Rydym yn gweithredu polisi dwyieithog. Gwahoddir ymgeiswyr i wneud cais yn Gymraeg, ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a wneir yn Saesneg.
Dyddiad Cau: 03/06/2026
Cyfeirnod: REQ106679
37 awr / Parhaol
26,403 - 27,694 *
Ysgol Gyfun Penweddig, Aberystwyth
Mae Penweddig yn ysgol lwyddiannus, sydd â hanes o welliant a datblygiad. Mae nifer sylweddol o’n disgyblion yn sicrhau canlyniadau TGAU a Safon Uwch sydd yn uwch nag ysgolion cyffelyb. Mae ymddygiad ein disgyblion yn dda iawn, ac mae ganddynt ymagwedd bositif ac ysgogol at ddysgu. Cyniga’r ysgol gwricwlwm eang a chytbwys gydag ystod gyfoethog o weithgareddau allgyrsiol a hynny mewn amgylchedd Gymraeg a Chymreig. Mae Penweddig yn ysgol hapus, ofalgar a chynhwysol. Cydnabuwyd hyn yn ystod Arolwg Estyn llwyddiannus diweddar yr ysgol yn Hydref 2024:
“Mae gofalu am les disgyblion yn cael lle blaenllaw yn Ysgol Gyfun Penweddig. O ganlyniad, mae llawer o ddisgyblion yn arddangos parch at ei gilydd ac agweddau cadarnhaol at eu dysgu. Mae disgyblion y chweched dosbarth yn gaffaeliad i’r ysgol, gan fodelu ymddygiadau ac agweddau cadarnhaol iawn i ddisgyblion iau. Mae trefniadau cadarn i fonitro a hybu presenoldeb disgyblion wedi arwain at welliannau sylweddol.” (Estyn Hydref 2024)
Lleolir yr ysgol yng nghanol tref brifysgol fywiog Aberystwyth. Ymfalchïwn yng nghyfleusterau ac adnoddau o’r radd flaenaf sydd gennym ym Mhenweddig. Am flas o’r ysgol ewch i ymweld â gwefan yr ysgol neu wylio ein fideo hyrwyddo.
Os ydych angen unrhyw wybodaeth ychwanegol neu am gael sgwrs anffurfiol, mae croeso i chi gysylltu â naill ai drwy ni ffonio’r ysgol ar (01970 639499) neu drwy e-bost at ymholiadau@penweddig.ceredigion.sch.uk
Hyderaf bydd y Pecyn Gwybodaeth hwn yn rhoi syniad da i chi o gyd-destun y swydd.
Y dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau yw 3 Mehefin 2026.
Bwriedir cynnal y cyfweliad yr wythnos ganlynol, sef yr wythnos yn cychwyn 8 Mehefin 2026.
Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.
Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu ac amddiffyn plant ac oedolion sydd mewn perygl Fel rhan o’r ymrwymiad hwn, mae rhai rolau o fewn ein sefydliad yn gofyn am wiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) i asesu addasrwydd ymgeiswyr. Bydd y rôl hon yn gofyn am wiriad DBS Uwch. Sylwch na fydd presenoldeb euogfarnau blaenorol o reidrwydd yn anghymhwyso ymgeisydd rhag ystyriaeth ar gyfer y swydd hon. Rydym yn asesu pob ymgeisydd fesul achos, ac yn ystyried natur a pherthnasedd unrhyw euogfarnau mewn perthynas â chyfrifoldebau’r rôl. Ein nod yw creu amgylchedd gwaith cynhwysol a chefnogol lle caiff pob unigolyn ei drin yn deg a chyda pharch. Os oes gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau am y broses hon, mae croeso i chi gysylltu â ni am eglurhad. Mae eich preifatrwydd a’ch urddas yn hollbwysig i ni drwy gydol y broses recriwtio.
Cydbwysedd bywyd a gwaith
Cynllun cynilo ffordd o fyw
Cynllun pensiwn cyflogwr hael
Cynllun beicio i'r gwaith
Dysgu a datblygu
Rydym yn cynnig her a chefnogaeth briodol i’n hysgolion, i’w helpu i gyflwyno addysg o’r radd flaenaf i bob disgybl, ar draws yr ystod oedran a gallu. Mae ein prif swyddogaethau yn cynnwys: