Rydym yn gweithredu polisi dwyieithog. Gwahoddir ymgeiswyr i wneud cais yn Gymraeg, ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a wneir yn Saesneg.
Dyddiad Cau: 10/05/2026
Cyfeirnod: REQ106605
37 awr / Parhaol
88,853 - 94,961 *
Penmorfa, Aberaeron
Gall yr ymgeisydd llwyddiannus fod yn gymwys i hyd at uchafswm o £8,000 (gan gynnwys TAW) tuag at gost y treuliau a dynnir oherwydd adleoli i Geredigion. Am fwy o wybodaeth, anfonwch e-bost at adnoddaudynol@ceredigion.gov.uk. Am fwy o wybodaeth am sir Ceredigion a’r ffordd o fyw ragorol y mae’n ei gynnig, cliciwch yma.
Sylwch fod y cyflog a hysbysebir ar gyfer y swydd hon yn amodol ar ddyfarniad cyflog sydd ar ddod. Bydd y cyflog terfynol yn cael ei addasu yn unol â’r dyfarniad cyflog a gytunwyd yn genedlaethol.
A ydych chi’n arweinydd uwch profiadol gyda chefndir cryf mewn gofal cymdeithasol, iechyd neu lywodraeth leol?
A oes gennych hanes profedig o arwain gwasanaethau cymhleth ac amlddisgyblaethol, gwella perfformiad, a sicrhau canlyniadau diogel ac o ansawdd uchel mewn amgylchedd heriol a deinamig?
Rydym yn chwilio am arweinydd profiadol sy’n cael ei yrru gan werthoedd i arwain Porth Gofal – portffolio hanfodol sy’n cwmpasu brysbennu ac asesu integredig, gwasanaethau tymor byr a wedi’u targedu, dyletswyddau argyfwng a darpariaeth y tu allan i oriau, taliadau uniongyrchol a chyfarpar gofal cymunedol, galluogi drwy ofal cartref, yn ogystal â gwasanaethau dydd a gofal preswyl i oedolion a phlant. Mae hon yn rôl allweddol o fewn model arweinyddiaeth gyfunol y Cyngor, gan gyfuno atebolrwydd clir dros wasanaethau â chyfrifoldeb corfforaethol ar y cyd.
Beth fyddwch yn ei wneud
Beth y byddwch yn ei gyflwyno
Beth allwn ni ei gynnig i chi
Gwybodaeth ychwanegol
Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.
Cydbwysedd bywyd a gwaith
Cynllun cynilo ffordd o fyw
Cynllun pensiwn cyflogwr hael
Cynllun beicio i'r gwaith
Dysgu a datblygu
Rydym wrth wraidd darpariaeth gofal cymdeithasol gydol oes Ceredigion ac ein nod yw sicrhau bod pob unigolyn yn derbyn yr ymyrraeth orau i ddiwallu ei anghenion neu, lle bo angen, eu tywys at gymorth cynnar neu wasanaethau arbenigol. Ein prif swyddogaethau yw:
Gwasanaethau Brysbennu ac Asesu Integredig
Gwasanaethau Uniongyrchol