Rydym yn gweithredu polisi dwyieithog. Gwahoddir ymgeiswyr i wneud cais yn Gymraeg, ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a wneir yn Saesneg.

Gweithiwr Gofal a Chymorth Lefel 3 x 2 – Cartref Gofal Preswyl Hafan y Waun

Dyddiad Cau: 26/05/2026

Cyfeirnod: REQ106637

36 awr / Parhaol

28,598 - 30,518 *

Hafan y Waun, Aberystwyth

*Mae'r gwerthoedd cyflog yn pro-rata.

Ynglŷn â'r rôl

Ydych chi wedi ystyried gweithio ym maes Gofal Preswyl i Oedolion? Rydym am tyfu ein tîm!

Ydych chi’n mwynhau gofalu am eraill neu a ydych chi’n chwilio am her newydd? Ymunwch â’n tîm gweithgar, cyfeillgar a chefnogol yng Nghartref Gofal Preswyl Hafan y Waun i weld y gwahaniaeth gwirioneddol y gallwch ei wneud.

Ar hyn o bryd rydym yn recriwtio 2 x Gweithiwr Gofal a Chymorth Lefel 3 i ymuno â Chartref Gofal Preswyl Hafan y Waun, Aberystwyth yn barhaol.

Am y rôl

Nid oes unrhyw ddau ddiwrnod yr un fath yn y rôl amrywiol a gwerth chweil hon. Fel canllaw cyffredinol, gall eich dyletswyddau dyddiol gynnwys: 

  • Sicrhau bod y gwasanaethau a ddarperir yn parhau i gydymffurfio’n llawn â Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 a’r rheoliadau cysylltiedig;
  • Bod yn swyddog cyfrifol yn absenoldeb y Rheolwr/Dirprwy Reolwr;
  • Rhoi meddyginiaeth ar bresgripsiwn gan gynnwys cyffuriau rheoledig i ddefnyddwyr gwasanaeth a chynorthwyo i reoli system effeithiol ar gyfer rheoli a rhoi meddyginiaeth yn ddiogel yn unol â pholisi a gweithdrefnau rhanbarthol a mewnol;
  • Darparu gofal cyflawn i gleientiaid yn unol â’r drefn ddyddiol fel yr amlinellir yn y cynlluniau gofal;
  • Darparu cymorth emosiynol a sicrwydd i gleientiaid, yn enwedig pan fydd angen iddynt addasu i newid/a/neu argyfwng teuluol;
  • Hebrwng cleientiaid allan o’r sefydliad, e.e. teithiau hamdden;
  • Cwblhau cofnodion dyddiol;
  • Cynnal gwasanaeth glanhau, golchi dillad ac ystafell fwyta.

Ein hymgeisydd delfrydol

Mae profiad blaenorol o weithio mewn cartref gofal yn hanfodol ynghyd â charedigrwydd, amynedd, parch a gwytnwch.

Ein cynnig i chi

Mae cyfraniad ein gweithwyr i iechyd, diogelwch a llesiant preswylwyr ein cartrefi gofal yn amhrisiadwy. Rydym felly am sicrhau bod ein Gweithwyr Gofal a Chymorth yn gweld gweithio i Geredigion yn brofiad gwerth chweil. Gyda hynny mewn golwg, rydym yn cynnig amrywiaeth o fuddion gweithwyr, gan gynnwys:

  • Hyd at 34 diwrnod o wyliau blynyddol;
  • Mentrau iechyd a lles gan gynnwys cymorth am ddim o ran ffordd o fyw a chwnsela;
  • Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol;
  • Tâl mamolaeth, mabwysiadu a thadolaeth uwch;
  • Mynediad i gynllun gostyngiadau ac arbedion ffordd o fyw Vivup;
  • Cyfleoedd dysgu a datblygu i gefnogi dilyniant gyrfa;
  • Cynlluniau aberthu cyflog gan gynnwys y cynllun Beicio i’r Gwaith.

I gael rhagor o wybodaeth am ein buddion cyflogeion cliciwch yma.

Mae hwn yn gyfle gwych i unigolyn gofalgar a thosturiol ymuno â thîm cyfeillgar ac ymroddedig a gwneud gwahaniaeth gwirioneddol.

Cyflwyno cais

Rydym wedi ei gwneud yn haws i chi wneud cais drwy symleiddio ein ffurflen gais. Mae cyflwyno cais nawr yn haws nag erioed!

Os bydd angen cymorth arnoch i gwblhau eich cais, mae croeso i chi gysylltu â 01970 633949 neu e-bostio adnoddaudynol@ceredigion.gov.uk.

Gwybodaeth Ychwanegol

Mae’r rôl hon yn cynnwys gweithio ar benwythnosau fel rhan o wythnos waith arferol neu rota. Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus hawl i’r tâl canlynol:

  • Dydd Sadwrn – Amser a chwarter;
  • Dydd Sul – Amser a hanner.

Disgrifiad Swydd a Manyleb Person

Pecyn Gwybodaeth Tîm Ceredigion

Cysylltwch â ni

Am ragor o wybodaeth a sgwrs anffurfiol am y swydd hon cysylltwch â Shelley Cruse ar Shelley.Cruse@ceredigion.gov.uk

Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.

Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu ac amddiffyn plant ac oedolion sydd mewn perygl Fel rhan o’r ymrwymiad hwn, mae rhai rolau o fewn ein sefydliad yn gofyn am wiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) i asesu addasrwydd ymgeiswyr. Bydd y rôl hon yn gofyn am wiriad DBS Uwch. Sylwch na fydd presenoldeb euogfarnau blaenorol o reidrwydd yn anghymhwyso ymgeisydd rhag ystyriaeth ar gyfer y swydd hon. Rydym yn asesu pob ymgeisydd fesul achos, ac yn ystyried natur a pherthnasedd unrhyw euogfarnau mewn perthynas â chyfrifoldebau’r rôl. Ein nod yw creu amgylchedd gwaith cynhwysol a chefnogol lle caiff pob unigolyn ei drin yn deg a chyda pharch. Os oes gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau am y broses hon, mae croeso i chi gysylltu â ni am eglurhad. Mae eich preifatrwydd a’ch urddas yn hollbwysig i ni drwy gydol y broses recriwtio.

Yr hyn a gynigwn

Cydbwysedd bywyd a gwaith

Cynllun cynilo ffordd o fyw

Cynllun pensiwn cyflogwr hael

Cynllun beicio i'r gwaith

Dysgu a datblygu

Lle byddwch yn gweithio

Porth Gofal – Gwasanaethau Ymyrraeth wedi’u Targedu

Rydym wrth wraidd darpariaeth gofal cymdeithasol gydol oes Ceredigion ac ein nod yw sicrhau bod pob unigolyn yn derbyn yr ymyrraeth orau i ddiwallu ei anghenion neu, lle bo angen, eu tywys at gymorth cynnar neu wasanaethau arbenigol. Ein prif swyddogaethau yw:

Gwasanaethau Brysbennu ac Asesu Integredig

  • Tîm Derbyn a Gweithrediadau Integredig
  • Tîm Asesu Integredig
  • Tîm Dyletswydd Brys
Gwasanaethau Targedig a Thymor Byr
  • Gwasanaeth Cymorth Taliadau Uniongyrchol
  • Tîm Logisteg a Gweithrediadau’r Ganolfan Byw’n Annibynnol (CILC)
  • Gofal Integredig Targedig a Galluogi
  • Gofal a Galluogir gan Dechnoleg a Gwasanaethau Synhwyraidd
  • Therapi Galwedigaethol

Gwasanaethau Uniongyrchol

  • Tîm Gwasanaethau Gofal Dyddiol
  • Timau Gofal Preswyl
Aberystwyth
Mae Aberystwyth yn dref brifysgol fywiog ac yn gyrchfan glan môr gyda phromenâd a phier. Yn ogystal dyma yw lleoliad y ddrama deledu atmosfferig Y Gwyll. Mae Aberystwyth yn lleoliad delfrydol i archwilio Llwybr Arfordir Cymru ar hyd Bae Cere...
Darllen mwy