Rydym yn gweithredu polisi dwyieithog. Gwahoddir ymgeiswyr i wneud cais yn Gymraeg, ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a wneir yn Saesneg.

Swyddog Asedau Cynorthwyol

Dyddiad Cau: 13/05/2026

Cyfeirnod: REQ106615

37 awr / Parhaol

31,537 - 33,699 *

Penmorfa, Aberaeron

*Mae'r gwerthoedd cyflog yn pro-rata.

Ynglŷn â'r rôl

Noder fod y cyflog a hysbysebir ar gyfer y swydd hon yn amodol ar ddyfarniad cyflog cenedlaethol 2026/2027 sydd ar ddod. Caiff y cyflog terfynol ei addasu yn unol â hynny unwaith y bydd y dyfarniad wedi’i gytuno.

Mae Cyngor Sir Ceredigion yn awyddus i benodi unigolyn brwdfrydig gyda chymwysterau a/neu brofiad yn y gwaith o reoli asedau neu eiddo.

Fel Swyddog Asedau Cynorthwyol, byddwch yn chwarae rhan hanfodol wrth gefnogi rheolaeth a chynnal asedau’r cyngor, gan gynnwys tir ac adeiladau. Bydd eich cyfrifoldebau yn cynnwys cynorthwyo gydag archwiliadau eiddo, cynnal cofnodion asedau cywir, cydlynu atgyweiriadau a chynnal a chadw, a darparu cymorth gweinyddol i’r tîm Asedau. Mae’r swydd hon yn cynnig cyfle gwych i gyfrannu at reolaeth effeithlon ac effeithiol asedau Cyngor Sir Ceredigion, ac i ddatblygu eich gyrfa yn y sector hwn.

Ymhlith y prif ddyletswyddau mae:

  • Cynorthwyo gydag archwiliadau eiddo i sicrhau cydymffurfiaeth â rheoliadau iechyd a diogelwch, codau adeiladu a safonau cynnal a chadw.
  • Cynnal a diweddaru cofnodion asedau cywir, gan gynnwys manylion eiddo, adroddiadau cyflwr, a rhestrau asedau.
  • Cydlynu ac amserlennu prosiectau atgyweirio, cynnal a chadw ac adnewyddu ar gyfer asedau sy’n eiddo i’r cyngor, gan gysylltu â chontractwyr, cyflenwyr a rhanddeiliaid mewnol yn ôl yr angen.
  • Cynnal ymchwil a chasglu gwybodaeth am faterion sy’n gysylltiedig ag asedau, megis gwerth eiddo, tueddiadau’r farchnad, ac arferion gorau cynnal a chadw.

Credwn fod cydbwysedd bywyd a gwaith yn holl bwysig. I’ch cefnogi i gyflawni hyn, bydd gennych fynediad at y buddion dewisol canlynol:

  • Gweithio Hybrid: Yn amodol ar fodloni rhai amodau, gallwch ddewis gweithio o’ch cartref neu mewn swyddfa.
  • Amser-fflecsi: Gellir gweithio oriau o fewn lled band diffiniedig, o ddydd Llun i ddydd Gwener, yn amodol ar anghenion gwasanaeth.

Disgrifiad Swydd a Manyleb Person

Pecyn Gwybodaeth Tîm Ceredigion

Bydd angen i chi fod wedi’ch addysgu hyd at lefel gradd mewn maes perthnasol neu feddu ar brofiad perthnasol (o leiaf 4 blynedd) o weithio yn y maes hwn. Yn ddelfrydol, bydd gennych gymhwyster RICS, neu’n gweithio tuag at ennill cymhwyster RICS.

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â: Graeme Lane – Graeme.lane2@ceredigion.gov.uk

Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.

Yr hyn a gynigwn

Cydbwysedd bywyd a gwaith

Cynllun cynilo ffordd o fyw

Cynllun pensiwn cyflogwr hael

Cynllun beicio i'r gwaith

Dysgu a datblygu

Lle byddwch yn gweithio

Economi ac Adfywio

Rydym yn chwarae rhan hanfodol yn y gwaith o gyflawni un o brif amcanion Strategaeth Gorfforaethol y Cyngor, sef ceisio rhoi hwb i economi’r Sir a Chanolbarth Cymru. Rydym wedi ein trefnu yn dair prif adran: Gwasanaethau Economi, Cynllunio ac Eiddo.  Ein prif swyddogaethau yw:

  • Twf a Menter: Cefnogi twf ac adfywiad economaidd yn lleol ac ar draws y rhanbarth; Tyfu Canolbarth Cymru; yr Ystâd Gorfforaethol a Chyfleoedd Datblygu; Cefnogaeth Prosiect; Cyllid Ewropeaidd a lleol; Canolfan Fwyd Cymru a chefnogi datblygiad Bwyd-Amaeth; Hyrwyddo a datblygu twristiaeth; Canolfannau Gwybodaeth i Dwristiaid; Arfordir a Chefn Gwlad
  • Gwasanaethau Cynllunio: Cefnogi twf trwy’r Gwasanaethau Cynllunio a Rheoli Adeiladu; Polisi Cynllunio Defnydd Tir Strategol a Lleol; Rheoli Datblygu; Rheoli Adeiladu; a Chwiliadau Tir.
  • Gwasanaethau Eiddo: Cefnogi rhaglen y Cyngor trwy Reoli Prosiectau; Cynnal a Chadw Eiddo ac Adeiladau; Rheoli Cyfleusterau; Rheoli Carbon; a’r Defnydd Effeithlon o Eiddo’r Cyngor.
Penmorfa
Penmorfa yw ein swyddfa fwyaf canolog, dyma lle mae ein Prif Weithredwr a'n Cynghorwyr wedi'i leoli. 
Darllen mwy
Aberaeron
Mae Aberaeron yn dref harbwr brydferth ac mae'n un o gyrchfannau gwyliau mwyaf poblogaidd Ceredigion gyda llefydd poblogaidd i aros a bwyta.
Darllen mwy