Rydym yn gweithredu polisi dwyieithog. Gwahoddir ymgeiswyr i wneud cais yn Gymraeg, ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a wneir yn Saesneg.

Cynorthwyydd Addysgu Lefel 2 x 2 – Ysgol T. Llew Jones

Dyddiad Cau: 16/06/2026

Cyfeirnod: REQ106697

32.5 awr / Cyfnod Penodedig

25,185 *

Llandysul

*Mae'r gwerthoedd cyflog yn pro-rata.

Ynglŷn â'r rôl

The following is an advert where the ability to communicate through the medium of Welsh and English is essential.

Rydym am benodi dau Cynorthwyydd Dosbarth Lefel 2 i’n cynorthwyo i gefnogi a chyflwyno dysgu yn Ysgol T Llew Jones.

Lleolir Ysgol T Llew Jones, ym mhentref Brynhoffnant, Ceredigion. Mae tua 165 o ddisgyblion ar gofrestr yr ysgol. Mae’r ysgol yn sefydliad hapus, a chyfeillgar gyda’r disgyblion yn ganolog i holl weithgareddau’r ysgol. Rydym yn chwilio am berson brwdfrydig, egniol i ymuno a thîm llwyddiannus er mwyn sicrhau y cyfleoedd gorau ar gyfer disgyblion yr ardal.

Fe fydd gofyn i chi:

  • Goruchwylio a darparu cefnogaeth neulltiol i ddisgyblion, gan gynnwys y rheiny âg anghenion arbennig, gan sicrhau eu bod yn ddiogel a bod ganddynt fynediad at weithgareddau dysgu;
  • Sefydlu perthynas adeiladol gyda holl ddisgyblion, gan ryngweithio yn unol â’u hanghenion unigol;
  • Herio a symbylu disgyblion, hyrwyddo ac atgyfnerthuhunan-werth;
  • Annog disgyblion i ryngweithio ag eraill ac i gymryd rhan mewn gweithgareddau o dan yr athro neu’r athrawes;
  • Cynorthwyo gyda’r gwaith o gynllunio a chyflwyno gweithgareddau dysgu penodol megis ymyrraethau fel Trandep a Chyfrif Ceredigion neu Els

Rydym am benodi unigolyn sydd â:

  • Sgiliau rhifedd/llythrennedd da yn y Gymraeg a’r Saesneg;
  • Sgiliau cyfathrebu gwych ac yn meddu ar y gallu i adeiladu perthnasau dros ystod oedran a gallu
  • Dealltwriaeth gyffredinol o’r Cwricwlwm i Gymru/ rhaglenni a strategaethau dysgu sylfaenol eraill e.e Trandep / Cyfrif Ceredigion;
  • Gweithio’n adeiladol a hyblyg yn rhan o dîm, deall cyfrifoldebau a swyddogaethau’r ystafell ddosbarth a’ch safle bersonol o fewn y swyddogaethau hynny;

Pecyn Gwybodaeth

Fe fydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn mwynhau gweithio mewn amgylchedd prysur, drwy ddefnyddio’u menter, gydag rhagolwg bositif a gwir ddiddordeb mewn cefnogi anghenion dysgu’r disgyblion.

I gydnabod eich sgiliau a’ch ymrwymiad, fe fyddwn yn cynnig amrediad o fuddion gweithwyr gan gynnwys cynllun pensiwn cyflogwr hael. Gallwch ddysgu mwy am ein buddion gweithwyr drwy ymweld â’r wefan yma. Rydym wedi ymrwymo i ddatblygu ein pobl a byddwn yn darparu cefnogaeth i’ch galluogi i gymryd perchnogaeth o feysydd cyfrifoldeb allweddol y rôl hon yn gyflym ac yn hyderus.

Am fwy o wybodaeth mae croeso i chi gysylltu â’r Pennaeth Mrs Rhian Lloyd ar 01239 654553 neu ebostiwch lloydm38@hwbcymru.net.

Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.

Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu ac amddiffyn plant ac oedolion sydd mewn perygl Fel rhan o’r ymrwymiad hwn, mae rhai rolau o fewn ein sefydliad yn gofyn am wiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) i asesu addasrwydd ymgeiswyr. Bydd y rôl hon yn gofyn am wiriad DBS Uwch. Sylwch na fydd presenoldeb euogfarnau blaenorol o reidrwydd yn anghymhwyso ymgeisydd rhag ystyriaeth ar gyfer y swydd hon. Rydym yn asesu pob ymgeisydd fesul achos, ac yn ystyried natur a pherthnasedd unrhyw euogfarnau mewn perthynas â chyfrifoldebau’r rôl. Ein nod yw creu amgylchedd gwaith cynhwysol a chefnogol lle caiff pob unigolyn ei drin yn deg a chyda pharch. Os oes gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau am y broses hon, mae croeso i chi gysylltu â ni am eglurhad. Mae eich preifatrwydd a’ch urddas yn hollbwysig i ni drwy gydol y broses recriwtio.

Yr hyn a gynigwn

Cydbwysedd bywyd a gwaith

Cynllun cynilo ffordd o fyw

Cynllun pensiwn cyflogwr hael

Cynllun beicio i'r gwaith

Dysgu a datblygu

Lle byddwch yn gweithio

Gwasanaeth Ysgolion a Diwylliant

Rydym yn cynnig her a chefnogaeth briodol i’n hysgolion, i’w helpu i gyflwyno addysg o’r radd flaenaf i bob disgybl, ar draws yr ystod oedran a gallu.  Mae ein prif swyddogaethau yn cynnwys: 

  • Gwella Ysgolion: Arweinyddiaeth; Cefnogaeth a Her, Addysgu a Dysgu; Llythrennedd Digidol; Llythrennedd a Rhifedd; Cymraeg mewn Addysg
  • Anghenion Dysgu Ychwanegol: Darpariaeth ar gyfer disgyblion ag Anghenion Dysgu Ychwanegol, Cynhwysiant; Presenoldeb; Seicoleg Addysg
  • Lles Disgyblion: Cwnsela; Lles; Gwrth-fwlio, Llais Disgyblion
  • Llywodraethu Addysg: Data; Cefnogaeth Llywodraethwyr, Cefnogaeth polisi
  • Derbyniadau Ysgol 
  • Diwylliant: Gwasanaeth Cerdd; Cered; Theatr Felinfach; Amgueddfa
  • Seilwaith ac Adnoddau: cynllunio lleoedd ysgol, moderneiddio a rhaglen ysgolion yr Unfed Ganrif ar Hugain, Adeiladau; Grantiau
  • Arlwyo: Canolfannau Dydd; Ysgolion cynradd; Cartrefi preswyl
  • ​Uned Gofal Plant​​: Asesiad Digonolrwydd Gofal Plant; Grant Gofal Plant a Chwarae; Cynnig Gofal Plant Cymorth busnes a hyfforddiant staff ar gyfer Darpariaeth Ôl Ysgol (Clybiau ar ôl Ysgol a Chlybiau Gwyliau); Meithrinfeydd Dydd, Cylchoedd Meithrin/Chwarae a Gwarchodwyr Plant
Llandysul
Yn hanesyddol, Llandysul oedd canolbwynt diwydiant gwlân Cymru, lle cyflogid miloedd o bobl yn ystod y chwyldro diwydiannol.
Darllen mwy