Rydym yn gweithredu polisi dwyieithog. Gwahoddir ymgeiswyr i wneud cais yn Gymraeg, ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a wneir yn Saesneg.
Dyddiad Cau: 28/07/2026
Cyfeirnod: REQ106777
20 awr / Parhaol
24,796 *
Hafan y Waun, Aberystwyth
Noder fod y cyflog a hysbysebir ar gyfer y swydd hon yn amodol ar ddyfarniad cyflog cenedlaethol 2026/2027 sydd ar ddod. Caiff y cyflog terfynol ei addasu yn unol â hynny unwaith y bydd y dyfarniad wedi’i gytuno.
Ydych chi’n angerddol am fwyd ac yn ymroddedig i ddarparu gwasanaeth eithriadol? Rydym yn awyddus i recriwtio Cynorthwyydd Arlwyo brwdfrydig i ymuno â’n tîm yng Nghartref Preswyl Hafan y Waun. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn chwarae rhan ganolog wrth gynnal y safonau uchaf o wasanaeth, gan sicrhau profiad bwyta cadarnhaol i’n preswylwyr.
Cyfrifoldebau allweddol:
Oriau gwaith:
Ein hymgeisydd delfrydol
Yr hyn y gallwn ei gynnig i chi:
I gydnabod eich sgiliau a’ch ymrwymiad, rydym yn darparu ystod gynhwysfawr o fuddion cyflogeion, gan gynnwys:
Mae rhagor o wybodaeth am ein hystod o fuddion gweithwyr ar gael yma.
Disgrifiad Swydd a Manyleb Person
Pecyn Gwybodaeth Tîm Ceredigion
Os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch am y rôl hon, cysylltwch â William Ainsworth – 01970 633001 / william.ainsworth@ceredigion.gov.uk
Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.
Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu ac amddiffyn plant ac oedolion sydd mewn perygl Fel rhan o’r ymrwymiad hwn, mae rhai rolau o fewn ein sefydliad yn gofyn am wiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) i asesu addasrwydd ymgeiswyr. Bydd y rôl hon yn gofyn am wiriad DBS Uwch. Sylwch na fydd presenoldeb euogfarnau blaenorol o reidrwydd yn anghymhwyso ymgeisydd rhag ystyriaeth ar gyfer y swydd hon. Rydym yn asesu pob ymgeisydd fesul achos, ac yn ystyried natur a pherthnasedd unrhyw euogfarnau mewn perthynas â chyfrifoldebau’r rôl. Ein nod yw creu amgylchedd gwaith cynhwysol a chefnogol lle caiff pob unigolyn ei drin yn deg a chyda pharch. Os oes gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau am y broses hon, mae croeso i chi gysylltu â ni am eglurhad. Mae eich preifatrwydd a’ch urddas yn hollbwysig i ni drwy gydol y broses recriwtio.
Cydbwysedd bywyd a gwaith
Cynllun cynilo ffordd o fyw
Cynllun pensiwn cyflogwr hael
Cynllun beicio i'r gwaith
Dysgu a datblygu
Rydym wrth wraidd darpariaeth gofal cymdeithasol gydol oes Ceredigion ac ein nod yw sicrhau bod pob unigolyn yn derbyn yr ymyrraeth orau i ddiwallu ei anghenion neu, lle bo angen, eu tywys at gymorth cynnar neu wasanaethau arbenigol. Ein prif swyddogaethau yw:
Gwasanaethau Brysbennu ac Asesu Integredig
Gwasanaethau Uniongyrchol