Rydym yn gweithredu polisi dwyieithog. Gwahoddir ymgeiswyr i wneud cais yn Gymraeg, ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a wneir yn Saesneg.

Cynorthwyydd Harbwr Tymhorol

Dyddiad Cau: 16/04/2026

Cyfeirnod: REQ106567

37 awr / Parhaol

26,403 - 27,694 *

Aberaeron

*Mae'r gwerthoedd cyflog yn pro-rata.

Ynglŷn â'r rôl

Rydym yn awyddus i recriwtio Cynorthwyydd Harbwr Tymhorol i ymuno â’n tîm a helpu i reoli harbyrau hanesyddol y sir.

Byddai’r rôl hon yn berffaith i rywun sydd â phrofiad o’r diwydiant morol neu rywun sydd am gael profiad yn y sector. 

Rydym yn chwilio am unigolyn:

  • sy’n frwdfrydig, sy’n hawdd mynd atynt ac sy’n meddu ar sgiliau cyfathrebu rhagorol
  • sy’n sylwgar ac sy’n meddu ar lygad craff am fanylion
  • sy’n fodlon gweithio heb oruchwyliaeth ac ar eu liwt eu hunain
  • sy’n hapus i weithio allan ym mhob tywydd
  • sy’n meddu ar y gallu i ddefnyddio TGCh
  • sy’n hyblyg ac sy’n barod i addasu gan fod gofyniad i ddeiliad y swydd deithio i leoliadau eraill yn y Sir

O ddydd i ddydd, bydd deiliad y swydd yn gwneud y canlynol:

  • cyflawni amrywiaeth o dasgau gweinyddol a thasgau ymarferol sy’n gysylltiedig â darparu Gwasanaeth Harbyrau Ceredigion ar draws y Sir
  • cynrychioli’r Awdurdod o ran materion sy’n ymwneud â’r harbyrau
  • cynnal archwiliadau rheolaidd a manwl o’r harbyrau i sicrhau bod y Cyngor yn medru cyflawni ei ofynion statudol a pharhau i ddarparu man diogel i’r rheini sy’n defnyddio’r harbwr

Ein cynnig i chi:

Rydym wedi ymrwymo i ddatblygu ein pobl a byddwn nid yn unig yn darparu cymorth i’ch galluogi i gymryd perchnogaeth o feysydd cyfrifoldeb allweddol y rôl hon yn gyflym ac yn hyderus ond yn ogystal, rydym wedi ymrwymo i gefnogi eich datblygiad er mwyn i chi allu bwrw ymlaen â’ch gyrfa gyda ni.

Yn gyfnewid am eich sgiliau a’ch ymrwymiad byddwn yn cynnig ystod o fuddion i chi gan gynnwys lwfans gwyliau blynyddol cystadleuol, cynllun pensiwn gyda chyfraniad o 14.6% gan y cyflogwr, buddion teulu, arbedion ffordd o fyw a phecynnau iechyd a lles.

Mae mwy o wybodaeth am y buddion eang sydd ar gael i’r gweithwyr i’w gweld yma.

Mae’r rôl hon yn cynnwys gwaith dros benwythnosau fel rhan o’r wythnos waith arferol neu drefniadau rota. Bydd hawl gan yr ymgeisydd llwyddiannus gael y tâl canlynol:

  • Dydd Sadwrn  – Amser a chwarter
  • Dydd Sul – Amser a hanner

Hefyd, fel rhan o’r rôl hon, mae’n bosib y bydd angen gweithio ar wyliau banc. Gall yr ymgeisydd llwyddiannus ddewis amser dwbl neu amser sengl a diwrnod i ffwrdd yn lle hynny.

Disgrifiad Swydd a Manyleb Person

Pecyn Gwybodaeth Tîm Ceredigion

Am drafodaeth anffurfiol ynglŷn â’r swydd, cysylltwch ag Arweinydd Gwaith yr Harbyrau, Chay Sanders drwy anfon neges ar clic@ceredigion.gov.uk neu drwy ffonio 01545 570881.

Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.

Yr hyn a gynigwn

Cydbwysedd bywyd a gwaith

Cynllun cynilo ffordd o fyw

Cynllun pensiwn cyflogwr hael

Cynllun beicio i'r gwaith

Dysgu a datblygu

Lle byddwch yn gweithio

Priffyrdd ac Amgylcheddol

Rydym yn darparu gwasanaethau effeithlon, cynaliadwy a dwyieithog i bobl Ceredigion, gan hybu lles yn ein cymunedau, ymfalchïo mewn amgylchedd iach sy’n cael ei gadw’n dda, a hyder yn ein heconomi leol.

  • Gwasanaethau Trafnidiaeth: Trafnidiaeth gorfforaethol; Rheoli’r fflyd; Gwasanaethau parcio; Harbyrau.
  • Cynnal a Chadw Priffyrdd: Ymateb brys; Archwilio priffyrdd; Gwasanaeth y gaeaf.
  • Datblygu Priffyrdd: Cyswllt Cynllunio; Diogelwch ar y ffyrdd; Trafnidiaeth rhanbarthol; Goleuadau stryd; Gwaith stryd Rheoli traffig; CWIC/NMWTRA; Goruchwylio’r dyluniad; Rheoli perygl llifogydd ac arfordiroedd; Gwella priffyrdd.
  • Gwasanaethau Amgylchedd Leol: Casgliadau gwastraff, Safleoedd gwastraff cartref; Cynnal a chadw tiroedd; Glanhau strydoedd.
Aberaeron
Mae Aberaeron yn dref harbwr brydferth ac mae'n un o gyrchfannau gwyliau mwyaf poblogaidd Ceredigion gyda llefydd poblogaidd i aros a bwyta.
Darllen mwy