Rydym yn gweithredu polisi dwyieithog. Gwahoddir ymgeiswyr i wneud cais yn Gymraeg, ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a wneir yn Saesneg.

Athro/Athrawes (CA2) – Ysgol Gynradd Gatholig Padarn Sant

Dyddiad Cau: 08/07/2026

Cyfeirnod: REQ106761

32.5 awr / Cyfnod Penodedig

33,731 - 51,942 *

Aberystwyth

*Mae'r gwerthoedd cyflog yn pro-rata.

Ynglŷn â'r rôl

Mae Ysgol Gynradd Gatholig Padarn Sant yn un sy’n cynnig potensial enfawr i’r ymgeisydd llwyddiannus.  Bydd ein hathro newydd yn ysbrydoledig yn yr ystafell ddosbarth gyda gweledigaeth a dealltwriaeth gref, glir o addysg a gwerthoedd mewn ysgol Gatholig.  Mae’r swydd yn cyflwyno cyfle i ymuno â thîm mewn amgylchedd hapus a ffyniannus.  Rydym yn cael ein bendithio â chysylltiadau plwyf da, staff hapus a brwdfrydig, plant gwych, ac adnoddau aruthrol. Rydym yn chwilio am berson sy’n gallu darparu cyfleoedd addysgu a dysgu rhagorol i’r disgyblion ac adeiladu ar gyflawniadau’r ysgol.

Ysgol Gynradd Gatholig yng nghanol Aberystwyth yw Padarn Sant, ac rydym yn chwilio am athro a fydd yn:

  • bod yn rhan o’n ethos Catholig nodedig, gan helpu i gefnogi a chyflwyno’r gwerthoedd moesol sy’n sylfaen i’n cymuned ddysgu,
  • bod yn greadigol ac yn gallu ysbrydoli dysgu,
  • bod yn gynhwysol ac yn cefnogi cyfle cyfartal i bob dysgwr,
  • bod â disgwyliadau uchel a dyheadau ar gyfer ein disgyblion,
  • mwynhau gweithio fel rhan o dîm brwdfrydig.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn addysgu cynllun AG a gymeradwywyd gan yr Esgobaethol ‘To see me more clearly’ a’r rhaglenni RSE ‘Life to the Full’ a ‘Fertile Heart’ ac yn dechrau cyflwyno’r rhaglen weddi a litwrgi ‘To love you more dearly’. Bydd profiad o addysgu’r rhaglenni hyn yn fuddiol iawn.

Mae profiad o addysgu yng Nghyfnod Allweddol 2 yn hanfodol a bydd disgwyl i’r ymgeisydd llwyddiannus fod â gwybodaeth weithredol gadarn am y Cwricwlwm i Gymru. Bydd disgwyl i’r ymgeisydd llwyddiannus arwain Maes Dysgu a Phrofiad (AoLE)- Mathemateg neu Wyddoniaeth- ledled yr ysgol, arwain ar fenter ysgol a chyfrannu at welliant yr ysgol gyfan. Byddai’n fanteisiol i’r ymgeisydd feddu ar y sgiliau angenrheidiol i ddefnyddio’r Gymraeg achlysurol gydag oedolion a phlant yn hyderus a gallu addysgu’r Gymraeg fel ail iaith. Byddai hefyd yn fanteisiol cael sgiliau TG cryf a gwybodaeth sicr am y fframwaith DCF. Mae’r gallu i weithio fel aelod o’r tîm yn hanfodol a rhaid i’r ymgeisydd llwyddiannus feddu ar sgiliau rhyngbersonol da. Byddai’r gallu i gyfrannu at weithgareddau allgyrsiol yn fantais.

Telerau swydd: Mae’r swydd yn gyfnod tymor penodol tan 31.03.27.

I drefnu sgwrs anffurfiol neu ymweliad cysylltwch â Mrs E. Brophy (Pennaeth): 07929188930 neu ebost prif@st-padarnsrcp.ceredigion.sch.uk

Rhestr Fer: Dydd Iau 9 Gorfennaf

Cyfweliadau: Dydd Llun 13 Gorfennaf neu Dydd Mawrth 14 Gorfennaf

Tasg Cyfweliad: Cynllunio sesiwn 30 munud ar gyfer dosbarth o 30 o ddisgyblion sydd ym Mlwyddyn 2/3/4 yn seiliedig ar thema Cwpan y Byd. Hefyd, bydd cyfweliad ffurfiol 30 munud.

Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.

Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu ac amddiffyn plant ac oedolion sydd mewn perygl Fel rhan o’r ymrwymiad hwn, mae rhai rolau o fewn ein sefydliad yn gofyn am wiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) i asesu addasrwydd ymgeiswyr. Bydd y rôl hon yn gofyn am wiriad DBS Uwch. Sylwch na fydd presenoldeb euogfarnau blaenorol o reidrwydd yn anghymhwyso ymgeisydd rhag ystyriaeth ar gyfer y swydd hon. Rydym yn asesu pob ymgeisydd fesul achos, ac yn ystyried natur a pherthnasedd unrhyw euogfarnau mewn perthynas â chyfrifoldebau’r rôl. Ein nod yw creu amgylchedd gwaith cynhwysol a chefnogol lle caiff pob unigolyn ei drin yn deg a chyda pharch. Os oes gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau am y broses hon, mae croeso i chi gysylltu â ni am eglurhad. Mae eich preifatrwydd a’ch urddas yn hollbwysig i ni drwy gydol y broses recriwtio.

Yr hyn a gynigwn

Cydbwysedd bywyd a gwaith

Cynllun cynilo ffordd o fyw

Cynllun pensiwn cyflogwr hael

Cynllun beicio i'r gwaith

Dysgu a datblygu

Lle byddwch yn gweithio

Gwasanaeth Ysgolion a Diwylliant

Rydym yn cynnig her a chefnogaeth briodol i’n hysgolion, i’w helpu i gyflwyno addysg o’r radd flaenaf i bob disgybl, ar draws yr ystod oedran a gallu.  Mae ein prif swyddogaethau yn cynnwys: 

  • Gwella Ysgolion: Arweinyddiaeth; Cefnogaeth a Her, Addysgu a Dysgu; Llythrennedd Digidol; Llythrennedd a Rhifedd; Cymraeg mewn Addysg
  • Anghenion Dysgu Ychwanegol: Darpariaeth ar gyfer disgyblion ag Anghenion Dysgu Ychwanegol, Cynhwysiant; Presenoldeb; Seicoleg Addysg
  • Lles Disgyblion: Cwnsela; Lles; Gwrth-fwlio, Llais Disgyblion
  • Llywodraethu Addysg: Data; Cefnogaeth Llywodraethwyr, Cefnogaeth polisi
  • Derbyniadau Ysgol 
  • Diwylliant: Gwasanaeth Cerdd; Cered; Theatr Felinfach; Amgueddfa
  • Seilwaith ac Adnoddau: cynllunio lleoedd ysgol, moderneiddio a rhaglen ysgolion yr Unfed Ganrif ar Hugain, Adeiladau; Grantiau
  • Arlwyo: Canolfannau Dydd; Ysgolion cynradd; Cartrefi preswyl
  • ​Uned Gofal Plant​​: Asesiad Digonolrwydd Gofal Plant; Grant Gofal Plant a Chwarae; Cynnig Gofal Plant Cymorth busnes a hyfforddiant staff ar gyfer Darpariaeth Ôl Ysgol (Clybiau ar ôl Ysgol a Chlybiau Gwyliau); Meithrinfeydd Dydd, Cylchoedd Meithrin/Chwarae a Gwarchodwyr Plant
Aberystwyth
Mae Aberystwyth yn dref brifysgol fywiog ac yn gyrchfan glan môr gyda phromenâd a phier. Yn ogystal dyma yw lleoliad y ddrama deledu atmosfferig Y Gwyll. Mae Aberystwyth yn lleoliad delfrydol i archwilio Llwybr Arfordir Cymru ar hyd Bae Cere...
Darllen mwy