Rydym yn gweithredu polisi dwyieithog. Gwahoddir ymgeiswyr i wneud cais yn Gymraeg, ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a wneir yn Saesneg.
Dyddiad Cau: 19/04/2026
Cyfeirnod: REQ106570
37 awr / Parhaol
35,412 - 37,280 *
Penmorfa, Aberaeron
A ydych chi’n angerddol am hyrwyddo annibyniaeth a darparu gofal o ansawdd uchel sy’n canolbwyntio ar y person?
Rydym yn chwilio am Arweinydd Tîm profiadol a brwdfrydig i ymuno â’n Tîm Gofal Targedig a Galluogi – gwasanaeth ymatebl tymor byr sy’n chwarae rhan hanfodol wrth gefnogi pobl i adennill sgiliau, aros yn annibynnol gartref, ac osgoi derbyniadau diangen i’r Ysbyty.
Mae hon yn rôl arweinyddiaeth ddeinamig a gwerth chweil lle byddwch chi’n arwain tîm sy’n seiliedig ar ardaloedd sy’n darparu gwasnaethau galluogi, pontio ac ymate cyflym ledled Ceredigion.
Rydym yn chwilio am rywun sydd â sgiliau partneriaeth, cyfathrebu a dadansoddi cryf, a phrofiad o gomisiynu gofal cymdeithasol neu gydlynu gwasanaethau.Yn gyfnewid, byddwch yn ymuno â chyngor cefnogol, sy’n edrych ymlaen ac sy’n gwerthfawrogi arloesedd, hyblygrwydd ac effaith gymunedol.
Disgrifiad Swydd a Manylen Person
Pecyn Gwybodaeth Tîm Ceredigion
Am ragor o wybodaeth a sgwrs anffurfiol am y swydd hon cysylltwch â Dawn James ar dawn.james@ceredigion.gov.uk
Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.
Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu ac amddiffyn plant ac oedolion sydd mewn perygl Fel rhan o’r ymrwymiad hwn, mae rhai rolau o fewn ein sefydliad yn gofyn am wiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) i asesu addasrwydd ymgeiswyr. Bydd y rôl hon yn gofyn am wiriad DBS Uwch. Sylwch na fydd presenoldeb euogfarnau blaenorol o reidrwydd yn anghymhwyso ymgeisydd rhag ystyriaeth ar gyfer y swydd hon. Rydym yn asesu pob ymgeisydd fesul achos, ac yn ystyried natur a pherthnasedd unrhyw euogfarnau mewn perthynas â chyfrifoldebau’r rôl. Ein nod yw creu amgylchedd gwaith cynhwysol a chefnogol lle caiff pob unigolyn ei drin yn deg a chyda pharch. Os oes gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau am y broses hon, mae croeso i chi gysylltu â ni am eglurhad. Mae eich preifatrwydd a’ch urddas yn hollbwysig i ni drwy gydol y broses recriwtio.
Cydbwysedd bywyd a gwaith
Cynllun cynilo ffordd o fyw
Cynllun pensiwn cyflogwr hael
Cynllun beicio i'r gwaith
Dysgu a datblygu
Rydym wrth wraidd darpariaeth gofal cymdeithasol gydol oes Ceredigion ac ein nod yw sicrhau bod pob unigolyn yn derbyn yr ymyrraeth orau i ddiwallu ei anghenion neu, lle bo angen, eu tywys at gymorth cynnar neu wasanaethau arbenigol. Ein prif swyddogaethau yw: