Rydym yn gweithredu polisi dwyieithog. Gwahoddir ymgeiswyr i wneud cais yn Gymraeg, ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a wneir yn Saesneg.
Dyddiad Cau: 07/07/2026
Cyfeirnod: REQ106733
37 awr / Parhaol
46,142 - 48,226 *
Canolfan Rheidol, Aberystwyth
Noder fod y cyflog a hysbysebir ar gyfer y swydd hon yn amodol ar ddyfarniad cyflog cenedlaethol 2026/2027 sydd ar ddod. Caiff y cyflog terfynol ei addasu yn unol â hynny unwaith y bydd y dyfarniad wedi’i gytuno.
Rydym yn recriwtio Rheolwr Gwasanaeth – Budd-daliadau ac Asesiadau Ariannol i ymuno â’n gwasanaeth Cyllid a Chaffael ar gytundeb parhaol amser llawn.
Am y Rôl
Mae gan y Rheolwr Gwasanaeth gyfrifoldeb dros y timau Budd-daliadau ac Asesiadau Ariannol. O ddydd i ddydd, bydd yn ofynnol iddynt reoli, trefnu, cyflenwi a gwella Gwasanaeth Budd-daliadau Ceredigion yn barhaus gan sicrhau bod cwsmeriaid yn derbyn y lefel gywir o gymorth a chyngor ariannol. Bydd yn ofynnol iddynt hefyd gynnig arweinyddiaeth glir ac effeithiol gan sicrhau bod y weledigaeth o ran gwasanaeth hygyrch, ymatebol, ansoddol a chost effeithiol yn cael ei chyflawni a hyrwyddo diwylliant sy’n cofleidio a chyflawni amcanion corfforaethol ac adrannol.
Ein hymgeisydd delfrydol
Rydym am benodi unigolyn ag isafswm o 5 mlynedd o brofiad ym maes Budd-daliadau Tai a Chynllun Lleihau’r Dreth Gyngor, a 3 o’r rhain yn cynnwys rheoli a goruchwylio staff. Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus wybodaeth hefyd am Asesiadau Ariannol ar gyfer Gofal Preswyl ac Dibreswyl.
Rydym yn croesawu ceisiadau gan y di-Gymraeg. Bydd pob ymgeisydd llwyddiannus sydd angen cymorth i ddysgu/gwella eu sgiliau iaith Gymraeg yn cael cynnig gwersi wedi’u hariannu, yn ystod amser gwaith, i helpu i gyrraedd y safon a ddymunir.
Ein Cynnig i Chi
Rydym wedi ymrwymo i ddatblygu ein pobl a byddwn nid yn unig yn darparu cymorth i’ch galluogi i gymryd perchnogaeth o feysydd cyfrifoldeb allweddol y rôl hon yn gyflym ac yn hyderus ond yn ogystal, rydym wedi ymrwymo i gefnogi eich datblygiad er mwyn i chi allu bwrw ymlaen â’ch gyrfa gyda ni.
Yn gyfnewid am eich sgiliau a’ch ymrwymiad byddwn yn cynnig ystod o fuddion i chi, gan gynnwys gweithio hyblyg, lwfans gwyliau blynyddol cystadleuol, cynllun pensiwn gyda chyfraniad cyflogwr o 14.6%, buddion teulu, arbedion ffordd o fyw a phecynnau iechyd a lles.
Gellir cael mwy o wybodaeth am ein hystod eang o fuddion gweithwyr yma.
Credwn fod cydbwysedd bywyd a gwaith yn holl bwysig. I’ch cefnogi i gyflawni hyn, bydd gennych fynediad at y buddion dewisol canlynol:
Mae rhai rolau o fewn ein sefydliad yn gofyn am wiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) i asesu addasrwydd ymgeiswyr. Bydd y rôl hon yn gofyn am wiriad DBS Basig. Os oes gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau am y broses hon, mae croeso i chi gysylltu â ni am eglurhad. Mae eich preifatrwydd a’ch urddas yn hollbwysig i ni drwy gydol y broses recriwtio.
Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person
Pecyn Gwybodaeth Tîm Ceredigion
Cysylltwch â ni
Am wybodaeth pellach a thrafodaeth anffurfiol ynglŷn â’r swydd hon cysylltwch â Helena Jones ar 01970 633171 neu anfonwch e-bost at Helena.Jones@ceredogoppm.gov.uk
Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.
Cydbwysedd bywyd a gwaith
Cynllun cynilo ffordd o fyw
Cynllun pensiwn cyflogwr hael
Cynllun beicio i'r gwaith
Dysgu a datblygu
Rydym yn sicrhau bod y Cyngor yn parhau i fod yn gadarn yn ariannol drwy fonitro arian yn ofalus ac yn gyfrifol, caffael corfforaethol effeithiol, talu’n brydlon ac yn gywir o ran asesiadau ariannol / credydwyr a chasglu dyledion / trethiant lleol yn brydlon.