Rydym yn gweithredu polisi dwyieithog. Gwahoddir ymgeiswyr i wneud cais yn Gymraeg, ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a wneir yn Saesneg.
Dyddiad Cau: 05/07/2026
Cyfeirnod: REQ106720
37 awr / Cyfnod Penodedig
26,403 - 27,694 *
Penmorfa, Aberaeron
Noder fod y cyflog a hysbysebir ar gyfer y swydd hon yn amodol ar ddyfarniad cyflog cenedlaethol 2026/2027 sydd ar ddod. Caiff y cyflog terfynol ei addasu yn unol â hynny unwaith y bydd y dyfarniad wedi’i gytuno.
Eisiau dechrau eich gyrfa ym maes gwarchod y cyhoedd ac iechyd yr amgylchedd? Am wneud gwahaniaeth gwirioneddol i gymunedau ledled Ceredigion drwy helpu i ddiogelu iechyd, diogelwch a lles pobl? Rydym yn chwilio am raddedig cymhellol i ymuno â ni fel Hyfforddai Graddedig – Gwarchod y Cyhoedd ar gontract cyfnod penodol, llawn amser, 12 mis.
Yn y rôl hon, byddwch yn gweithio ochr yn ochr â chydweithwyr profiadol a chymwysedig yn broffesiynol, gan feithrin sgiliau ymarferol ar draws swyddogaethau gwarchod y cyhoedd. Byddwch yn cefnogi arolygiadau, ymchwiliadau a phrosiectau, yn dysgu sut rydym yn cymhwyso deddfwriaeth a chanllawiau, ac yn datblygu’r wybodaeth sydd ei hangen i symud ymlaen i rôl broffesiynol arbenigol ym maes Iechyd yr Amgylchedd. Byddwch hefyd yn cael cymorth i gwblhau cymhwyster rheoli prosiect achrededig PRINCE2 a defnyddio eich dysgu ar flaenoriaethau gwasanaeth go iawn.
Beth fyddwch chi’n ei wneud:
Pwy rydyn ni’n chwilio amdano
Rydych yn chwilfrydig, trefnus ac yn awyddus i wneud gwahaniaeth. Rydych yn mwynhau dysgu, gweithio gydag eraill a throsi gwybodaeth yn gamau ymarferol.
I fod yn gymwys ar gyfer y cyfle hyfforddai graddedig hwn, bydd angen:
Beth sydd ynddo i chi?
Os ydych yn barod i ddechrau gyrfa â phwrpas a gweld effaith eich gwaith yn y byd go iawn, gwnewch gais nawr a dechreuwch eich taith gyda Thîm Ceredigion.
Gwybodaeth Ychwanegol
Mae gwybodaeth fanwl am y cyfle a’r profiad cyflogaeth a gynigiwn yn Nhîm Ceredigion ar gael yn y dogfennau canlynol:
Sesiwn Gwybodaeth Rithwir: Ymunwch â ni ddydd Llun, 15fed Mehefin, o 10:30 yb i 11:30 yb neu Dydd Gwener, 26 Mehefin 2026 am 12:00 – 12:45. Cliciwch yma i gofrestru.
Cynhelir cyfweliadau yn ystod yr wythnos sy’n dechrau ar 13 Gorffennaf 2026.
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Carwen Evans drwy carwen.evans@ceredigion.gov.uk
Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.
Cydbwysedd bywyd a gwaith
Cynllun cynilo ffordd o fyw
Cynllun pensiwn cyflogwr hael
Cynllun beicio i'r gwaith
Dysgu a datblygu
Rydym yn arwain y ffordd o ran perfformiad corfforaethol, polisi corfforaethol, partneriaethau strategol, ymgysylltu, cydlyniant cymunedol ac argyfyngau sifil, ac mae gennym hefyd gyfrifoldeb strategol a gweithredol dros ddiogelu’r cyhoedd: iechyd yr amgylchedd, twyll bwyd, safonau trwyddedu a masnachu. Mae ein prif swyddogaethau yn cynnwys: