Rydym yn gweithredu polisi dwyieithog. Gwahoddir ymgeiswyr i wneud cais yn Gymraeg, ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a wneir yn Saesneg.

Uwch Swyddog Iechyd yr Amgylchedd

Dyddiad Cau: 07/05/2026

Cyfeirnod: REQ106584

37 awr / Parhaol

46,142 - 48,226 *

Penmorfa, Aberaeron

*Mae'r gwerthoedd cyflog yn pro-rata.

Ynglŷn â'r rôl

Rydym am recriwtio Uwch Swyddog Iechyd yr Amgylchedd i ymuno â’n Tîm Diogelu’r Cyhoedd ar gytundeb parhaol, amser llawn .

Am y rôl

Mae’r rôl hon yn gofyn i’r ymgeisydd fod yn rhan o dîm ymroddedig a phroffesiynol o Swyddogion Iechyd yr Amgylchedd, a Swyddogion Diogelu’r Cyhoedd sy’n gyfrifol ac yn atebol am orfodaeth, rheoli, datblygu a chynnal safonau Iechyd yr Amgylchedd a Diogelu’r Cyhoedd ledled Ceredigion.

Bydd y rôl hon yn gyfrifol am gyflwyno ystod eang o swyddogaethau Diogelu’r Cyhoedd, gan gynnwys diogelwch a safonau bwyd, diogelu iechyd y cyhoedd, diogelu’r amgylchedd, iechyd a lles anifeiliaid, a gorfodi iechyd a diogelwch. Gan weithredu fel swyddog awdurdodedig y Cyngor, bydd deiliad y swydd yn ymgymryd â dyletswyddau rheoleiddio, ymchwilio a gorfodi er mwyn diogelu iechyd y cyhoedd a’r amgylchedd, yn ogystal â darparu rheolaeth weithredol ddyddiddydd a goruchwyliaeth ar staff sy’n cyflwyno’r gwasanaethau hyn. O ddydd i ddydd byddwch yn:

  • Ymchwilio i amryw o achosion ar draws y ddeddfwriaeth a pharatoi tystiolaeth a deunydd arall ar gyfer cychwyn achos cyfreithiol, gan gynnwys cyflwyno hysbysiadau statudol, a rhoi tystiolaeth yn y llys, ymholiadau cyhoeddus a thribiwnlysoedd fel y bo’n briodol.
  • Rheoli aelodau’r tîm i alluogi cyflawni’r camau gweithredu a’r targedau a osodir yng Nghynllun blynyddol y Gwasanaeth.
  • Sicrhau bod aelodau’r tîm yn cadw at holl bolisïau, mentrau a gweithdrefnau perthnasol y Cyngor mewn cysylltiad â chyflawni eu gweithgarwch gwaith wrth gyflenwi gwasanaethau.
  • Rheoli gwaith ymchwilio tîm y gwasanaeth ac adrodd i Reolwr Iechyd yr Amgylchedd y materiel hynny sydd angen ymyrraeth ffurfiol bellach.

Ein hymgeisydd delfrydol

Rydym am recriwtio unigolyn:

  • Yn gallu adeiladu perthnasoedd gwaith effeithiol o fewn a thu allan i faes gwasanaeth y gwaith.
  • Y gallu i reoli ac ysgogi timau a chydweithwyr i gyrraedd targedau a drafodwyd.
  • Y gallu i gymhwyso sgiliau dadansoddi i ystod o broblemau ymarferol.
  • Ymrwymiad i weithredu polisïau, nodau ac amcanion y Cyngor.

Profiad

Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus o leiaf 5 mlynedd o brofiad o ddarparu gwasanaethau cyhoeddus gydag o leiaf 2 flynedd o brofiad yn gweithio mewn amgylchedd rheoleiddio, Iechyd yr Amgylchedd neu wasanaeth rheoleiddio tebyg os yn bosib.

Cymraeg

Rydym yn croesawu ceisiadau gan y di-Gymraeg. Bydd pob ymgeisydd llwyddiannus sydd angen cymorth i ddysgu/gwella eu sgiliau iaith Gymraeg yn cael cynnig gwersi wedi’u hariannu, yn ystod amser gwaith, i helpu i gyrraedd y safon a ddymunir.

Disgrifiad Swydd a Manyleb Person

Pecyn Gwybodaeth Tîm Ceredigion

Ein cynnig i chi

Rydym wedi ymrwymo i ddatblygu ein pobl a byddwn nid yn unig yn darparu cymorth i’ch galluogi i gymryd perchnogaeth o feysydd cyfrifoldeb allweddol y rôl hon yn gyflym ac yn hyderus ond yn ogystal, rydym wedi ymrwymo i gefnogi eich datblygiad er mwyn i chi allu bwrw ymlaen â’ch gyrfa gyda ni.

Yn gyfnewid am eich sgiliau a’ch ymrwymiad byddwn yn cynnig ystod o fuddion i chi i weithwyr gan gynnwys gweithio hyblyg, lwfans gwyliau blynyddol cystadleuol, buddion teulu, arbedion ffordd o fyw a phecynnau iechyd a lles.

Gellir cael mwy o wybodaeth am ein hystod eang o fuddion gweithwyr yma.  

Credwn fod cydbwysedd bywyd a gwaith yn holl bwysig. I’ch cefnogi i gyflawni hyn, bydd gennych fynediad at y buddion dewisol canlynol: 

  • Gweithio Hybrid: Yn amodol ar fodloni rhai amodau, gallwch ddewis gweithio o’ch cartref neu mewn swyddfa. Oherwydd natur y rôl, bydd angen i chi deithio o fewn Ceredigion yn rheolaidd. 
  • Amser-fflecsi: Gellir gweithio oriau o fewn lled band diffiniedig, o ddydd Llun i ddydd Gwener, yn amodol ar anghenion gwasanaeth. 

Am fwy o wybodaeth am sir Ceredigion a’r ffordd o fyw mae’n ei chynnig cliciwch yma. 

Cysylltwch â ni 

Am wybodaeth pellach a thrafodaeth anffurfiol ynglŷn â’r swydd hon cysylltwch Heddwyn Evans ar publicprotection@ceredigion.gov.uk. 

Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.

Yr hyn a gynigwn

Cydbwysedd bywyd a gwaith

Cynllun cynilo ffordd o fyw

Cynllun pensiwn cyflogwr hael

Cynllun beicio i'r gwaith

Dysgu a datblygu

Lle byddwch yn gweithio

Polisi, Perfformiad a Diogelu’r Cyhoedd

Rydym yn arwain y ffordd o ran perfformiad corfforaethol, polisi corfforaethol, partneriaethau strategol, ymgysylltu, cydlyniant cymunedol ac argyfyngau sifil, ac mae gennym hefyd gyfrifoldeb strategol a gweithredol dros ddiogelu’r cyhoedd: iechyd yr amgylchedd, twyll bwyd, safonau trwyddedu a masnachu.  Mae ein prif swyddogaethau yn cynnwys: 

  • Cwynion, Canmoliaeth a Rhyddid Gwybodaeth
  • Polisi a Pherfformiad Corfforaethol: Perfformiad corfforaethol; Rhestr eiddo; Ymchwil.
  • Diogelu’r Cyhoedd: Iechyd yr amgylchedd; Twyll bwyd; Trwyddedu; Safonau masnach; Rheoli Llygredd; Rheoli Pla; Pwysau a Mesurau; Clefydau Trosglwyddadwy; Iechyd a Diogelwch; Iechyd Anifeiliaid.
  • Partneriaethau Strategol, Ymgysylltu ac Ymchwil: Parhad busnes; Argyfyngau sifil; Partneriaeth diogelwch cymunedol; Ymgysylltu; Cydraddoldeb; Bwrdd gwasanaethau cyhoeddus; Rhaglenni ffoaduriaid.
Penmorfa
Penmorfa yw ein swyddfa fwyaf canolog, dyma lle mae ein Prif Weithredwr a'n Cynghorwyr wedi'i leoli. 
Darllen mwy
Aberaeron
Mae Aberaeron yn dref harbwr brydferth ac mae'n un o gyrchfannau gwyliau mwyaf poblogaidd Ceredigion gyda llefydd poblogaidd i aros a bwyta.
Darllen mwy