Rydym yn gweithredu polisi dwyieithog. Gwahoddir ymgeiswyr i wneud cais yn Gymraeg, ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a wneir yn Saesneg.
Dyddiad Cau: 07/07/2026
Cyfeirnod: REQ106730
37 awr / Parhaol
26,403 *
Penmorfa, Aberaeron
Noder fod y cyflog a hysbysebir ar gyfer y swydd hon yn amodol ar ddyfarniad cyflog cenedlaethol 2026/2027 sydd ar ddod. Caiff y cyflog terfynol ei addasu yn unol â hynny unwaith y bydd y dyfarniad wedi’i gytuno.
Os ydych chi’n cael eich ysgogi trwy ddarparu gwasanaeth cwsmeriaid o’r radd flaenaf ac wedi ymrwymo i wella profiad y cwsmer yna hoffem glywed gennych.
Rydym yn awyddus i recriwtio Swyddog Cyflenwi Gwasanaeth TGCh Iau brwdfrydig i ymuno â’n tîm Cydlynu Technegol TGCh. Yn y rôl hon byddwch yn:
Bydd disgwyl i chi weithio’n bennaf yng Nghanolfan Rheidol, Aberystwyth neu Benmorfa, Aberaeron tra hefyd yn ymgymryd â rhai dyletswyddau mewn lleoliadau eraill yn ôl yr angen.
Mae’r gallu i gyfathrebu’n effeithiol trwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg yn hanfodol.
Am wybodaeth fanwl am y rôl hon, cyfeiriwch at y Disgrifiad Swydd a’r Fanyleb Bersonol.
Pecyn Gwybodaeth Tîm Ceredigion
Yn gyfnewid am eich sgiliau a’ch diddordeb, byddwn yn cynnig cyfle i weithio mewn sefydliad blaengar ac uchelgeisiol a leolir mewn ardal a gydnabyddir am ei thirluniau syfrdanol. Ar ben hynny, bydd gennych chi:
Am ragor o wybodaeth a / neu drafodaeth anffurfiol ynglŷn â’r swydd, cysylltwch ag Edward Land ar 01970633208 neuedward.land@ceredigion.gov.uk.
Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.
Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu ac amddiffyn plant ac oedolion sydd mewn perygl Fel rhan o’r ymrwymiad hwn, mae rhai rolau o fewn ein sefydliad yn gofyn am wiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) i asesu addasrwydd ymgeiswyr. Bydd y rôl hon yn gofyn am wiriad DBS Uwch. Sylwch na fydd presenoldeb euogfarnau blaenorol o reidrwydd yn anghymhwyso ymgeisydd rhag ystyriaeth ar gyfer y swydd hon. Rydym yn asesu pob ymgeisydd fesul achos, ac yn ystyried natur a pherthnasedd unrhyw euogfarnau mewn perthynas â chyfrifoldebau’r rôl. Ein nod yw creu amgylchedd gwaith cynhwysol a chefnogol lle caiff pob unigolyn ei drin yn deg a chyda pharch. Os oes gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau am y broses hon, mae croeso i chi gysylltu â ni am eglurhad. Mae eich preifatrwydd a’ch urddas yn hollbwysig i ni drwy gydol y broses recriwtio
Cydbwysedd bywyd a gwaith
Cynllun cynilo ffordd o fyw
Cynllun pensiwn cyflogwr hael
Cynllun beicio i'r gwaith
Dysgu a datblygu
Ein nod yw cynnig cymorth a chyngor i drigolion Ceredigion drwy dîm Porth y Gymuned a’r Ganolfan Gyswllt. Rydym hefyd yn darparu cymorth corfforaethol drwy ein timau TGCh, y dderbynfa a thîm yr ystafell bost. Mae ein gwasanaeth yn gyfrifol am y swyddogaethau canlynol: