Rydym yn gweithredu polisi dwyieithog. Gwahoddir ymgeiswyr i wneud cais yn Gymraeg, ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a wneir yn Saesneg.
Dyddiad Cau: 21/06/2026
Cyfeirnod: REQ106713
5 awr / Parhaol
24,413 *
Llandysul
Gwahoddir ceisiadau am Oruchwyliwr Amser Cinio am 1 awr y diwrnod i ymuno â’n tîm cyfeillgar o staff sy’n goruchwylio disgyblion rhwng oriau 11:45 ac 12:45 o ddydd Llun i ddydd Gwener yn ystod y tymor.
Trosolwg o’r Rôl:
Sicrhau diogelwch, lles a ymddygiad priodol disgyblion yn ystod cyfnod amser cinio, yn y ffreutur ac yn ystod amser chwarae.
Prif Gyfrifoldebau:
Dyletswyddau Cyffredinol:
Manyleb Person
Darganfyddwch fwy am ein hysgol drwy fynd i’n gwefan: www.ysgolbroteifi.cymru
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â’n swyddog Busnes, Angharad Morgan-Jones ar 01559 362503 neu Morg-JoneA@broteifi.ceredigion.sch.uk
Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.
Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu ac amddiffyn plant ac oedolion sydd mewn perygl Fel rhan o’r ymrwymiad hwn, mae rhai rolau o fewn ein sefydliad yn gofyn am wiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) i asesu addasrwydd ymgeiswyr. Bydd y rôl hon yn gofyn am wiriad DBS Uwch. Sylwch na fydd presenoldeb euogfarnau blaenorol o reidrwydd yn anghymhwyso ymgeisydd rhag ystyriaeth ar gyfer y swydd hon. Rydym yn asesu pob ymgeisydd fesul achos, ac yn ystyried natur a pherthnasedd unrhyw euogfarnau mewn perthynas â chyfrifoldebau’r rôl. Ein nod yw creu amgylchedd gwaith cynhwysol a chefnogol lle caiff pob unigolyn ei drin yn deg a chyda pharch. Os oes gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau am y broses hon, mae croeso i chi gysylltu â ni am eglurhad. Mae eich preifatrwydd a’ch urddas yn hollbwysig i ni drwy gydol y broses recriwtio.
Cydbwysedd bywyd a gwaith
Cynllun cynilo ffordd o fyw
Cynllun pensiwn cyflogwr hael
Cynllun beicio i'r gwaith
Dysgu a datblygu
Rydym yn cynnig her a chefnogaeth briodol i’n hysgolion, i’w helpu i gyflwyno addysg o’r radd flaenaf i bob disgybl, ar draws yr ystod oedran a gallu. Mae ein prif swyddogaethau yn cynnwys: