Rydym yn gweithredu polisi dwyieithog. Gwahoddir ymgeiswyr i wneud cais yn Gymraeg, ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a wneir yn Saesneg.
Dyddiad Cau: 06/07/2026
Cyfeirnod: REQ106742
37 awr / Parhaol
46,142 - 48,226 *
Hafan y Waun, Aberystwyth
Noder fod y cyflog a hysbysebir ar gyfer y swydd hon yn amodol ar ddyfarniad cyflog cenedlaethol 2026/2027 sydd ar ddod. Caiff y cyflog terfynol ei addasu yn unol â hynny unwaith y bydd y dyfarniad wedi’i gytuno.
Ydych chi’n arweinydd gofal cymdeithasol profiadol gyda’r weledigaeth a’r angerdd i ddarparu gofal preswyl o’r safon uchaf?
Rydym yn chwilio am Reolwr Cofrestredig deinamig ac ymroddedig i arwain Hafan y Waun – cartref gofal preswyl sefydledig sy’n canolbwyntio ar ofal tosturiol, urddasol ac sy’n rhoi’r unigolyn yn ganolog i bopeth a wnawn. Byddwch yn darparu arweinyddiaeth glir, yn cefnogi a datblygu staff, ac yn sicrhau cydymffurfiaeth lawn â gofynion Arolygiaeth Gofal Cymru.
Mae hon yn rôl allweddol o fewn Gwasanaethau Uniongyrchol, gan gynnig cyflog cystadleuol, atodiad Grymoedd y Farchnad, cymorth adleoli (os yn berthnasol) a chyfleoedd cryf ar gyfer datblygiad proffesiynol parhaus.
Os oes gennych brofiad sylweddol o reoli cartref gofal preswyl, cymwysterau perthnasol Lefel 5, ac ymrwymiad i arweinyddiaeth o ansawdd uchel – byddem wrth ein bodd yn clywed gennych.
Credwn fod cydbwysedd bywyd a gwaith yn holl bwysig. I’ch cefnogi i gyflawni hyn, bydd gennych fynediad at y buddion dewisol canlynol:
Disgrifiad Swydd a Manyleb Person
Pecyn Gwybodaeth Tîm Ceredigion
Cysylltwch â ni
Am wybodaeth pellach a thrafodaeth anffurfiol ynglŷn â’r swydd hon cysylltwch âNerys Lewis ar Nerys.Lewis2@ceredigion.gov.uk
Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.
Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu ac amddiffyn plant ac oedolion sydd mewn perygl Fel rhan o’r ymrwymiad hwn, mae rhai rolau o fewn ein sefydliad yn gofyn am wiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) i asesu addasrwydd ymgeiswyr. Bydd y rôl hon yn gofyn am wiriad DBS Uwch. Sylwch na fydd presenoldeb euogfarnau blaenorol o reidrwydd yn anghymhwyso ymgeisydd rhag ystyriaeth ar gyfer y swydd hon. Rydym yn asesu pob ymgeisydd fesul achos, ac yn ystyried natur a pherthnasedd unrhyw euogfarnau mewn perthynas â chyfrifoldebau’r rôl. Ein nod yw creu amgylchedd gwaith cynhwysol a chefnogol lle caiff pob unigolyn ei drin yn deg a chyda pharch. Os oes gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau am y broses hon, mae croeso i chi gysylltu â ni am eglurhad. Mae eich preifatrwydd a’ch urddas yn hollbwysig i ni drwy gydol y broses recriwtio.
Cydbwysedd bywyd a gwaith
Cynllun cynilo ffordd o fyw
Cynllun pensiwn cyflogwr hael
Cynllun beicio i'r gwaith
Dysgu a datblygu
Rydym wrth wraidd darpariaeth gofal cymdeithasol gydol oes Ceredigion ac ein nod yw sicrhau bod pob unigolyn yn derbyn yr ymyrraeth orau i ddiwallu ei anghenion neu, lle bo angen, eu tywys at gymorth cynnar neu wasanaethau arbenigol. Ein prif swyddogaethau yw:
Gwasanaethau Brysbennu ac Asesu Integredig
Gwasanaethau Uniongyrchol