Rydym yn gweithredu polisi dwyieithog. Gwahoddir ymgeiswyr i wneud cais yn Gymraeg, ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a wneir yn Saesneg.

Hyfforddai Graddedig – Lleihau Carbon a Rheoli Asedau Ynni

Dyddiad Cau: 05/07/2026

Cyfeirnod: REQ106722

37 awr / Cyfnod Penodedig

26,403 - 27,694 *

Canolfan Rheidol, Aberystwyth

*Mae'r gwerthoedd cyflog yn pro-rata.

Ynglŷn â'r rôl

Noder fod y cyflog a hysbysebir ar gyfer y swydd hon yn amodol ar ddyfarniad cyflog cenedlaethol 2026/2027 sydd ar ddod. Caiff y cyflog terfynol ei addasu yn unol â hynny unwaith y bydd y dyfarniad wedi’i gytuno.

Eisiau dechrau eich gyrfa ym maes cynaliadwyedd a’r amgylchedd adeiledig? Am helpu i ddarparu adeiladau cyhoeddus diogel, effeithlon a chynaliadwy ledled Ceredigion? Rydym yn chwilio am raddedig cymhellol i ymuno â ni fel Hyfforddai Graddedig ym maes Lleihau Carbon, Ynni a Rheoli Asedau ar gontract cyfnod penodol, llawn amser, 12 mis.

Yn y rôl hon, byddwch yn gweithio ochr yn ochr â chydweithwyr profiadol i gefnogi ein gwaith ym maes ynni, carbon a rheoli asedau – gan ddatblygu sgiliau ymarferol mewn data, cydymffurfiaeth a chyflawni prosiectau. Byddwch yn cael cefnogaeth i ddysgu’r systemau a’r offer sydd eu hangen arnoch, a byddwch yn helpu i droi gwybodaeth yn gamau gweithredu sy’n gwella ein hadeiladau a’n gwasanaethau. Mae gwybodaeth a phrofiad blaenorol o ddefnyddio AutoCAD yn ddymunol.

Beth fyddwch chi’n ei wneud

  • Cefnogi cyflawni prosiectau ynni a lleihau carbon, gan weithio gyda chydweithwyr a chyflenwyr
  • Cynnal arolygon adeiladau mesuredig a diweddaru cynlluniau gan ddefnyddio AutoCAD i gefnogi cydymffurfiaeth
  • Cefnogi cynnal cofrestrau diogelwch adeiladau, gan gynnwys asbestos a Legionella, a chadw data eiddo’n gyfredol
  • Mewnbynnu, diweddaru a gwirio ansawdd data yn system Infoshare Asset Management a meddalwedd SystemsLink Energy Manager

Pwy rydym yn chwilio amdano

Rydych yn chwilfrydig, trefnus ac yn awyddus i wneud gwahaniaeth. I fod yn gymwys, bydd angen gradd 2:1 (neu uwch) arnoch, a gwblhawyd o fewn y tair blynedd diwethaf.

Bydd angen hefyd i chi allu teithio ac ymweld â lleoliadau ledled Ceredigion gan ddefnyddio eich trefniadau teithio eich hun pan fo angen.

Yn gyfnewid, byddwch yn ennill profiad gwerthfawr yn y sector cyhoeddus, yn datblygu eich arbenigedd ym maes ynni a rheoli asedau, ac—yn amodol ar berfformiad rhagorol a chontract dilynol—byddwn yn eich cefnogi i ennill cymwysterau proffesiynol RICS a MBIFM.

Yr hyn rydym yn ei gynnig i chi

  • Swydd 12 mis (gan anelu i ddechrau yng nghanol mis Medi 2026)
  • Cymhwyster rheoli prosiect cydnabyddedig (PRINCE2)
  • Cefnogaeth a mentora proffesiynol
  • 27 diwrnod o wyliau blynyddol, ynghyd ag 8 gŵyl gyhoeddus
  • Gweithio hybrid – yn amodol ar ofod gwaith addas, cysylltiad band eang ac anghenion y gwasanaeth
  • Amser hyblyg – gallwch weithio rhwng 7:30 y bore a 7:00 yr hwyr, gyda’r oriau mewn credyd yn cael eu cymryd fel gwyliau ychwanegol
  • Y potensial ar gyfer contract dilynol, yn amodol ar berfformiad rhagorol ac argaeledd cyllid, a all gynnwys cefnogaeth bellach i ennill cymhwyster proffesiynol arbenigol

Os ydych yn barod i ddechrau gyrfa â phwrpas a gweld effaith eich gwaith yn y byd go iawn, gwnewch gais nawr a dechreuwch eich taith gyda Thîm Ceredigion!

Gwybodaeth Ychwanegol

Mae rhagor o fanylion ar gael yn:

Sesiwn Gwybodaeth Rithwir: Ymunwch â ni ddydd Llun, 15fed Mehefin, o 10:30yb i 11:30yb neu Dydd Gwener, 26 Mehefin 2026 am 12:00 – 12:45. Cliciwch yma i gofrestru.

Cynhelir cyfweliadau yn ystod yr wythnos sy’n dechrau ar 13 Gorffennaf 2026

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch ag Allan Bailey drwy allan.bailey@ceredigion.gov.uk

Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.

Yr hyn a gynigwn

Cydbwysedd bywyd a gwaith

Cynllun cynilo ffordd o fyw

Cynllun pensiwn cyflogwr hael

Cynllun beicio i'r gwaith

Dysgu a datblygu

Lle byddwch yn gweithio

Economi ac Adfywio

Rydym yn chwarae rhan hanfodol yn y gwaith o gyflawni un o brif amcanion Strategaeth Gorfforaethol y Cyngor, sef ceisio rhoi hwb i economi’r Sir a Chanolbarth Cymru. Rydym wedi ein trefnu yn dair prif adran: Gwasanaethau Economi, Cynllunio ac Eiddo.  Ein prif swyddogaethau yw:

  • Twf a Menter: Cefnogi twf ac adfywiad economaidd yn lleol ac ar draws y rhanbarth; Tyfu Canolbarth Cymru; yr Ystâd Gorfforaethol a Chyfleoedd Datblygu; Cefnogaeth Prosiect; Cyllid Ewropeaidd a lleol; Canolfan Fwyd Cymru a chefnogi datblygiad Bwyd-Amaeth; Hyrwyddo a datblygu twristiaeth; Canolfannau Gwybodaeth i Dwristiaid; Arfordir a Chefn Gwlad
  • Gwasanaethau Cynllunio: Cefnogi twf trwy’r Gwasanaethau Cynllunio a Rheoli Adeiladu; Polisi Cynllunio Defnydd Tir Strategol a Lleol; Rheoli Datblygu; Rheoli Adeiladu; a Chwiliadau Tir.
  • Gwasanaethau Eiddo: Cefnogi rhaglen y Cyngor trwy Reoli Prosiectau; Cynnal a Chadw Eiddo ac Adeiladau; Rheoli Cyfleusterau; Rheoli Carbon; a’r Defnydd Effeithlon o Eiddo’r Cyngor.
Canolfan Rheidol
Mae ein swyddfa yn Aberystwyth, Canolfan Rheidol, yn adeilad sydd wedi ennill gwobrau. Mae'r swyddfa, gyda'i dyluniad cynllun agored, yn darparu lle rhagorol ar gyfer gweithio ar y cyd.
Darllen mwy
Aberystwyth
Mae Aberystwyth yn dref brifysgol fywiog ac yn gyrchfan glan môr gyda phromenâd a phier. Yn ogystal dyma yw lleoliad y ddrama deledu atmosfferig Y Gwyll. Mae Aberystwyth yn lleoliad delfrydol i archwilio Llwybr Arfordir Cymru ar hyd Bae Cere...
Darllen mwy