Rydym yn gweithredu polisi dwyieithog. Gwahoddir ymgeiswyr i wneud cais yn Gymraeg, ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a wneir yn Saesneg.

Gofalwr/wraig

Dyddiad Cau: 24/06/2026

Cyfeirnod: REQ106698

37 awr / Parhaol

26,403 - 27,694 *

Penmorfa, Aberaeron

*Mae'r gwerthoedd cyflog yn pro-rata.

Ynglŷn â'r rôl

Noder fod y cyflog a hysbysebir ar gyfer y swydd hon yn amodol ar ddyfarniad cyflog cenedlaethol 2026/2027 sydd ar ddod. Caiff y cyflog terfynol ei addasu yn unol â hynny unwaith y bydd y dyfarniad wedi’i gytuno.

Y Rôl: Mae Gwasanaethau Rheoli Cyfleusterau Eiddo Ceredigion am recriwtio Gofalwr llawn amser i gynorthwyo gydag ystod eang o gyfleusterau adeiladu yn Swyddfeydd y Cyngor. Bydd disgwyl i ddeiliad y swydd gyflawni ystod lawn o ddyletswyddau ymarferol. Mae’n bosibl y bydd angen gweithio goramser gyda’r nos ac ar benwythnosau o bryd i’w gilydd. Rôl gwasanaeth cwsmeriaid yw hon yn rhannol ac mae angen ymgeisydd â sgiliau cyfathrebu rhyngbersonol a rheng flaen.

Bydd angen:

  • Ymdeimlad datblygedig o gyfrifoldeb.
  • Y gallu i weithio ar eich menter eich hun yn ogystal ag aelod o dîm.
  • Bod yn hyblyg, yn hunan-gymhellol, yn gallu blaenoriaethu tasgau, yn groyw ac yn
    gyfathrebol, yn allblyg ac yn ddymunol.
  • Ymwybyddiaeth o faterion Iechyd a Diogelwch.
  • Trwydded yrru gyfredol y DU.

Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person

Pecyn Gwybodaeth Tîm Ceredigion

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â: Robert Davies drwy PropertyServices@ceredigion.gov.uk

Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.

Yr hyn a gynigwn

Cydbwysedd bywyd a gwaith

Cynllun cynilo ffordd o fyw

Cynllun pensiwn cyflogwr hael

Cynllun beicio i'r gwaith

Dysgu a datblygu

Lle byddwch yn gweithio

Economi ac Adfywio

Rydym yn chwarae rhan hanfodol yn y gwaith o gyflawni un o brif amcanion Strategaeth Gorfforaethol y Cyngor, sef ceisio rhoi hwb i economi’r Sir a Chanolbarth Cymru. Rydym wedi ein trefnu yn dair prif adran: Gwasanaethau Economi, Cynllunio ac Eiddo.  Ein prif swyddogaethau yw:

  • Twf a Menter: Cefnogi twf ac adfywiad economaidd yn lleol ac ar draws y rhanbarth; Tyfu Canolbarth Cymru; yr Ystâd Gorfforaethol a Chyfleoedd Datblygu; Cefnogaeth Prosiect; Cyllid Ewropeaidd a lleol; Canolfan Fwyd Cymru a chefnogi datblygiad Bwyd-Amaeth; Hyrwyddo a datblygu twristiaeth; Canolfannau Gwybodaeth i Dwristiaid; Arfordir a Chefn Gwlad
  • Gwasanaethau Cynllunio: Cefnogi twf trwy’r Gwasanaethau Cynllunio a Rheoli Adeiladu; Polisi Cynllunio Defnydd Tir Strategol a Lleol; Rheoli Datblygu; Rheoli Adeiladu; a Chwiliadau Tir.
  • Gwasanaethau Eiddo: Cefnogi rhaglen y Cyngor trwy Reoli Prosiectau; Cynnal a Chadw Eiddo ac Adeiladau; Rheoli Cyfleusterau; Rheoli Carbon; a’r Defnydd Effeithlon o Eiddo’r Cyngor.
Penmorfa
Penmorfa yw ein swyddfa fwyaf canolog, dyma lle mae ein Prif Weithredwr a'n Cynghorwyr wedi'i leoli. 
Darllen mwy
Aberaeron
Mae Aberaeron yn dref harbwr brydferth ac mae'n un o gyrchfannau gwyliau mwyaf poblogaidd Ceredigion gyda llefydd poblogaidd i aros a bwyta.
Darllen mwy