Rydym yn gweithredu polisi dwyieithog. Gwahoddir ymgeiswyr i wneud cais yn Gymraeg, ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a wneir yn Saesneg.
Dyddiad Cau: 11/05/2026
Cyfeirnod: REQ106591
37 awr / Parhaol
49,215 - 59,809 *
Canolfan Rheidol, Aberystwyth
Soulbury Graddfa A 3-8 (£49,215 – £59,809) a hyd at 3 phwynt SPA (os yn gymwys).
Hysbyseb yw hon ar gyfer 1 swydd barhaol ac 1 swydd dros dro i lenwi cyfnod mamolaeth. Nodwch yn eich cais a ydych chi’n gwneud cais am y swydd barhaol, y swydd dros dro, neu’r ddwy.
Disgrifiad y rôl
Y gallu i gyfathrebu yn y Gymraeg: Hanfodol (Bydd yr Awdurdod yn cefnogi’r ymgeisydd llwyddiannus i ddatblygu’r iaith tra yn y swydd).
Mae Ceredigion yn ardal wledig, brydferth gydag arfordir dramatig a chymunedau llawn bwrlwm. Mae’n sir sy’n gyfoethog o ran hanes, diwylliant a chymuned. Mae ysgolion Ceredigion yn anelu at ddarparu’r safonau uchaf o ran addysg ac mae perthynas da iawn rhwng yr ysgolion a gwasanaethau canolog y Sir.
Rydym yn edrych am seicolegydd addysg i ymuno a’n gwasanaeth hapus a brwdfrydig, ac sy’n rhan o dîm ehangach Anghenion Dysgu Ychwanegol, Cynhwysiant a Lles. Mae’r gwasanaeth yn uchel ei pharch o fewn Gwasanaethau Ysgolion.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gyfrifol am ddarparu amrediad llawn o wasanaethau seicolegol o fewn Sir Ceredigion er mwyn creu newid, codi safonau a sicrhau cynhwysiant addysgol. Rydym yn cyd-weithio’n llwyddiannus gydag ysgolion ac yn gweithredu dull o ganolbwyntio ar ddatrysiad. Rydym yn gweithredu mewn dull ataliol, gyda’r rhyddid i ddefnyddio amrediad o ddulliau seicolegol i wneud gwahaniaeth i ddisgyblion.
Rydym yn croesawi ymgeiswyr sy’n medru dechrau yn syth neu fyfyrwyr sydd ym Mlwyddyn 3 o’u doethuriaeth ar hyn o bryd.
Er mwyn cynnal safonau moesegol mae’n hanfodol i’r ymgeisydd fod wedi’i gofrestru, a chynnal cofrestriad parhaus, gyda’r HCPC.
Bydd angen gwiriad manylach y Gwasanaethau Datgelu a Gwahardd Plant ac Oedolion (DBS) ar gyfer y swydd hon.
Disgrifiad Swydd a Manyleb Person
Pecyn Gwybodaeth Tîm Ceredigion
Am sgwrs anffurfiol, cysylltwch ag Angharad Behnan, Prif Seicolegydd Addysg ar ebost Angharad.Behnan@ceredigion.gov.uk er mwyn trefnu sgwrs ffôn.
Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.
Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu ac amddiffyn plant ac oedolion sydd mewn perygl Fel rhan o’r ymrwymiad hwn, mae rhai rolau o fewn ein sefydliad yn gofyn am wiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) i asesu addasrwydd ymgeiswyr. Bydd y rôl hon yn gofyn am wiriad DBS Uwch. Sylwch na fydd presenoldeb euogfarnau blaenorol o reidrwydd yn anghymhwyso ymgeisydd rhag ystyriaeth ar gyfer y swydd hon. Rydym yn asesu pob ymgeisydd fesul achos, ac yn ystyried natur a pherthnasedd unrhyw euogfarnau mewn perthynas â chyfrifoldebau’r rôl. Ein nod yw creu amgylchedd gwaith cynhwysol a chefnogol lle caiff pob unigolyn ei drin yn deg a chyda pharch. Os oes gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau am y broses hon, mae croeso i chi gysylltu â ni am eglurhad. Mae eich preifatrwydd a’ch urddas yn hollbwysig i ni drwy gydol y broses recriwtio.
Cydbwysedd bywyd a gwaith
Cynllun cynilo ffordd o fyw
Cynllun pensiwn cyflogwr hael
Cynllun beicio i'r gwaith
Dysgu a datblygu
Rydym yn cynnig her a chefnogaeth briodol i’n hysgolion, i’w helpu i gyflwyno addysg o’r radd flaenaf i bob disgybl, ar draws yr ystod oedran a gallu. Mae ein prif swyddogaethau yn cynnwys: