Rydym yn gweithredu polisi dwyieithog. Gwahoddir ymgeiswyr i wneud cais yn Gymraeg, ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a wneir yn Saesneg.
Dyddiad Cau: 24/06/2026
Cyfeirnod: REQ106694
37 awr / Parhaol
39,152 - 40,777 *
Canolfan Rheidol, Aberystwyth
Noder fod y cyflog a hysbysebir ar gyfer y swydd hon yn amodol ar ddyfarniad cyflog cenedlaethol 2026/2027 sydd ar ddod. Caiff y cyflog terfynol ei addasu yn unol â hynny unwaith y bydd y dyfarniad wedi’i gytuno.
Rydym yn chwilio am Reolwr Twristiaeth a Marchnata profiadol a chreadigol i arwain datblygiad a chyflwyno ein gweithgarwch twristiaeth, marchnata cyrchfannau a brandio lleoedd. Mae hon yn rôl allweddol wrth yrru twf economaidd cynaliadwy, cynyddu nifer a gwariant ymwelwyr, a gwella proffil Ceredigion fel lle i ymweld, byw, gweithio a buddsoddi.
Gan weithio ar y cyd ar draws y Cyngor a gyda phartneriaid rhanbarthol, cenedlaethol a lleol, byddwch yn cyflwyno ymgyrchoedd marchnata effaith uchel, yn rheoli asedau twristiaeth allweddol ac yn goruchwylio’r gwaith o gyflawni blaenoriaethau twristiaeth strategol sy’n cyd-fynd ag amcanion corfforaethol y Cyngor.
Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person
Pecyn Gwybodaeth Tîm Ceredigion
Cysylltu â ni
Am fwy o wybodaeth a thrafodaeth anffurfiol ynglŷn â’r swydd hon, cysylltwch ag:
Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.
Cydbwysedd bywyd a gwaith
Cynllun cynilo ffordd o fyw
Cynllun pensiwn cyflogwr hael
Cynllun beicio i'r gwaith
Dysgu a datblygu
Rydym yn chwarae rhan hanfodol yn y gwaith o gyflawni un o brif amcanion Strategaeth Gorfforaethol y Cyngor, sef ceisio rhoi hwb i economi’r Sir a Chanolbarth Cymru. Rydym wedi ein trefnu yn dair prif adran: Gwasanaethau Economi, Cynllunio ac Eiddo. Ein prif swyddogaethau yw: