Rydym yn gweithredu polisi dwyieithog. Gwahoddir ymgeiswyr i wneud cais yn Gymraeg, ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a wneir yn Saesneg.

Swyddog Cymorth Prynu i Dalu (P2P)

Dyddiad Cau: 15/07/2026

Cyfeirnod: REQ106750

37 awr / Parhaol

26,403 - 27,694 *

Aberystwyth

*Mae'r gwerthoedd cyflog yn pro-rata.

Ynglŷn â'r rôl

Noder fod y cyflog a hysbysebir ar gyfer y swydd hon yn amodol ar ddyfarniad cyflog cenedlaethol 2026/2027 sydd ar ddod. Caiff y cyflog terfynol ei addasu yn unol â hynny unwaith y bydd y dyfarniad wedi’i gytuno.

Rydym yn chwilio Swyddog Cymorth Prynu i Dalu (P2P) brwdfrydig ac ymrwymedig i ymuno â Thîm Prynu i Dalu prysur sy’n delio gydag archebion a thaliadau ar ran ystod eang a wasanaethau’r Cyngor.

Byddwch yn rhan o sicrhau bod prosesau cywir yn cael eu dilyn a cydymffurfiaeth drwy gefnogi taith y Cyflenwr o Archeb Prynu gychwynnol i Daliadau am eu nwyddau, gwaith neu wasanaethau.

Rydym yn chwilio am unigolyn sydd â phrofiad ymarferol o brynu ac/neu brosesu biliau gan ddefnyddio systemau electronig.

Gwybodaeth am y rôl

Mae’r rôl hon yn gofyn am unigolyn sy’n gwerthfawrogi’n gryf y pwysigrwydd o sylw i fanylion ac amserau cau ond sydd yn berson gyda sgiliau pobl da sy’n gallu adeiladu a chynnal cysylltiadau â staff, cwsmeriaid a chyflenwyr i ymateb i heriau dydd-i-ddydd gyda phersbectif galluogi ac agwedd bositif.

Mae’r Prif Dasgau a Chyfrifoldebau yn cynnwys:

  • Darparu canllawiau a chefnogaeth i staff sy’n codi Archebion
  • Gwirio anfonebau i sicrhau eu bod yn gywir ac heb eu talu o’r blaen a chymryd camau gweithredu pan fo angen
  • Delio gydag ymholiadau, monitro blychau post a neilltuo tasgau
  • Rheoli rotâu a darparu hyfforddiant systemau sylfaenol i ddefnyddwyr
  • Gwirio trafodion cerdyn credyd.

Mae’n ofynnol i’r ymgeisydd llwyddiannus ddangos hyblygrwydd ac ymrwymiad er mwyn bodloni amserau cau ac amserlenni. Mae dibynadwyedd a’r gallu i gyflawni tasgau sy’n ymwneud â thrafodion yn gywir gan ddefnyddio systemau electronig yn hanfodol.

Credwn fod cydbwysedd bywyd a gwaith yn holl bwysig. I’ch cefnogi i gyflawni hyn, bydd gennych fynediad at y buddion dewisol canlynol:

  • Gweithio Hybrid: Yn amodol ar fodloni rhai amodau, gallwch ddewis gweithio o’ch cartref neu mewn swyddfa.
  • Amser-fflecsi: Gellir gweithio oriau o fewn lled band diffiniedig, o ddydd Llun i ddydd Gwener, yn amodol ar anghenion gwasanaeth.

Disgrifiad Swydd a Manyleb Person

Pecyn Gwybodaeth Tîm Ceredigion

Cysylltwch â ni

 Am wybodaeth pellach a thrafodaeth anffurfiol ynglŷn â’r swydd hon cysylltwch âJeanette Jones ar Jeanette.Jones2@ceredigion.gov.uk

Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.

Yr hyn a gynigwn

Cydbwysedd bywyd a gwaith

Cynllun cynilo ffordd o fyw

Cynllun pensiwn cyflogwr hael

Cynllun beicio i'r gwaith

Dysgu a datblygu

Lle byddwch yn gweithio

Cyllid a Chaffael

Rydym yn sicrhau bod y Cyngor yn parhau i fod yn gadarn yn ariannol drwy fonitro arian yn ofalus ac yn gyfrifol, caffael corfforaethol effeithiol, talu’n brydlon ac yn gywir o ran asesiadau ariannol / credydwyr a chasglu dyledion / trethiant lleol yn brydlon.

Aberystwyth
Mae Aberystwyth yn dref brifysgol fywiog ac yn gyrchfan glan môr gyda phromenâd a phier. Yn ogystal dyma yw lleoliad y ddrama deledu atmosfferig Y Gwyll. Mae Aberystwyth yn lleoliad delfrydol i archwilio Llwybr Arfordir Cymru ar hyd Bae Cere...
Darllen mwy