Rydym yn gweithredu polisi dwyieithog. Gwahoddir ymgeiswyr i wneud cais yn Gymraeg, ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a wneir yn Saesneg.

Uwch Swyddog Cymorth ir Gwasanaethau

Dyddiad Cau: 26/05/2026

Cyfeirnod: REQ106625

37 awr / Parhaol

26,403 - 27,694 *

Penmorfa, Aberaeron

*Mae'r gwerthoedd cyflog yn pro-rata.

Ynglŷn â'r rôl

Noder fod y cyflog a hysbysebir ar gyfer y swydd hon yn amodol ar ddyfarniad cyflog cenedlaethol 2026/2027 sydd ar ddod. Caiff y cyflog terfynol ei addasu yn unol â hynny unwaith y bydd y dyfarniad wedi’i gytuno.

Mae cyfle cyffrous wedi codi i Uwch Swyddog Cymorth i’r Gwasanaethau ymuno â’n tîm Cymorth Gwasanaethau Corfforaethol, gan ddarparu cymorth gweinyddol a gweithredol o ansawdd uchel i dîm Asedau’r Cyngor. Mae’r rôl yn allweddol i sicrhau rheolaeth effeithiol o asedau corfforaethol gan ddefnyddio systemau meddalwedd y Cyngor. Byddwch yn gweithio’n agos gyda chydweithwyr yn y tîm Asedau, o fewn yr Uned Twf a Menter, gan ymateb yn effeithiol i ymholiadau mewnol ac allanol a sicrhau bod cofnodion sy’n seiliedig ar asedau yn cael eu poblogi, eu diweddaru a’u cynnal yn gywir.

Ynglŷn â’r rôl:

Bydd disgwyl i’r Uwch Swyddog Cymorth Gwasanaeth ymgymryd ag amrywiaeth o ddyletswyddau sy’n gysylltiedig ag amgylchedd swyddfa prysur sy’n cynnwys:

  • Cynnal a diweddaru cofrestrau asedau, cronfeydd data a chofnodion cysylltiedig i sicrhau cywirdeb a chydymffurfiaeth.
  • Gweithredu fel pwynt cyswllt allweddol ac ymateb i ymholiadau mewnol ac allanol sy’n ymwneud â gwybodaeth a chofnodion asedau.
  • Defnyddio systemau fel QGIS / GIS i reoli data gofodol sy’n seiliedig ar asedau, gan gynnwys mapio tir ac eiddo sy’n eiddo i’r Cyngor.
  • Darparu cymorth gweinyddol ar gyfer cydlynu gweithgareddau sy’n gysylltiedig ag asedau gan gynnwys contractau a dogfennaeth gysylltiedig arall.
  • Cynorthwyo gyda choladu gwybodaeth ar gyfer Cynlluniau Gwasanaeth amrywiol a monitro perfformiad.
  • Cynorthwyo gyda choladu gwybodaeth ar gyfer arolygiadau asedau, archwiliadau a gofynion adrodd.
  • Darparu cymorth gweinyddol cyffredinol ochr yn ochr â Swyddogion Cymorth i Wasanaethau eraill.
  • Gweithio ar y cyd â chydweithwyr o fewn y tîm Asedau ac ar draws yr holl Wasanaethau i sicrhau bod anghenion y Cyngor yn cael eu diwallu.

Ynglŷn â’r Ymgeisydd:

Rydym yn chwilio am unigolyn brwdfrydig a rhagweithiol, gydag awydd gwirioneddol i gyfrannu at ddarparu gwasanaethau Asedau’r Cyngor yn effeithiol. Rhaid i’r ymgeisydd llwyddiannus fodloni’r meini prawf canlynol:

  • Wedi’i addysgu i NVQ Lefel 4 mewn Gweinyddu Busnes neu sydd â phrofiad cyfatebol, gyda chefndir mewn rolau gweinyddol neu gymorth gwasanaeth.
  • Mae ganddo sgiliau TG cryf, gan gynnwys Microsoft Word, Excel ac Outlook, a phrofiad technegol o ddefnyddio systemau TGCh (e.e. systemau rheoli asedau / GIS / QGIS).
  • Yn hyblyg ac yn gallu rheoli blaenoriaethau a dyddiadau cau cystadleuol.
  • Arddangos sgiliau trefnu rhagorol a sylw i fanylion.
  • Cyfathrebu’n effeithiol yn ysgrifenedig ac ar lafar.
  • Yn gallu adeiladu perthynas waith ardderchog gyda chydweithwyr mewnol.
  • Mae ganddo ddealltwriaeth gadarn o ddogfennaeth gyfreithiol.

Byddai cefndir mewn amgylchedd cyfreithiol neu ystadau yn fantais amlwg ond nid yn hanfodol. Cefnogir dysgu Cymraeg o fewn y Cyngor, gyda chyfleoedd hyfforddi ar gael i gefnogi i gyrraedd y lefelau Cymraeg penodedig.

Disgrifiad Swydd a Manyleb Person

Pecyn Gwybodaeth Tîm Ceredigion

Ein cynnig:

Credwn fod cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith yn bwysig iawn. Er mwyn eich cefnogi i gyflawni hyn, bydd gennych fynediad at y buddion dewisol canlynol:

Gweithio Hybrid: Yn amodol ar amodau penodol yn cael eu bodloni, gallwch ddewis gweithio gartref neu mewn lleoliad swyddfa er y bydd anghenion y rôl yn gofyn am bresenoldeb rheolaidd yn y swyddfa.

Amser hyblyg: Gellir gweithio oriau o fewn lled band diffiniedig, o ddydd Llun i ddydd Gwener, yn amodol ar anghenion gwasanaeth.

Bydd cyfweliadau yn cael eu cynnal w/d 1/6/26.

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â: Keith Dale ar keith.dale@ceredigion.gov.uk

Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.

Yr hyn a gynigwn

Cydbwysedd bywyd a gwaith

Cynllun cynilo ffordd o fyw

Cynllun pensiwn cyflogwr hael

Cynllun beicio i'r gwaith

Dysgu a datblygu

Lle byddwch yn gweithio

Gwasanaethau Democrataidd

Rydym yn chwarae rhan allweddol yn sicrhau rheolaeth esmwyth ac effeithlon ar broses gwneud penderfyniadau’r Cyngor, gan gynnwys cefnogaeth a chyngor i Gynghorwyr; Cefnogaeth PA, gweinyddol a rheoli prosiect i bob maes gwasanaeth; hwyluso etholiadau; tim cyfathrebu; cyfieithu a swyddog polisi Iaith Gymraeg. Mae ein prif swyddogaethau yn cynnwys

  • Cefnogaeth Gwasanaeth Corfforaethol: PA a chefnogaeth weinyddol; Cymorth busnes gan gynnwys rheoli prosiect a chymryd cofnodion.
  • Gwasanaethau Democrataidd: Cynghorwyr; Pwyllgorau a Phwyllgorau Rheoleiddio Cyngor, Cabinet, Trosolwg a Chraffu.
  • Gwasanaethau Etholiadol: Etholiadau cyffredinol a lleol; Rheoli’r gofrestr etholiadol.
  • Tim Cyfathrebu: Rheoli gweithgareddau cyfathrebu yn gorfforaethol; rhoi cymorth i wasanaethau mewn ymgyrchoedd a phrosiectau; delio â’r wasg a’r cyfryngau; datblygu a chyhoeddi datganiadau i’r wasg; rheoli tudalennau cyfryngau cymdeithasol.
  • Cyfieithi: Dogfennau a chyfieithu ar y pryd.
  • Safonau’r Iaith Cymraeg: Gweithredol; Llunio polisi; Hyrwyddo; Monitro; Darparu gwasanaeth.
Penmorfa
Penmorfa yw ein swyddfa fwyaf canolog, dyma lle mae ein Prif Weithredwr a'n Cynghorwyr wedi'i leoli. 
Darllen mwy
Aberaeron
Mae Aberaeron yn dref harbwr brydferth ac mae'n un o gyrchfannau gwyliau mwyaf poblogaidd Ceredigion gyda llefydd poblogaidd i aros a bwyta.
Darllen mwy