Rydym yn gweithredu polisi dwyieithog. Gwahoddir ymgeiswyr i wneud cais yn Gymraeg, ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a wneir yn Saesneg.
Dyddiad Cau: 02/07/2026
Cyfeirnod: REQ106747
13 awr / Dros Dro
33,731 - 51,942 *
Aberaeron
Mae Llywodraethwyr Ysgol Gynradd Llanarth yn awyddus i benodi unigolyn brwdfrydig, ymroddgar, gofalgar ac ysbrydoledig i swydd athro/athrawes i ddysgu 2 ddiwrnod yn yr ysgol dros gyfnod mamolaeth.
Gwahoddir ceisiadau oddi wrth athrawon blaengar a brwdfrydig sydd â dealltwriaeth a phrofiad addas o addysgu disgyblion oed cymysg. Rydym yn chwilio am unigolyn sy’n dangos ymrwymiad cryf i ddarparu addysg o’r safon uchaf, gan roi anghenion, lles a datblygiad pob plentyn wrth galon y gwaith. Mae’r Ysgol yn chwilio am geisiadau gan athrawon i ddysgu blynyddoedd 3 a 4.
Fel ymarferydd proffesiynol, bydd gennych wybodaeth a dealltwriaeth gref o egwyddorion Cwricwlwm i Gymru, a’r gallu i arwain ar feysydd penodol o’r cwricwlwm. Mae’r llywodraethwyr yn chwilio am unigolyn sydd â phrofiad helaeth o’r Celfyddydau Mynegianol. Bydd disgwyl iddo/iddi gynllunio a darparu profiadau dysgu cyfoethog, perthnasol a chynhwysol sy’n hyrwyddo cynnydd parhaus ac yn cefnogi datblygiad y pedwar diben. Byddai’r gallu a’r brwdfrydedd i gyfrannu at weithgareddau allgyrsiol yn fanteisiol.
Yn Ysgol Llanarth cewch gyfle i weithio gyda phlant ymroddgar a charedig, cymuned gefnogol a thîm o staff cydwybodol sydd yn rhoi blaenoriaeth glir ar les disgyblion a chynnal safonau uchel. Mae’r llywodraethwyr a’r Ysgol yn darparu cyfleoedd datblygu proffesiynol gwerthfawr i’r staff, ac yn awyddus parhau i ddatblygu arweinwyr y dyfodol.
Ymunwch â’n tîm addysgol uchelgeisiol a charedig, lle mae pob athro yn cael y gefnogaeth i dyfu’n broffesiynol ac i greu effaith go iawn ar fywydau myfyrwyr. Rydym yn cynnig amgylchedd ysbrydoledig, adnoddau modern, a phrosesau hyblyg sy’n cefnogi arloesedd yn y dosbarth. Os ydych chi’n angerddol dros addysg a lles myfyrwyr, yn barod i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau plant ac eisiau gweithio mewn ysgol sy’n gwerthfawrogi cydweithredu a chynnydd personol, byddwch yn teimlo’n gartrefol gyda ni.
Mae hwn yn hysbyseb ar gyfer swydd Athro/Athrawes yn Ysgol Gynradd Llanarth, lle mae rhuglder llafar ac ysgrifenedig yn y Gymraeg a’r Saesneg yn hanfodol.
Disgrifiad Swydd a Manyleb Person
Os hoffech drefnu ymweliad â’r ysgol neu sgwrs anffurfiol cysylltwch â’r Pennaeth Manon Lewis-Wright ar lewism245@hwbcymru.net neu 01545580343.
Dyddiad cyfweliad: Dydd Iau, 9fed o Orffennaf, 2026.
Fel rhan o’r cyfweliad byddwn yn gofyn i’r ymgeiswyr i baratoi gwers fer o 30 munud ar ffocws llythrennedd (Thema: Gwreiddiau a Gorwelion).
Dyddiad dechrau: 1af o Hydref (neu cyn gynted â phosibl).
Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.
Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu ac amddiffyn plant ac oedolion sydd mewn perygl Fel rhan o’r ymrwymiad hwn, mae rhai rolau o fewn ein sefydliad yn gofyn am wiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) i asesu addasrwydd ymgeiswyr. Bydd y rôl hon yn gofyn am wiriad DBS Uwch. Sylwch na fydd presenoldeb euogfarnau blaenorol o reidrwydd yn anghymhwyso ymgeisydd rhag ystyriaeth ar gyfer y swydd hon. Rydym yn asesu pob ymgeisydd fesul achos, ac yn ystyried natur a pherthnasedd unrhyw euogfarnau mewn perthynas â chyfrifoldebau’r rôl. Ein nod yw creu amgylchedd gwaith cynhwysol a chefnogol lle caiff pob unigolyn ei drin yn deg a chyda pharch. Os oes gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau am y broses hon, mae croeso i chi gysylltu â ni am eglurhad. Mae eich preifatrwydd a’ch urddas yn hollbwysig i ni drwy gydol y broses recriwtio.
Cydbwysedd bywyd a gwaith
Cynllun cynilo ffordd o fyw
Cynllun pensiwn cyflogwr hael
Cynllun beicio i'r gwaith
Dysgu a datblygu
Rydym yn cynnig her a chefnogaeth briodol i’n hysgolion, i’w helpu i gyflwyno addysg o’r radd flaenaf i bob disgybl, ar draws yr ystod oedran a gallu. Mae ein prif swyddogaethau yn cynnwys: