Rydym yn gweithredu polisi dwyieithog. Gwahoddir ymgeiswyr i wneud cais yn Gymraeg, ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a wneir yn Saesneg.

Rheolwr Safonau Masnach a Thrwyddedu

Dyddiad Cau: 30/06/2026

Cyfeirnod: REQ106715

37 awr / Parhaol

50,269 - 52,413 *

Penmorfa, Aberaeron

*Mae'r gwerthoedd cyflog yn pro-rata.

Ynglŷn â'r rôl

Noder fod y cyflog a hysbysebir ar gyfer y swydd hon yn amodol ar ddyfarniad cyflog cenedlaethol 2026/2027 sydd ar ddod. Caiff y cyflog terfynol ei addasu yn unol â hynny unwaith y bydd y dyfarniad wedi’i gytuno.

Mae Cyngor Sir Ceredigion yn chwilio am unigolyn profiadol ac ymroddedig i arwain gwasanaethau Safonau Masnach a Thrwyddedu  y Cyngor.

Y Rôl

Fel y Rheolwr Safonau Masnach a Thrwyddedu, byddwch yn ymgymryd â rôl gweithredol i arwain a rheoli er mwyn sicrhau bod gwasanaethau Safonau Masnach a Thrwyddedu  yn cael eu darparu’n effeithiol yn unol â gofynion statudol ac i integreiddio gwaith y gwasanaethau hyn o fewn fframwaith corfforaethol, polisïau, gwerthoedd, arferion a blaenoriaethau’r Cyngor.

Yn ogystal, bydd y rôl hon yn cynnwys cyflawni cyfrifoldebau statudol y Cyngor fel Prif Arolygydd Pwysau a Mesurau, Swyddog Safonau Bwyd Arweiniol a Swyddog Bwyd Anifeiliaid Arweiniol.

Amdanoch chi

Er mwyn rhagori yn y rôl yma bydd angen i chi feddu ar y canlynol:

  • Cefndir Addysgol: Addysg hyd at lefel gradd ac yn meddu ar Ddiploma mewn Safonau Masnach neu gymhwyster a oedd yn ragflaenydd cyfatebol
  • Gwybodaeth a phrofiad: Meddu ar ystod eang o brofiad ar ôl cymhwyso, gan gynnwys profiad o reoli ymchwiliadau troseddol cymhleth a dealltwriaeth gynhwysfawr o elfennau technegol y fframweithiau deddfwriaethol perthnasol, polisïau a materion allweddol perthnasol sy’n gysylltiedig â’r rôl hon. Disgwylir i chi hefyd feddu ar brofiad o weithredu fel (neu ddirprwyo yn y rôl yma) Prif Arolygydd Pwysau a Mesurau yn unol â Deddf Pwysau a Mesur 1985
  • Sgiliau Cynllunio Strategol: Meddu ar brofiad o arwain newid mewn sefydliad cymhleth gyda’r gallu I arwain ar fentrau arwyddocaol o fewn y gwasanaeth neu’n gorfforaethol ar draws y sefydliad a hynny ar cyd ag ystod o wasanaethau, swyddogion proffesiynol a phartneriaid. Bydd hyn yn cynnwys datblygu polisi, cynllunio corfforaethol / strategol a rheoli newid. Yn sgil y pwysau ariannol sy’n wynebu’r sector cyhoeddus  bydd angen I’r ymgeisydd llwyddiannus fedru nodi arbedion a photensial i greu incwm

O ddydd i ddydd byddwch chi’n:

  • gyfrifol am oruchwylio’r gwaith a wneir gan Safonau Masnach a’r gwasanaeth Trwyddedu a sicrhau eu heffeithiolrwydd
  • rheoli gwaith gorfodi, cydymffurfio a chynghori’r timau er mwyn sicrhau bod yr Awdurdod yn cyflawni eu nodau ac amcanion Corfforaethol
  • darparu cyngor, arweiniad ac arbenigedd ar bob lefel i ddefnyddwyr y gwasanaeth gan gynnwys paratoi adroddiadau blynyddol statudol, adroddiadau i’r Pwyllgor Trwyddedu, Pwyllgorau Craffu, y Cabinet a’r Cyngor a chyflwyno’r adroddiadau hyn lle y bo’n berthnasol
  • cynrychioli’r gwasanaethau rheoleiddo hyn mewn cyfarfodydd mewnol ac allanol a datblygu polisïau a gweithdrefnau sy’n berthnasol I waith y gwasanaethau yn gyffredinol

    Beth allwn ni ei gynnig?

    Gallwn gynnig ystod o fanteision i chi fel gweithiwr am eich sgiliau a’ch ymrwymiad:

    • Cydbwysedd Gwaith – Bywyd: Trefniadau gweithio hyblyg er mwyn eich cynorthwyo i reoli gwaith ac ymrwymiadau personol.
    • Gwyliau Blynyddol: Lwfans gwyliau blynyddol cystadleuol i gefnogi eich lles
    • Cynllun Pensiwn: Cynllun cyfraniadau pensiwn cyflogwr sy’n hael 
    • Buddion er budd y teulu: Buddion sy’n fwy na’r cyffredin i’ch cefnogi chi a’ch teulu
    • Arbedion o ran Ffordd y Fyw: Mynediad i arbedion a gostyngiadau ar dreuliau ffordd o fyw amrywiol.
    • Iechyd a Lles: Pecynnau iechyd a lles i hyrwyddo amgylchedd gwaith iach

    Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person

    Pecyn Gwybodaeth Tîm Ceredigion

    Cysylltwch â ni

    Os hoffech chi drafodaeth anffurfiol am y rôl yma mae croeso i chi gysylltu â Carwen Evans, Rheolwr Corfforaethol Amddiffyn y Cyhoedd – Carwen.Evans@ceredigion.gov.uk

    Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.

    Yr hyn a gynigwn

    Cydbwysedd bywyd a gwaith

    Cynllun cynilo ffordd o fyw

    Cynllun pensiwn cyflogwr hael

    Cynllun beicio i'r gwaith

    Dysgu a datblygu

    Lle byddwch yn gweithio

    Polisi, Perfformiad a Diogelu’r Cyhoedd

    Rydym yn arwain y ffordd o ran perfformiad corfforaethol, polisi corfforaethol, partneriaethau strategol, ymgysylltu, cydlyniant cymunedol ac argyfyngau sifil, ac mae gennym hefyd gyfrifoldeb strategol a gweithredol dros ddiogelu’r cyhoedd: iechyd yr amgylchedd, twyll bwyd, safonau trwyddedu a masnachu.  Mae ein prif swyddogaethau yn cynnwys: 

    • Cwynion, Canmoliaeth a Rhyddid Gwybodaeth
    • Polisi a Pherfformiad Corfforaethol: Perfformiad corfforaethol; Rhestr eiddo; Ymchwil.
    • Diogelu’r Cyhoedd: Iechyd yr amgylchedd; Twyll bwyd; Trwyddedu; Safonau masnach; Rheoli Llygredd; Rheoli Pla; Pwysau a Mesurau; Clefydau Trosglwyddadwy; Iechyd a Diogelwch; Iechyd Anifeiliaid.
    • Partneriaethau Strategol, Ymgysylltu ac Ymchwil: Parhad busnes; Argyfyngau sifil; Partneriaeth diogelwch cymunedol; Ymgysylltu; Cydraddoldeb; Bwrdd gwasanaethau cyhoeddus; Rhaglenni ffoaduriaid.
    Penmorfa
    Penmorfa yw ein swyddfa fwyaf canolog, dyma lle mae ein Prif Weithredwr a'n Cynghorwyr wedi'i leoli. 
    Darllen mwy
    Aberaeron
    Mae Aberaeron yn dref harbwr brydferth ac mae'n un o gyrchfannau gwyliau mwyaf poblogaidd Ceredigion gyda llefydd poblogaidd i aros a bwyta.
    Darllen mwy