Rydym yn gweithredu polisi dwyieithog. Gwahoddir ymgeiswyr i wneud cais yn Gymraeg, ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a wneir yn Saesneg.

Cynorthwyydd Gorfodaeth Cynllunio

Dyddiad Cau: 22/07/2026

Cyfeirnod: REQ106768

37 awr / Parhaol

31,537 - 33,699 *

Penmorfa, Aberaeron

*Mae'r gwerthoedd cyflog yn pro-rata.

Ynglŷn â'r rôl

Noder fod y cyflog a hysbysebir ar gyfer y swydd hon yn amodol ar ddyfarniad cyflog cenedlaethol 2026/2027 sydd ar ddod. Caiff y cyflog terfynol ei addasu yn unol â hynny unwaith y bydd y dyfarniad wedi’i gytuno.

Rydym am recriwtio unigolyn brwdfrydig ac uchel ei gymhelliant i ymuno â Thîm Gorfodaeth Cynllunio newydd y Cyngor yn barhaol, llawn amser. 

Wrth ffurfio rhan o’r Gwasanaeth Rheoli Datblygu, sy’n delio â dyletswyddau a gofynion statudol o dan y Deddfau Cynllunio Gwlad a Thref a deddfwriaeth gysylltiedig arall, byddai deiliad y swydd yn chwarae rôl allweddol wrth fonitro a rheoleiddio datblygiadau ar draws y sir. 

Mae hwn yn gyfnod arbennig o gyffrous i ymuno â’r Gwasanaeth gan ein bod wrthi’n tyfu’r tîm gorfodaeth cynllunio ar hyn o bryd fel y gallwn ddelio’n well ag achosion o dorri rheolaeth gynllunio ledled y Sir, felly beth am ymuno â ni fel rhan o’r bennod newydd hon?

O ddydd i ddydd, byddwch yn:

  • Helpu i ddarparu gwasanaeth gorfodi effeithiol, effeithlon, ymatebol ac o ansawdd uchel.
  • Ymgymryd ag ymchwiliad effeithlon ac effeithiol i fân achosion o dorri rheolaeth gynllunio yn y Sir a defnyddio ymyriadau gorfodi priodol yn ôl yr angen a;
  • Rhoi cymorth i’r Gwasanaeth Rheoli Datblygu ehangach.

Efallai y bydd cyfle hefyd i ddeiliad y swydd ymdrin â man ymholiadau neu ymholiadau cyn ymgeisio gan ddeiliaid tai a cheisiadau cynllunio sy’n deillio o achosion gorfodi, er y byddai’r rhan fwyaf o lwyth achosion deiliad y swydd yn cynnwys ymchwiliadau gorfodaeth cynllunio. 

Rydym am recriwtio unigolyn:

  • Gyda gradd neu gyfwerth mewn Cynllunio Gwlad a Thref (neu ddisgyblaeth gysylltiedig) neu gyda chyfuniad cyfatebol o wybodaeth a phrofiad o gynllunio neu orfodi’r gyfraith.
  • Gyda’r gallu i gyfathrebu’n ddiduedd, yn broffesiynol ac yn effeithiol gydag ystod eang o bobl ar wahanol lefelau.
  • Gyda’r gallu i weithio gyda goruchwyliaeth gyfyngedig ac i weithio yn ôl dyddiadau cau tynn.
  • Gyda’r gallu i reoli eu llwyth achosion eu hunain o ymchwiliadau gorfodi yn effeithiol; a
  • Gydag ymrwymiad cryf i roi gwasanaeth o ansawdd uchel i’r cyhoedd ac ymrwymiad cryf i foddhad cwsmeriaid.

Mae’r swydd yn gofyn am rywfaint o ruglder yn y Gymraeg. Noder y bydd ymgeisydd llwyddiannus heb y sgiliau Cymraeg angenrheidiol yn cael ei gefnogi’n llawn i gyrraedd y safon ofynnol o fewn dwy flynedd i’w benodi.

Am wybodaeth fanwl am y rôl hon, gweler y Disgrifiad o’r Swydd a Manyleb y Person.

Efallai y dewch chi hefyd o hyd i fwy o wybodaeth ddefnyddiol ar wefan gyrfaoedd y Cyngor. Yma fe gewch chi fanylion mewn perthynas â’r hyn y gallwn ei gynnig a pha fath o ffordd o fyw y gallwch ei ddisgwyl. Yn wir, mae Ceredigion yn cael ei chydnabod fel un o’r lleoedd mwyaf diogel i fyw a gweithio, gyda diwylliant bywiog, ysgolion ardderchog ac arfordiroedd hardd a chefn gwlad tonnog. 

Disgrifiad Swydd a Manyleb Person

Pecyn Gwybodaeth Tîm Ceredigion

Cysylltwch â ni

Am drafodaeth anffurfiol, cysylltwch â Catrin Newbold (Rheolwr Gwasanaeth – Rheoli Datblygu) ar: (01545) 572131.

Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.

Yr hyn a gynigwn

Cydbwysedd bywyd a gwaith

Cynllun cynilo ffordd o fyw

Cynllun pensiwn cyflogwr hael

Cynllun beicio i'r gwaith

Dysgu a datblygu

Lle byddwch yn gweithio

Economi ac Adfywio

Rydym yn chwarae rhan hanfodol yn y gwaith o gyflawni un o brif amcanion Strategaeth Gorfforaethol y Cyngor, sef ceisio rhoi hwb i economi’r Sir a Chanolbarth Cymru. Rydym wedi ein trefnu yn dair prif adran: Gwasanaethau Economi, Cynllunio ac Eiddo.  Ein prif swyddogaethau yw:

  • Twf a Menter: Cefnogi twf ac adfywiad economaidd yn lleol ac ar draws y rhanbarth; Tyfu Canolbarth Cymru; yr Ystâd Gorfforaethol a Chyfleoedd Datblygu; Cefnogaeth Prosiect; Cyllid Ewropeaidd a lleol; Canolfan Fwyd Cymru a chefnogi datblygiad Bwyd-Amaeth; Hyrwyddo a datblygu twristiaeth; Canolfannau Gwybodaeth i Dwristiaid; Arfordir a Chefn Gwlad
  • Gwasanaethau Cynllunio: Cefnogi twf trwy’r Gwasanaethau Cynllunio a Rheoli Adeiladu; Polisi Cynllunio Defnydd Tir Strategol a Lleol; Rheoli Datblygu; Rheoli Adeiladu; a Chwiliadau Tir.
  • Gwasanaethau Eiddo: Cefnogi rhaglen y Cyngor trwy Reoli Prosiectau; Cynnal a Chadw Eiddo ac Adeiladau; Rheoli Cyfleusterau; Rheoli Carbon; a’r Defnydd Effeithlon o Eiddo’r Cyngor.
Penmorfa
Penmorfa yw ein swyddfa fwyaf canolog, dyma lle mae ein Prif Weithredwr a'n Cynghorwyr wedi'i leoli. 
Darllen mwy
Aberaeron
Mae Aberaeron yn dref harbwr brydferth ac mae'n un o gyrchfannau gwyliau mwyaf poblogaidd Ceredigion gyda llefydd poblogaidd i aros a bwyta.
Darllen mwy