Rydym yn gweithredu polisi dwyieithog. Gwahoddir ymgeiswyr i wneud cais yn Gymraeg, ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a wneir yn Saesneg.
Dyddiad Cau: 07/07/2026
Cyfeirnod: REQ106732
Mewnol yn unig
37 awr / Parhaol
42,839 - 45,091 *
Penmorfa, Aberaeron
Dim ond gweithwyr cyfredol all wneud cais am y swydd hon.
Noder fod y cyflog a hysbysebir ar gyfer y swydd hon yn amodol ar ddyfarniad cyflog cenedlaethol 2026/2027 sydd ar ddod. Caiff y cyflog terfynol ei addasu yn unol â hynny unwaith y bydd y dyfarniad wedi’i gytuno.
Rydym yn edrych i recriwtio Uwch Swyddog Diogelu’r Cyhoedd i ymuno â’n gwasanaeth Polisi; Perfformiad a Diogelu’r Cyhoedd.
Ynglŷn â’r rôl
Gweithredu fel swyddog awdurdodedig y Cyngor. Bod yn gyfrifol am ystod lawn o ddyletswyddau proffesiynol ac arbenigol i sicrhau y cyflawnir dyletswyddau, polisïau, gweithdrefnau ac arferion y Gwasanaeth a’r Cyngor mewn perthynas ag Iechyd yr Amgylchedd a Diogelu’r Cyhoedd, a hynny mewn modd effeithiol ac effeithlon. Cyfrannu at gyflawni cynllun blynyddol Gwasanaeth Diogelu’r Cyhoedd.
Ynglŷn yr ymgeisydd
Gallu meithrin perthynas waith lwyddiannus y tu mewn a thu fas i faes y gwaith. Gallu defnyddio sgiliau dadansoddi i ymdrin ag amrywiaeth o broblemau ymarferol. Ymrwymo i weithredu polisïau ac amcanion y Cyngor. Ymrwymo’n gadarn i roi gwasanaeth i’r cyhoedd. Sgiliau TG da, gan gynnwys Word, Excel a PowerPoint a’r gallu i ddysgu pecynnau newydd yn gyflym, yn ôl yr angen. Ymrwymo i ddatblygu safonau ansawdd. Ymrwymo i fodloni’r cwsmer. Gallu gweithio ar eich pen eich hun ac fel rhan o dîm. Gallu cadw gwybodaeth gyfrinachol. Gallu gweithredu safonau cyfreithiol mewn ffordd gadarn ond ystyriol. Gallu gyrru ac yn gallu defnyddio car at ddibenion busnes.
Rydym yn chwilio am unigolion â lefel o ruglder yn y Gymraeg. Rydym yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr nad ydynt yn siaradwyr Cymraeg gan y rhoddir cefnogaeth lwyr yn ystod oriau gwaith i ymgeiswyr llwyddiannus heb y sgiliau gofynnol yn y Gymraeg i gyrraedd y safon a ddymunir ar ôl iddynt gael eu penodi.
Ein cynnig i chi
Rydym wedi ymrwymo ymrymwedig i fuddsoddi yn ein pobl a byddwn nid yn unig yn cynnig cefnogaeth i’ch galluogi i berchenogi meysydd cyfrifoldeb allweddol y swydd hon yn gyflym ac yn hyderus ond hefyd yn cefnogi eich datblygiad er mwyn i chi allu gwneud cynnydd yn eich gyrfa gyda ni.
Yn gyfnewid am eich sgiliau a’ch ymrwymiad, byddwn yn cynnig ystod o fuddion gweithwyr i chi gan gynnwys cynllun oriau hyblyg, gweithio hybrid, lwfans gwyliau blynyddol cystadleuol, cefnogaeth gynhwysfawr i weithwyr o ran iechyd a lles a chynllun cyfraniadau pensiwn hael.
Credwn fod cydbwysedd bywyd a gwaith yn holl bwysig. I’ch cefnogi i gyflawni hyn, bydd gennych fynediad at y buddion dewisol canlynol:
Gellir cael mwy o wybodaeth am ein hystod eang o fuddion gweithwyr ar ein gwefan gyrfaoedd.
Cyfweliadau
Bydd y rhain yn cael eu cynnal ym Mhenmorfa, Aberaeron oni bai bod trefniadau amgen yn cael eu cytuno gyda’r cyfwelydd.
Manylion Ychwanegol
Disgrifiad Swydd a Manyleb Person
Pecyn Gwybodaeth Tîm Ceredigion
Cysylltwch â ni
Am wybodaeth pellach a thrafodaeth anffurfiol ynglŷn â’r swydd hon ffoniwch Heddwyn Evans ar 01545 574166 neu ebostheddwyn.evans@ceredigion.gov.uk.
Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.
Cydbwysedd bywyd a gwaith
Cynllun cynilo ffordd o fyw
Cynllun pensiwn cyflogwr hael
Cynllun beicio i'r gwaith
Dysgu a datblygu
Rydym yn arwain y ffordd o ran perfformiad corfforaethol, polisi corfforaethol, partneriaethau strategol, ymgysylltu, cydlyniant cymunedol ac argyfyngau sifil, ac mae gennym hefyd gyfrifoldeb strategol a gweithredol dros ddiogelu’r cyhoedd: iechyd yr amgylchedd, twyll bwyd, safonau trwyddedu a masnachu. Mae ein prif swyddogaethau yn cynnwys: