Rydym yn gweithredu polisi dwyieithog. Gwahoddir ymgeiswyr i wneud cais yn Gymraeg, ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a wneir yn Saesneg.

Cynorthwyydd Arlwyo – Cartref Gofal Preswyl Bryntirion

Dyddiad Cau: 17/06/2026

Cyfeirnod: REQ106692

9 awr / Parhaol

24,796 *

Tregaron

*Mae'r gwerthoedd cyflog yn pro-rata.

Ynglŷn â'r rôl

Noder fod y cyflog a hysbysebir ar gyfer y swydd hon yn amodol ar ddyfarniad cyflog cenedlaethol 2026/2027 sydd ar ddod. Caiff y cyflog terfynol ei addasu yn unol â hynny unwaith y bydd y dyfarniad wedi’i gytuno.

Rydym am recriwtio Cynorthwyydd Arlwyo i ymuno â’n tîm yng Nghartref Gofal Preswyl Bryntirion yn Nhregaron, ar gytundeb parhaol, rhan-amser.

Mae’r rôl yn cynnwys:

  • dyletswyddau cegin cyffredinol gan gynnwys golchi cyfarpar ac offer cegin a glanhau pob ardal o’r gegin ac oddi amgylch
  • paratoi a gweini pryd o fwyd gyda’r nos i’r preswylwyr
  • cynnal y safonau glendid uchaf ym mhob ardal o’r gegin ar bob adeg
  • sicrhau y cedwir at safonau Diogelwch Bwyd ac Iechyd yr Amgylchedd

     O ddydd i ddydd byddwch yn:

    • paratoi a gweini pryd o fwyd gyda’r nos i’r preswylwyr, gan gynnwys diodydd
    • ymgymryd â dyletswyddau cegin cyffredinol gan gynnwys golchi cyfarpar ac offer cegin a glanhau pob ardal ac oddi amgylch
    • gosod y byrddau a chlirio os oes angen
    • cofnodi tymheredd y bwyd wrth ei weini
    • sicrhau y cedwir at safonau Diogelwch Bwyd ac Iechyd yr Amgylchedd
    • sicrhau safonau’r Gymuned Economaidd Ewropeaidd o ran Codi a Chario
    • sicrhau iechyd a diogelwch cyffredinol y gegin gan gynnwys cyfarpar

    Rydym am recriwtio unigolyn:

    • sydd â gwybodaeth/profiad o weithio mewn amgylchedd arlwyo;
    • sy’n gallu addasu i newid

    Yn gyfnewid am eich sgiliau a’ch ymrwymiad, byddwn yn cynnig ystod o fuddion gweithwyr i chi gan gynnwys lwfans gwyliau blynyddol cystadleuol a chynllun cyfraniadau pensiwn hael.

    Mae mwy o wybodaeth am ein hystod eang o fuddion gweithwyr i’w gweld yma.

    Yn ogystal, rydym wedi ymrwymo i ddatblygu ein pobl, a byddwn nid yn unig yn darparu cymorth i’ch galluogi i ymgymryd â meysydd cyfrifoldeb allweddol y rôl hon yn gyflym ac yn hyderus ond yn ogystal, rydym wedi ymrwymo i gefnogi eich datblygiad er mwyn i chi allu datblygu eich gyrfa gyda ni.

    Disgrifiad Swydd a Manyleb Person

    Pecyn Gwybodaeth Tîm Ceredigion

    Os hoffech wybodaeth bellach am y rôl hon, cysylltwch â Gaynor Davies ar 07773 386880

    Cynhelir cyfweliadau o fewn 3 wythnos i’r dyddiad cau.

    Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.

    Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu ac amddiffyn plant ac oedolion sydd mewn perygl Fel rhan o’r ymrwymiad hwn, mae rhai rolau o fewn ein sefydliad yn gofyn am wiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) i asesu addasrwydd ymgeiswyr. Bydd y rôl hon yn gofyn am wiriad DBS Uwch. Sylwch na fydd presenoldeb euogfarnau blaenorol o reidrwydd yn anghymhwyso ymgeisydd rhag ystyriaeth ar gyfer y swydd hon. Rydym yn asesu pob ymgeisydd fesul achos, ac yn ystyried natur a pherthnasedd unrhyw euogfarnau mewn perthynas â chyfrifoldebau’r rôl. Ein nod yw creu amgylchedd gwaith cynhwysol a chefnogol lle caiff pob unigolyn ei drin yn deg a chyda pharch. Os oes gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau am y broses hon, mae croeso i chi gysylltu â ni am eglurhad. Mae eich preifatrwydd a’ch urddas yn hollbwysig i ni drwy gydol y broses recriwtio.

    Yr hyn a gynigwn

    Cydbwysedd bywyd a gwaith

    Cynllun cynilo ffordd o fyw

    Cynllun pensiwn cyflogwr hael

    Cynllun beicio i'r gwaith

    Dysgu a datblygu

    Lle byddwch yn gweithio

    Gwasanaeth Ysgolion a Diwylliant

    Rydym yn cynnig her a chefnogaeth briodol i’n hysgolion, i’w helpu i gyflwyno addysg o’r radd flaenaf i bob disgybl, ar draws yr ystod oedran a gallu.  Mae ein prif swyddogaethau yn cynnwys: 

    • Gwella Ysgolion: Arweinyddiaeth; Cefnogaeth a Her, Addysgu a Dysgu; Llythrennedd Digidol; Llythrennedd a Rhifedd; Cymraeg mewn Addysg
    • Anghenion Dysgu Ychwanegol: Darpariaeth ar gyfer disgyblion ag Anghenion Dysgu Ychwanegol, Cynhwysiant; Presenoldeb; Seicoleg Addysg
    • Lles Disgyblion: Cwnsela; Lles; Gwrth-fwlio, Llais Disgyblion
    • Llywodraethu Addysg: Data; Cefnogaeth Llywodraethwyr, Cefnogaeth polisi
    • Derbyniadau Ysgol 
    • Diwylliant: Gwasanaeth Cerdd; Cered; Theatr Felinfach; Amgueddfa
    • Seilwaith ac Adnoddau: cynllunio lleoedd ysgol, moderneiddio a rhaglen ysgolion yr Unfed Ganrif ar Hugain, Adeiladau; Grantiau
    • Arlwyo: Canolfannau Dydd; Ysgolion cynradd; Cartrefi preswyl
    • ​Uned Gofal Plant​​: Asesiad Digonolrwydd Gofal Plant; Grant Gofal Plant a Chwarae; Cynnig Gofal Plant Cymorth busnes a hyfforddiant staff ar gyfer Darpariaeth Ôl Ysgol (Clybiau ar ôl Ysgol a Chlybiau Gwyliau); Meithrinfeydd Dydd, Cylchoedd Meithrin/Chwarae a Gwarchodwyr Plant
    Tregaron
    Tref farchnad yw Tregaron wedi’i lleoli ar ochr orllewinol Mynyddoedd Cambria.
    Darllen mwy