Rydym yn gweithredu polisi dwyieithog. Gwahoddir ymgeiswyr i wneud cais yn Gymraeg, ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a wneir yn Saesneg.

Swyddog Dilysu x 2

Dyddiad Cau: 30/04/2026

Cyfeirnod: REQ106590

37 awr / Parhaol

26,403 - 27,694 *

Penmorfa, Aberaeron

*Mae'r gwerthoedd cyflog yn pro-rata.

Ynglŷn â'r rôl

Mae un swydd llawn amser, barhaol, ac un swydd llawn amser, dros dro fel Swyddog Dilysu wedi codi o fewn y Tîm Cymorth Gwasanaethau Corfforaethol, sy’n cynorthwyo Gwasanaethau Rheoli Datblygu. Mae’r Tîm Dilysu yn cyflawni swyddogaeth allweddol wrth ddilysu ceisiadau cynllunio a gyflwynir i’r Cyngor.

Ynglŷn â’r Rôl:

Rôl allweddol y Swyddog Dilysu fydd rheoli’r broses o dderbyn, dilysu a chofrestru ceisiadau cynllunio, a cheisiadau am gyngor cyn-ymgeisio. Bydd yn ofynnol i’r deiliad swydd fewnbynnu, diweddaru a thynnu gwybodaeth o systemau TG; casglu data; cynnal cofnodion y gronfa ddata electronig a, lle bo’n briodol, gofnodion ar y wefan. Bydd gofyn iddynt hefyd ymgymryd ag amrywiaeth o ddyletswyddau gweinyddol sy’n gysylltiedig ag amgylchedd swyddfa prysur, gan gynnwys goruchwylio cyfrifon e-bost; ymateb i alwadau ffôn; ymdrin â gohebiaeth sy’n dod i mewn ac yn mynd allan.

Ynglŷn â’r Ymgeisydd:

Rydym yn chwilio am unigolyn brwdfrydig a llawn cymhelliant gyda NVQ lefel 4 neu uwch mewn Astudiaethau Busnes neu brofiad cyfatebol a enillwyd dros o leiaf 4 blynedd. Byddai’r cyfle yn gweddu i rywun sy’n drefnus, sydd â sylw da i fanylion, lefel uchel o lythrennedd cyfrifiadurol a gallu technegol, sgiliau cyfathrebu da ac agwedd frwdfrydig a chadarnhaol at waith. Byddai gwybodaeth am systemau TGCh fel Tascomi a QGIS yn fantais amlwg.

Oherwydd lefel y cyswllt ag aelodau’r cyhoedd, dros y ffôn a hefyd drwy e-bost a gohebiaeth ar bapur, mae’r angen i gyrraedd y lefelau Cymraeg dymunol yn hanfodol.

Nodwch yn glir yn eich cais a ydych chi’n gwneud cais am y swydd barhaol neu’r swydd dros dro.

Disgrifiad Swydd a Manyleb Person

Pecyn Gwybodaeth Tîm Ceredigion

Cynhelir cyfweliadau ar yr wythnos yn dechrau 11/5/26

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â Keith Dale (Arweinydd Tim – Cymorth Corfforaethol i Wasanaethau) keith.dale@ceredigion.gov.uk

Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.

Yr hyn a gynigwn

Cydbwysedd bywyd a gwaith

Cynllun cynilo ffordd o fyw

Cynllun pensiwn cyflogwr hael

Cynllun beicio i'r gwaith

Dysgu a datblygu

Lle byddwch yn gweithio

Gwasanaethau Democrataidd

Rydym yn chwarae rhan allweddol yn sicrhau rheolaeth esmwyth ac effeithlon ar broses gwneud penderfyniadau’r Cyngor, gan gynnwys cefnogaeth a chyngor i Gynghorwyr; Cefnogaeth PA, gweinyddol a rheoli prosiect i bob maes gwasanaeth; hwyluso etholiadau; tim cyfathrebu; cyfieithu a swyddog polisi Iaith Gymraeg. Mae ein prif swyddogaethau yn cynnwys

  • Cefnogaeth Gwasanaeth Corfforaethol: PA a chefnogaeth weinyddol; Cymorth busnes gan gynnwys rheoli prosiect a chymryd cofnodion.
  • Gwasanaethau Democrataidd: Cynghorwyr; Pwyllgorau a Phwyllgorau Rheoleiddio Cyngor, Cabinet, Trosolwg a Chraffu.
  • Gwasanaethau Etholiadol: Etholiadau cyffredinol a lleol; Rheoli’r gofrestr etholiadol.
  • Tim Cyfathrebu: Rheoli gweithgareddau cyfathrebu yn gorfforaethol; rhoi cymorth i wasanaethau mewn ymgyrchoedd a phrosiectau; delio â’r wasg a’r cyfryngau; datblygu a chyhoeddi datganiadau i’r wasg; rheoli tudalennau cyfryngau cymdeithasol.
  • Cyfieithi: Dogfennau a chyfieithu ar y pryd.
  • Safonau’r Iaith Cymraeg: Gweithredol; Llunio polisi; Hyrwyddo; Monitro; Darparu gwasanaeth.
Penmorfa
Penmorfa yw ein swyddfa fwyaf canolog, dyma lle mae ein Prif Weithredwr a'n Cynghorwyr wedi'i leoli. 
Darllen mwy
Aberaeron
Mae Aberaeron yn dref harbwr brydferth ac mae'n un o gyrchfannau gwyliau mwyaf poblogaidd Ceredigion gyda llefydd poblogaidd i aros a bwyta.
Darllen mwy