Rydym yn gweithredu polisi dwyieithog. Gwahoddir ymgeiswyr i wneud cais yn Gymraeg, ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a wneir yn Saesneg.
Dyddiad Cau: 14/06/2026
Cyfeirnod: REQ106714
19.5 awr / Dros Dro
33,731 - 51,942 *
Aberaeron
Cytundeb: Athro/Athrawes Cyfnod Mamolaeth Cymraeg ac Amaethyddiaeth; contract 0.6, Medi 1af 2026 – Hydref 9fed 2026* (*yn ddibynol ar ddiwedd cyfnod mamolaeth)
Rydym yn awyddus i benodi athro/athrawes brwdfrydig ac ymroddgar i ddysgu gwersi i ddisgyblion CA3 a CA4 trwy gyfrwng y Gymraeg ac yn ddwyieithog. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn dysgu ac yn cefnogi disgyblion ysgol Gyfun Aberaeron. Bydd yr amserlen yn cynnwys gwersi Cymraeg a gwersi amaethyddiaeth CA4.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn medru creu cyfleoedd dysgu cyffrous a diddorol ar draws yr ystod gallu gan sicrhau safonau uchel o gyflawniad, ac fe fydd egwyddorion Asesu ar gyfer Dysgu yn sail i’r dysgu ac addysgu. Bydd hefyd yn medru datblygu perthynas gadarnhaol gyda myfyrwyr, staff a rhieni ac yn gwneud cyfraniad i’r ethos tîm sy’n nodwedd gref o’r ysgol.
Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.
Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu ac amddiffyn plant ac oedolion sydd mewn perygl Fel rhan o’r ymrwymiad hwn, mae rhai rolau o fewn ein sefydliad yn gofyn am wiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) i asesu addasrwydd ymgeiswyr. Bydd y rôl hon yn gofyn am wiriad DBS Uwch. Sylwch na fydd presenoldeb euogfarnau blaenorol o reidrwydd yn anghymhwyso ymgeisydd rhag ystyriaeth ar gyfer y swydd hon. Rydym yn asesu pob ymgeisydd fesul achos, ac yn ystyried natur a pherthnasedd unrhyw euogfarnau mewn perthynas â chyfrifoldebau’r rôl. Ein nod yw creu amgylchedd gwaith cynhwysol a chefnogol lle caiff pob unigolyn ei drin yn deg a chyda pharch. Os oes gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau am y broses hon, mae croeso i chi gysylltu â ni am eglurhad. Mae eich preifatrwydd a’ch urddas yn hollbwysig i ni drwy gydol y broses recriwtio.
Cydbwysedd bywyd a gwaith
Cynllun cynilo ffordd o fyw
Cynllun pensiwn cyflogwr hael
Cynllun beicio i'r gwaith
Dysgu a datblygu
Rydym yn cynnig her a chefnogaeth briodol i’n hysgolion, i’w helpu i gyflwyno addysg o’r radd flaenaf i bob disgybl, ar draws yr ystod oedran a gallu. Mae ein prif swyddogaethau yn cynnwys: