyn Gwybodaeth Tîm Ceredigion
Am drafodaeth anffurfiol, cysylltwch â Geraint Williams Rheolwr Gwasanaeth Rheoli Adeiladu ar Ffôn: 01545 572 482
Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.
Cydbwysedd bywyd a gwaith
Cynllun cynilo ffordd o fyw
Cynllun pensiwn cyflogwr hael
Cynllun beicio i'r gwaith
Dysgu a datblygu
Rydym yn chwarae rhan hanfodol yn y gwaith o gyflawni un o brif amcanion Strategaeth Gorfforaethol y Cyngor, sef ceisio rhoi hwb i economi’r Sir a Chanolbarth Cymru. Rydym wedi ein trefnu yn dair prif adran: Gwasanaethau Economi, Cynllunio ac Eiddo. Ein prif swyddogaethau yw: