Rydym yn gweithredu polisi dwyieithog. Gwahoddir ymgeiswyr i wneud cais yn Gymraeg, ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a wneir yn Saesneg.
Dyddiad Cau: 16/04/2026
Cyfeirnod: REQ106569
31 awr / Cyfnod Penodedig
26,403 - 27,694 *
Aberystwyth
Rydym yn edrych i recriwtio Cydlynydd Gwasanaethau Blaen Tŷ a Gwerthiant i ymuno â’n gwasanaeth Ysgolion, Gydol Oes Dysgu a Diwylliant. Mae hwn yn gontract cyfnod penodol sy’n dod i ben 31/08/2026.
Ynglŷn â’r rôl
Croesawu pobl i Amgueddfa Ceredigion, rheoli’r siop a goruchwylio’r gwirfoddolwyr blaen tŷ. Hyrwyddo’r Amgueddfa a’i gweithgareddau. Sicrhau diogelwch yr amgueddfa, yr ymwelwyr a’r staff.
Ynglŷn yr ymgeisydd
Oherwydd gofynion y rôl, mae’n rhaid i’r ymgeisydd llwyddiannus fod â lefel o ruglder yn y Gymraeg ar benodiad. Gweler y fanyleb person am fanylion pellach.
Ein cynnig i chi
Rydym wedi ymrwymo ymrymwedig i fuddsoddi yn ein pobl a byddwn nid yn unig yn cynnig cefnogaeth i’ch galluogi i berchenogi meysydd cyfrifoldeb allweddol y swydd hon yn gyflym ac yn hyderus ond hefyd yn cefnogi eich datblygiad er mwyn i chi allu gwneud cynnydd yn eich gyrfa gyda ni.
Yn gyfnewid am eich sgiliau a’ch ymrwymiad, byddwn yn cynnig ystod o fuddion gweithwyr i chi gan gynnwys cynllun oriau hyblyg, gweithio hybrid, lwfans gwyliau blynyddol cystadleuol, cefnogaeth gynhwysfawr i weithwyr o ran iechyd a lles a chynllun cyfraniadau pensiwn hael.
Gellir cael mwy o wybodaeth am ein hystod eang o fuddion gweithwyr ar ein gwefan gyrfaoedd.
Cyfweliadau
Cynhelir cyfweliadau ar 29/04/2026. Er mwyn lleihau’r tarfu ar ymgeiswyr, bydd cyfweliadau’n cael eu cynnal yn rhithiol.
Manylion Ychwanegol
Mae’r rôl hon yn cynnwys gweithio ar benwythnosau fel rhan o wythnos waith arferol neu rota. Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus hawl i’r tâl canlynol:
Efallai y bydd y rôl hon yn gofyn am weithio gŵyl y banc. Gall yr ymgeisydd llwyddiannus dderbyn dewis o amser dwbl neu amser sengl a diwrnod i ffwrdd yn lle hynny.
Rydym yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy’n ceisio secondiad. Argymhellir gofyn am ganiatâd rheolwr llinell/cyflogwr cyn gwneud cais i sicrhau y gallwch ddychwelyd i’ch swydd barhaol unwaith y bydd y secondiad wedi dod i ben.
Disgrifiad Swydd a Manyleb Person
Pecyn Gwybodaeth Tîm Ceredigion
Cysylltwch â ni
Am wybodaeth pellach a thrafodaeth anffurfiol ynglŷn â’r swydd hon ffoniwch David Salter ar 01970 633 078 neu ebost david.salter@ceredigion.gov.uk
Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.
Cydbwysedd bywyd a gwaith
Cynllun cynilo ffordd o fyw
Cynllun pensiwn cyflogwr hael
Cynllun beicio i'r gwaith
Dysgu a datblygu
Rydym yn cynnig her a chefnogaeth briodol i’n hysgolion, i’w helpu i gyflwyno addysg o’r radd flaenaf i bob disgybl, ar draws yr ystod oedran a gallu. Mae ein prif swyddogaethau yn cynnwys: