Rydym yn gweithredu polisi dwyieithog. Gwahoddir ymgeiswyr i wneud cais yn Gymraeg, ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a wneir yn Saesneg.
Dyddiad Cau: 06/05/2026
Cyfeirnod: REQ106595
37 awr / Parhaol
31,537 - 33,699 *
Canolfan Rheidol, Aberystwyth
Rydym am recriwtio Cynorthwyydd Cyfrifeg i ymuno â’n Tîm Cyllid a Chaffael ar gytundeb parhaol, llawn amser.
O ddydd i ddydd, byddwch yn gyfrifol am amrywiaeth o dasgau sy’n gysylltiedig â chyfrifyddu/cyllid, gyda chyfrifoldebau allweddol yn cynnwys:
Ein cynnig i chi
Rydym wedi ymrwymo i ddatblygu ein pobl a byddwn nid yn unig yn darparu cymorth i’ch galluogi i gymryd perchnogaeth o feysydd cyfrifoldeb allweddol y rôl hon yn gyflym ac yn hyderus ond yn ogystal, rydym wedi ymrwymo i gefnogi eich datblygiad er mwyn i chi allu bwrw ymlaen â’ch gyrfa gyda ni.
Yn gyfnewid am eich sgiliau a’ch ymrwymiad byddwn yn cynnig ystod o fuddion i chi, gan gynnwys gweithio hyblyg, lwfans gwyliau blynyddol cystadleuol, cynllun pensiwn gyda chyfraniad cyflogwr o 14.6%, buddion teulu, arbedion ffordd o fyw a phecynnau iechyd a lles.
Gellir cael mwy o wybodaeth am ein hystod eang o fuddion gweithwyr yma.
Credwn fod cydbwysedd bywyd a gwaith yn holl bwysig. I’ch cefnogi i gyflawni hyn, bydd gennych fynediad at y buddion dewisol canlynol:
Disgrifiad Swydd a Manyleb Person
Pecyn Gwybodaeth Tîm Ceredigion
Cyfweliadau
Er mwyn lleihau’r tarfu ar ymgeiswyr, bydd cyfweliadau’n cael eu cynnal yn rhithiol.
Cysylltwch â ni
Am wybodaeth pellach a thrafodaeth anffurfiol ynglŷn â’r swydd hon cysylltwch â Natalie Jones ar 01970 633135 neu natalie.jones2@ceredigion.gov.uk
Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.
Cydbwysedd bywyd a gwaith
Cynllun cynilo ffordd o fyw
Cynllun pensiwn cyflogwr hael
Cynllun beicio i'r gwaith
Dysgu a datblygu
Rydym yn sicrhau bod y Cyngor yn parhau i fod yn gadarn yn ariannol drwy fonitro arian yn ofalus ac yn gyfrifol, caffael corfforaethol effeithiol, talu’n brydlon ac yn gywir o ran asesiadau ariannol / credydwyr a chasglu dyledion / trethiant lleol yn brydlon.