Rydym yn gweithredu polisi dwyieithog. Gwahoddir ymgeiswyr i wneud cais yn Gymraeg, ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a wneir yn Saesneg.

Prentis Recriwtio a Chyfathrebu Mewnol

Dyddiad Cau: 07/07/2026

Cyfeirnod: REQ106725

25 awr / Cyfnod Penodedig

24,796 *

Canolfan Rheidol, Aberystwyth

*Mae'r gwerthoedd cyflog yn pro-rata.

Ynglŷn â'r rôl

Noder fod y cyflog a hysbysebir ar gyfer y swydd hon yn amodol ar ddyfarniad cyflog cenedlaethol 2026/2027 sydd ar ddod. Caiff y cyflog terfynol ei addasu yn unol â hynny unwaith y bydd y dyfarniad wedi’i gytuno.

Ydych chi’n bwriadu dechrau eich gyrfa mewn rôl swyddfa lle gallwch chi ddatblygu sgiliau go iawn mewn recriwtio, cyfathrebu a systemau digidol

Rydym yn chwilio am Brentis Recriwtio a Chyfathrebu Mewnol i ymuno â’n tîm Profiad y Gweithiwr. Mae hwn yn gyfle gwych i ennill profiad ymarferol tra’n gweithio tuag at gymhwyster a gydnabyddir yn genedlaethol.

Ynglŷn â’r rôl

Yn y rôl hon, byddwch yn cefnogi gweithgareddau recriwtio a chyfathrebu mewnol ar draws y sefydliad. Byddwch yn cyfrannu at hyrwyddo cyfleoedd swydd, cynnal cynnwys digidol a chefnogi rheolwyr, gweithwyr ac ymgeiswyr.

Bydd y rôl hon yn rhoi profiad i chi o ystod eang o dasgau ac yn darparu sylfaen gadarn ar gyfer gyrfa yn y dyfodol ym maes AD, recriwtio neu gyfathrebu.

Beth fyddwch chi’n ei wneud

  • Llwytho a rheoli hysbysebion swyddi ar wefan gyrfaoedd
  • Creu a diweddaru erthyglau newyddion a chynnwys ar fewnrwyd y staff
  • Ymateb i ymholiadau arferol gan weithwyr, rheolwyr ac ymgeiswyr swyddi
  • Mynychu digwyddiadau recriwtio a ffeiriau gyrfaoedd
  • Gwirio a phrawfddarllen cynnwys i sicrhau cywirdeb a sylw i fanylion
  • Dysgu sut i drin gwybodaeth yn ddiogel a chynnal cyfrinachedd

Beth rydym yn chwilio amdano

Byddai’r rôl hon yn addas i rywun sy’n:

  • Mwynhau defnyddio cyfrifiaduron ac sy’n hyderus wrth weithio gyda systemau ac offer digidol
  • Â sylw da i fanylion ac yn ymfalchïo mewn cynhyrchu gwaith cywir
  • Â sgiliau cyfathrebu da ac yn gyfforddus yn gofyn cwestiynau ac yn dysgu
  • Yn drefnus ac yn gallu rheoli ystod o dasgau
  • Â diddordeb mewn gwaith swyddfa, recriwtio, AD neu gyfathrebu
  • Yn gweithio’n dda fel rhan o dîm
  • Yn awyddus i ddysgu, datblygu a meithrin sgiliau newydd fel rhan o brentisiaeth

Sylwer: Ni fyddwch yn gymwys os ydych eisoes yn meddu ar radd neu gymhwyster mewn Gweinyddu Busnes ar y lefel hon neu’n uwch.

Beth fyddwch chi’n ei ennill

  • Cymhwyster Prentisiaeth Gweinyddu Busnes Lefel 2
  • Profiad ymarferol mewn recriwtio, AD a chyfathrebu mewnol
  • Cefnogaeth a mentora gan dîm profiadol
  • Cyfle i gyfrannu at brosiectau go iawn sy’n cefnogi gweithwyr ar draws y sefydliad

Ein cynnig i chi

Rydym wedi ymrwymo i ddatblygu ein pobl a byddwn nid yn unig yn darparu cymorth i’ch galluogi i gymryd perchnogaeth o feysydd cyfrifoldeb allweddol y rôl hon yn gyflym ac yn hyderus ond yn ogystal, rydym wedi ymrwymo i gefnogi eich datblygiad er mwyn i chi allu bwrw ymlaen â’ch gyrfa gyda ni.

Yn gyfnewid am eich sgiliau a’ch ymrwymiad byddwn yn cynnig ystod o fuddion i chi, gan gynnwys gweithio hyblyg, lwfans gwyliau blynyddol cystadleuol, cynllun pensiwn gyda chyfraniad cyflogwr o 14.6%, buddion teulu, arbedion ffordd o fyw a phecynnau iechyd a lles.

Gellir cael mwy o wybodaeth am ein hystod eang o fuddion gweithwyr yma.

Credwn fod cydbwysedd bywyd a gwaith yn holl bwysig. I’ch cefnogi i gyflawni hyn, bydd gennych fynediad at y buddion dewisol canlynol:

  • Gweithio Hybrid: Yn amodol ar fodloni rhai amodau, gallwch ddewis gweithio o’ch cartref neu mewn swyddfa.
  • Amser-fflecsi: Gellir gweithio oriau o fewn lled band diffiniedig, o ddydd Llun i ddydd Gwener, yn amodol ar anghenion gwasanaeth.

Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person

    Pecyn Gwybodaeth Tîm Ceredigion

    Cynhelir cyfweliadau ar 16 Gorffennaf 2026

    Am ragor o wybodaeth, cysylltwch ag Angharad Rees drwy angharad.nofelo.rees@ceredigion.gov.uk

    Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.

    Yr hyn a gynigwn

    Cydbwysedd bywyd a gwaith

    Cynllun cynilo ffordd o fyw

    Cynllun pensiwn cyflogwr hael

    Cynllun beicio i'r gwaith

    Dysgu a datblygu

    Lle byddwch yn gweithio

    Pobl a Threfniadaeth

    Rydym yn cynnig cymorth i’r sefydliad er mwyn denu, datblygu a chadw gweithlu ystwyth sy’n perfformio’n dda, gan weithio mewn amgylchedd diogel, sy’n gallu darparu gwasanaethau o’r safon uchaf i ddinasyddion Ceredigion nawr ac yn y dyfodol. Ein prif swyddogaeth yw:

    • Cyngor a Gweinyddu Adnoddau Dynol: Absenoldeb; Arfarniadau; Cytundebau; Disgyblu; Cwyno; Gwerthuso Swyddi; Rheoli Newid; Recriwtio ac Ar-fyrddio.
    • Iechyd, Diogelwch a Lles: Cyngor; Cydymffurfio; Asesiadau risg.
    • Dysgu a Datblygu: E-ddysgu; Digwyddiadau; Panel cymwysterau; Hyfforddiant.
    • Ymgysylltu a Lles: Ceri +; Cyfathrebu Mewnol; Marchnata Recriwtio
    • Tâl a Budd-daliadau:  Cyflogres; Pensiynau; Taflenni amser.
    • Systemau: Datblygiad a System Ceri; Data ac Adrodd.
    Canolfan Rheidol
    Mae ein swyddfa yn Aberystwyth, Canolfan Rheidol, yn adeilad sydd wedi ennill gwobrau. Mae'r swyddfa, gyda'i dyluniad cynllun agored, yn darparu lle rhagorol ar gyfer gweithio ar y cyd.
    Darllen mwy
    Aberystwyth
    Mae Aberystwyth yn dref brifysgol fywiog ac yn gyrchfan glan môr gyda phromenâd a phier. Yn ogystal dyma yw lleoliad y ddrama deledu atmosfferig Y Gwyll. Mae Aberystwyth yn lleoliad delfrydol i archwilio Llwybr Arfordir Cymru ar hyd Bae Cere...
    Darllen mwy