Rydym yn gweithredu polisi dwyieithog. Gwahoddir ymgeiswyr i wneud cais yn Gymraeg, ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a wneir yn Saesneg.
Dyddiad Cau: 21/06/2026
Cyfeirnod: REQ106682
37 awr / Parhaol
42,839 - 45,091 *
Canolfan Rheidol, Aberystwyth
Noder fod y cyflog a hysbysebir ar gyfer y swydd hon yn amodol ar ddyfarniad cyflog cenedlaethol 2026/2027 sydd ar ddod. Caiff y cyflog terfynol ei addasu yn unol â hynny unwaith y bydd y dyfarniad wedi’i gytuno.
Rydym yn edrych i recriwtio unigolyn llawn cymhelliant a brwdfrydedd i gynorthwyo’r Prif Archwilydd Mewnol i arwain Archwilio Mewnol.
Fel rhan o wasanaeth Cyfreithiol a Llywodraethu’r Cyngor, mae’r swydd hon yn cynnig cyfle unigryw i ddylanwadu ar drefniadau llywodraethu, rheoli risg a rheolaeth fewnol ar draws y Cyngor, tra’n cyfrannu at ddarparu gwasanaethau cyhoeddus o ansawdd uchel i drigolion Ceredigion.
Ynglŷn â’r rôl
Fyddwch yn:
Rydym yn edrych i recriwtio unigolyn:
Mae’r swydd yn gofyn am rywfaint o rhuglder yn yr iaith Gymraeg. Sylwch y bydd ymgeisydd llwyddiannus heb y sgiliau Cymraeg angenrheidiol yn cael cefnogaeth lawn i gyrraedd y safon ofynnol o fewn dwy flynedd ar ôl ei benodi.
Ein cynnig i chi
Credwn fod cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith yn bwysig iawn. Er mwyn eich cefnogi i gyflawni hyn, bydd gennych fynediad at y buddion dewisol canlynol:
Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth am ein buddion eang i weithwyr ar ein gwefan gyrfaoedd.
Cyfweliadau
Er mwyn lleihau tarfu ar ymgeiswyr, bydd cyfweliadau yn cael eu cynnal o bell.
Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person
Pecyn Gwybodaeth Tîm Ceredigion
Cysylltu â ni
Am fwy o wybodaeth a thrafodaeth anffurfiol ynglŷn â’r swydd hon, cysylltwch ag Alex Jenkins ar 01970 633323 neu e-bostiwchalex.jenkins2@ceredigion.gov.uk
Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.
Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu ac amddiffyn plant ac oedolion sydd mewn perygl Fel rhan o’r ymrwymiad hwn, mae rhai rolau o fewn ein sefydliad yn gofyn am wiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) i asesu addasrwydd ymgeiswyr. Bydd y rôl hon yn gofyn am wiriad DBS Uwch. Sylwch na fydd presenoldeb euogfarnau blaenorol o reidrwydd yn anghymhwyso ymgeisydd rhag ystyriaeth ar gyfer y swydd hon. Rydym yn asesu pob ymgeisydd fesul achos, ac yn ystyried natur a pherthnasedd unrhyw euogfarnau mewn perthynas â chyfrifoldebau’r rôl. Ein nod yw creu amgylchedd gwaith cynhwysol a chefnogol lle caiff pob unigolyn ei drin yn deg a chyda pharch. Os oes gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau am y broses hon, mae croeso i chi gysylltu â ni am eglurhad. Mae eich preifatrwydd a’ch urddas yn hollbwysig i ni drwy gydol y broses recriwtio.
Cydbwysedd bywyd a gwaith
Cynllun cynilo ffordd o fyw
Cynllun pensiwn cyflogwr hael
Cynllun beicio i'r gwaith
Dysgu a datblygu
Rydym yn sicrhau bod y Cyngor yn gweithredu mewn ffordd gyfrifol a thryloyw drwy ddarparu cyngor cyfreithiol corfforaethol a gweithredol, archwilio, sicrwydd gwrthrychol a chymorth ar draws pob maes gwasanaeth sy’n golygu bod lles a rhwymedigaethau cyfreithiol y Cyngor yn cael eu cadarnhau, a darparu sicrwydd ar lywodraethu, risg a rheolaethau mewnol.