Rydym yn gweithredu polisi dwyieithog. Gwahoddir ymgeiswyr i wneud cais yn Gymraeg, ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a wneir yn Saesneg.

Swyddog Comisiynu

Dyddiad Cau: 29/06/2026

Cyfeirnod: REQ106701

37 awr / Parhaol

28,598 - 30,518 *

Canolfan Rheidol, Aberystwyth

*Mae'r gwerthoedd cyflog yn pro-rata.

Ynglŷn â'r rôl

Rydym yn chwilio am Swyddog Comisiynu i ymuno â’n tîm yn llawn amser ar sail barhaol.

O ddydd i ddydd byddwch yn:

  • Darparu cyngor caffael a brocera mewn perthynas â gwasanaethau gofal cymdeithasol a ddarperir yn fewnol ac yn allanol ar ran Cyngor Sir Ceredigion.
  • Ymgysylltu â rhanddeiliaid mewnol ac allanol, yn cynnwys darparwyr, y Bwrdd Iechyd, a thimau rheoli gofal.
  • Darparu gwasanaeth brocera effeithiol ac effeithlon a threfnu bod gwasanaethau darparwyr allanol yn cael eu cyflenwi mewn ffordd gost-effeithiol, sy’n cwrdd â’r gofynion penodedig a’r anghenion a aseswyd.

Rydym am recriwtio unigolyn:

  • Sydd ag ymrwymiad i ddarparu gwasanaethau o safon uchel drwy drefniadau cytundebol, i sicrhau gwerth gorau
  • Gyda’r gallu i flaenoriaethu llwyth gwaith personol
  • Gyda’r gallu i ddysgu am feysydd gwybodaeth newydd yn gyflym ac i gynnal systemau cofnodi/adrodd effeithiol

Rydym yn croesawu ceisiadau gan y di-Gymraeg. Bydd pob ymgeisydd llwyddiannus sydd angen cymorth i ddysgu/gwella eu sgiliau iaith Gymraeg yn cael cynnig wersi wedi’u hariannu, yn ystod amser gwaith, i helpu i gyrraedd y safon a ddymunir. 

Ein cynnig i chi 

Rydym wedi ymrwymo i ddatblygu ein pobl a byddwn nid yn unig yn darparu cymorth i’ch galluogi i gymryd perchnogaeth o feysydd cyfrifoldeb allweddol y rôl hon yn gyflym ac yn hyderus ond yn ogystal, rydym wedi ymrwymo i gefnogi eich datblygiad er mwyn i chi allu bwrw ymlaen â’ch gyrfa gyda ni.

Yn gyfnewid am eich sgiliau a’ch ymrwymiad byddwn yn cynnig ystod o fuddion i chi, gan gynnwys gweithio hyblyg, lwfans gwyliau blynyddol cystadleuol, cynllun pensiwn gyda chyfraniad cyflogwr o 14.6%, buddion teulu, arbedion ffordd o fyw a phecynnau iechyd a lles.

Gellir cael mwy o wybodaeth am ein hystod eang o fuddion gweithwyryma.  

Credwn fod cydbwysedd bywyd a gwaith yn holl bwysig. I’ch cefnogi i gyflawni hyn, bydd gennych fynediad at y buddion dewisol canlynol:

  • Gweithio Hybrid: Yn amodol ar fodloni rhai amodau, gallwch ddewis gweithio o’ch cartref neu mewn swyddfa.
  • Amser-fflecsi: Gellir gweithio oriau o fewn lled band diffiniedig, o ddydd Llun i ddydd Gwener, yn amodol ar anghenion gwasanaeth.

Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person

Pecyn Gwybodaeth Tîm Ceredigion

Cysylltwch â ni 

Am wybodaeth pellach a thrafodaeth anffurfiol ynglŷn â’r swydd hon cysylltwch naill Alun Davies ar 01545 572659 Alun.Davies@ceredigion.gov.ukneu Becki Johnson ar 01545 574130 Rebecca.Johnson@ceredigion.gov.uk

Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.

Yr hyn a gynigwn

Cydbwysedd bywyd a gwaith

Cynllun cynilo ffordd o fyw

Cynllun pensiwn cyflogwr hael

Cynllun beicio i'r gwaith

Dysgu a datblygu

Lle byddwch yn gweithio

Cyllid a Chaffael

Rydym yn sicrhau bod y Cyngor yn parhau i fod yn gadarn yn ariannol drwy fonitro arian yn ofalus ac yn gyfrifol, caffael corfforaethol effeithiol, talu’n brydlon ac yn gywir o ran asesiadau ariannol / credydwyr a chasglu dyledion / trethiant lleol yn brydlon.

Canolfan Rheidol
Mae ein swyddfa yn Aberystwyth, Canolfan Rheidol, yn adeilad sydd wedi ennill gwobrau. Mae'r swyddfa, gyda'i dyluniad cynllun agored, yn darparu lle rhagorol ar gyfer gweithio ar y cyd.
Darllen mwy
Aberystwyth
Mae Aberystwyth yn dref brifysgol fywiog ac yn gyrchfan glan môr gyda phromenâd a phier. Yn ogystal dyma yw lleoliad y ddrama deledu atmosfferig Y Gwyll. Mae Aberystwyth yn lleoliad delfrydol i archwilio Llwybr Arfordir Cymru ar hyd Bae Cere...
Darllen mwy