Rydym yn gweithredu polisi dwyieithog. Gwahoddir ymgeiswyr i wneud cais yn Gymraeg, ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a wneir yn Saesneg.

Dirprwy Bennaeth – Ysgol Gynradd T.Llew Jones

Dyddiad Cau: 02/06/2026

Cyfeirnod: REQ106689

32.5 awr / Dros Dro

52,680 - 58,136 *

Llandysul

*Mae'r gwerthoedd cyflog yn pro-rata.

Ynglŷn â'r rôl

Hysbyseb am Ddirprwy Bennaeth i Ysgol Gynradd Gymunedol T Llew Jones, ac mae’n ofynnol i fod yn rhugl yn y Gymraeg a’r Saesneg, yn ysgrifenedig ac ar lafar, ar gyfer y swydd.

Yn eisiau o Fedi y 1af 2026 – Swydd Dros Dro yn dilyn secondiad y Dirprwy presennol.

Mae llywodraethwyr Ysgol Gynradd Gymunedol T Llew Jones  yn awyddus i benodi Dirprwy Bennaeth (dros dro) ymroddedig ac ysbrydoledig a fydd yn darparu cefnogaeth a chymorth i’r Pennaeth  ac yn cynorthwyo i reoli’r ysgol yn effeithiol ac yn effeithlon. Fe fydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn dysgu yn llawn amser.

Fe fydd yr unigolyn yn : 

  • dylanwadu ar gydweithwyr trwy osod esiampl fel model rôl drefnus a chydwybodol;
  • barod i weithio fel rhan o uwch dim rheoli cadarn;
  • hyrwyddo safonau cyflawniad uchel i bawb;
  • ymgynghori a chynnig cyngor adeiladol i’r Pennaeth mewn meysydd a fyddai’n fanteisiol i’r ysgol;
  • cysylltu â staff, disgyblion a rhieni i annog ethos gwaith effeithiol;
  • bod yn gymwys i ddirprwyo ar ran y Pennaeth mewn sefyllfaoedd sy’n codi oherwydd absenoldebau tymor byr a thymor hir;
  • arwain ar faes dysgu a phrofiad syn bwydo cynllun datblygu’r ysgol.

Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus y nodweddion canlynol:

  • gweledigaeth a rennir ar gyfer datblygu’r ysgol hon sydd wedi ei hen sefydlu ac sy’n rhoi lle canolog i’r gymuned;
  • dealltwriaeth o arferion dysgu effeithiol ac ymrwymiad cryf i barhau i’w datblygu drwy’r ysgol gyfan;
  • medrau cadarn o ran cyfathrebu, ymwneud ag eraill, rheoli a threfnu;
  • gwybodaeth gadarn am ddatblygiadau ac arferion addysgol cyfredol;
  • ymrwymiad i ddatblygiad proffesiynol parhaus ac i adeiladu tîm;
  • ymrwymiad cryf i gyfoethogi’r cysylltiadau gyda’r Llywodraethwyr, y gymuned leol, ysgolion lleol.

Mae’r swydd hon yn rhoi cyfle euraidd i unigolyn i weithio mewn Ysgol Ardal lwyddiannus mewn ardal godidog o Orllewin Cymru. Gan rhoi cyfle a phrofiad i unigolyn brwdfrydig syn awyddus i ddatblygu ei sgiliau arweiniol dros cyfnod secondiad y Dirprwy presennol.

Cyfweliadau: 16/6/2026

Disgrifiad Swydd a Manyleb Person

Mae croeso cynnes i chi gysylltu gyda’r Pennaeth Rhian Lloyd i drafod ymhellach ar y rhif ffôn canlynol 01239 654553.

Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.

Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu ac amddiffyn plant ac oedolion sydd mewn perygl Fel rhan o’r ymrwymiad hwn, mae rhai rolau o fewn ein sefydliad yn gofyn am wiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) i asesu addasrwydd ymgeiswyr. Bydd y rôl hon yn gofyn am wiriad DBS Uwch. Sylwch na fydd presenoldeb euogfarnau blaenorol o reidrwydd yn anghymhwyso ymgeisydd rhag ystyriaeth ar gyfer y swydd hon. Rydym yn asesu pob ymgeisydd fesul achos, ac yn ystyried natur a pherthnasedd unrhyw euogfarnau mewn perthynas â chyfrifoldebau’r rôl. Ein nod yw creu amgylchedd gwaith cynhwysol a chefnogol lle caiff pob unigolyn ei drin yn deg a chyda pharch. Os oes gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau am y broses hon, mae croeso i chi gysylltu â ni am eglurhad. Mae eich preifatrwydd a’ch urddas yn hollbwysig i ni drwy gydol y broses recriwtio.

Yr hyn a gynigwn

Cydbwysedd bywyd a gwaith

Cynllun cynilo ffordd o fyw

Cynllun pensiwn cyflogwr hael

Cynllun beicio i'r gwaith

Dysgu a datblygu

Lle byddwch yn gweithio

Gwasanaeth Ysgolion a Diwylliant

Rydym yn cynnig her a chefnogaeth briodol i’n hysgolion, i’w helpu i gyflwyno addysg o’r radd flaenaf i bob disgybl, ar draws yr ystod oedran a gallu.  Mae ein prif swyddogaethau yn cynnwys: 

  • Gwella Ysgolion: Arweinyddiaeth; Cefnogaeth a Her, Addysgu a Dysgu; Llythrennedd Digidol; Llythrennedd a Rhifedd; Cymraeg mewn Addysg
  • Anghenion Dysgu Ychwanegol: Darpariaeth ar gyfer disgyblion ag Anghenion Dysgu Ychwanegol, Cynhwysiant; Presenoldeb; Seicoleg Addysg
  • Lles Disgyblion: Cwnsela; Lles; Gwrth-fwlio, Llais Disgyblion
  • Llywodraethu Addysg: Data; Cefnogaeth Llywodraethwyr, Cefnogaeth polisi
  • Derbyniadau Ysgol 
  • Diwylliant: Gwasanaeth Cerdd; Cered; Theatr Felinfach; Amgueddfa
  • Seilwaith ac Adnoddau: cynllunio lleoedd ysgol, moderneiddio a rhaglen ysgolion yr Unfed Ganrif ar Hugain, Adeiladau; Grantiau
  • Arlwyo: Canolfannau Dydd; Ysgolion cynradd; Cartrefi preswyl
  • ​Uned Gofal Plant​​: Asesiad Digonolrwydd Gofal Plant; Grant Gofal Plant a Chwarae; Cynnig Gofal Plant Cymorth busnes a hyfforddiant staff ar gyfer Darpariaeth Ôl Ysgol (Clybiau ar ôl Ysgol a Chlybiau Gwyliau); Meithrinfeydd Dydd, Cylchoedd Meithrin/Chwarae a Gwarchodwyr Plant
Llandysul
Yn hanesyddol, Llandysul oedd canolbwynt diwydiant gwlân Cymru, lle cyflogid miloedd o bobl yn ystod y chwyldro diwydiannol.
Darllen mwy