Rydym yn gweithredu polisi dwyieithog. Gwahoddir ymgeiswyr i wneud cais yn Gymraeg, ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a wneir yn Saesneg.

Swyddog Arweiniol Corfforaethol – Polisi, Perfformiad a Diogelur Cyhoedd

Dyddiad Cau: 25/05/2026

Cyfeirnod: REQ106636

37 awr / Parhaol

88,853 - 94,961 *

Penmorfa, Aberaeron

*Mae'r gwerthoedd cyflog yn pro-rata.

Ynglŷn â'r rôl

Ydych chi’n arweinydd uwch profiadol â chefndir cryf mewn llywodraeth leol, sicrwydd corfforaethol neu wasanaethau rheoleiddio?

Rydym yn chwilio am arweinydd uwch i arwain ein gwasanaeth Polisi, Perfformiad a Diogelu’r Cyhoedd, portffolio corfforaethol craidd sydd wrth galon perfformiad, llywodraethu, gweithio mewn partneriaeth a diogelu’r cyhoedd yng Nghyngor Sir Ceredigion.

Mae’r swydd yn cyfuno arweinyddiaeth strategol ym maes perfformiad a pholisi corfforaethol â chyfrifoldeb strategol a gweithredol dros swyddogaethau diogelu’r cyhoedd, o fewn model arweinyddiaeth ar y cyd sy’n seiliedig ar gyfrifoldeb a rennir a safonau uchel.

Mae’r portffolio’n cynnwys:

Perfformiad a Phartneriaethau

  • Partneriaethau a Pherfformiad
  • Perfformiad ac Ymchwil
  • Cydraddoldeb a Chynhwysiant
  • Cwynion a Rhyddid Gwybodaeth
  • Partneriaethau Strategol
  • Ailsefydlu Ffoaduriaid
  • Cynllunio Argyfwng Sifil a Pharhad Busnes

Diogelu’r Cyhoedd

  • Safonau Masnach
  • Iechyd yr Amgylchedd
  • Trwyddedu

Yr hyn y byddwch yn ei wneud

  • Gweithredu fel Swyddog Arweiniol Corfforaethol a phrif gynghorydd i’r Cyngor ar berfformiad corfforaethol, polisi, rheoli risg, cydlyniant ac ymgysylltu cymunedol, cynllunio argyfyngau sifil a diogelu’r cyhoedd.
  • Darparu arweinyddiaeth strategol a gweithredol dros wasanaethau diogelu’r cyhoedd a rheoleiddio, gan sicrhau cydymffurfiaeth, sicrwydd a hyder y cyhoedd.
  • Arwain dull y Cyngor o reoli perfformiad corfforaethol, ymchwil a mewnwelediad, gan gefnogi penderfyniadau sy’n seiliedig ar dystiolaeth.
  • Gweithredu fel prif swyddog y Cyngor sy’n cefnogi’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus.
  • Darparu arweinyddiaeth strategol o fewn model rheoli ar y cyd, gan sicrhau cyflawni gwasanaethau’n effeithiol drwy gydweithio a chyfrifoldeb a rennir.
  • Gweithio’n agos gydag arweinwyr uwch ac aelodau etholedig i gyflawni blaenoriaethau corfforaethol a rennir.

Yr hyn y byddwch yn ei gynnig

  • Cymhwyster lefel gradd (neu brofiad cyfatebol) mewn maes perthnasol, gyda thystiolaeth o ddatblygiad proffesiynol parhaus.
  • Profiad sylweddol o arweinyddiaeth uwch (lleiafswm o 5 mlynedd) yn arwain gwasanaethau cymhleth, aml‑ddisgyblaethol.
  • Dealltwriaeth gadarn o weithio o fewn amgylchedd democrataidd a gwleidyddol llywodraeth leol.
  • Hygrededd fel cynghorydd uwch dibynadwy ym maes sicrwydd corfforaethol, perfformiad, partneriaethau neu wasanaethau rheoleiddio.

Yr hyn y gallwn ei gynnig i chi

  • Swydd arweinyddiaeth uwch â dylanwad corfforaethol gwirioneddol.
  • Diwylliant arweinyddiaeth ar y cyd cefnogol, wedi’i arwain gan werthoedd.
  • Cyflog cystadleuol ar radd Swyddog Arweiniol Corfforaethol (dyfarniad cyflog ar y gweill).
  • Gweithio hybrid hyblyg a ffocws cryf ar lesiant.
  • Pecyn buddion cynhwysfawr.

Gwybodaeth ychwanegol

Disgrifiad Swydd a Manyleb Person

Pecyn Gwybodaeth i Ymgeiswyr

Am wybodaeth pellach a thrafodaeth anffurfiol ynglŷn â’r swydd hon cysylltwch â Elen James ar elen.james@ceredigion.gov.uk

Nodwch: mae’r cyflog a hysbysebir ar gyfer y swydd hon yn amodol ar ddyfarniad cyflog ar y gweill. Bydd y cyflog terfynol yn cael ei addasu yn unol â’r dyfarniad cyflog a gytunir yn genedlaethol.

Rydym yn cadw’r hawl i ymestyn y dyddiad cau.

Yr hyn a gynigwn

Cydbwysedd bywyd a gwaith

Cynllun cynilo ffordd o fyw

Cynllun pensiwn cyflogwr hael

Cynllun beicio i'r gwaith

Dysgu a datblygu

Lle byddwch yn gweithio

Polisi, Perfformiad a Diogelu’r Cyhoedd

Rydym yn arwain y ffordd o ran perfformiad corfforaethol, polisi corfforaethol, partneriaethau strategol, ymgysylltu, cydlyniant cymunedol ac argyfyngau sifil, ac mae gennym hefyd gyfrifoldeb strategol a gweithredol dros ddiogelu’r cyhoedd: iechyd yr amgylchedd, twyll bwyd, safonau trwyddedu a masnachu.  Mae ein prif swyddogaethau yn cynnwys: 

  • Cwynion, Canmoliaeth a Rhyddid Gwybodaeth
  • Polisi a Pherfformiad Corfforaethol: Perfformiad corfforaethol; Rhestr eiddo; Ymchwil.
  • Diogelu’r Cyhoedd: Iechyd yr amgylchedd; Twyll bwyd; Trwyddedu; Safonau masnach; Rheoli Llygredd; Rheoli Pla; Pwysau a Mesurau; Clefydau Trosglwyddadwy; Iechyd a Diogelwch; Iechyd Anifeiliaid.
  • Partneriaethau Strategol, Ymgysylltu ac Ymchwil: Parhad busnes; Argyfyngau sifil; Partneriaeth diogelwch cymunedol; Ymgysylltu; Cydraddoldeb; Bwrdd gwasanaethau cyhoeddus; Rhaglenni ffoaduriaid.
Penmorfa
Penmorfa yw ein swyddfa fwyaf canolog, dyma lle mae ein Prif Weithredwr a'n Cynghorwyr wedi'i leoli. 
Darllen mwy
Aberaeron
Mae Aberaeron yn dref harbwr brydferth ac mae'n un o gyrchfannau gwyliau mwyaf poblogaidd Ceredigion gyda llefydd poblogaidd i aros a bwyta.
Darllen mwy