Rydym yn gweithredu polisi dwyieithog. Gwahoddir ymgeiswyr i wneud cais yn Gymraeg, ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a wneir yn Saesneg.

Cynorthwyydd Cyfleusterau

Dyddiad Cau: 28/07/2026

Cyfeirnod: REQ106778

5 awr / Parhaol

25,583 - 25,989 *

Penmorfa, Aberaeron

*Mae'r gwerthoedd cyflog yn pro-rata.

Ynglŷn â'r rôl

Noder fod y cyflog a hysbysebir ar gyfer y swydd hon yn amodol ar ddyfarniad cyflog cenedlaethol 2026/2027 sydd ar ddod. Caiff y cyflog terfynol ei addasu yn unol â hynny unwaith y bydd y dyfarniad wedi’i gytuno.

Rydym yn dymuno recriwtio Cynorthwydd Cyfleusterau i ymuno â’r tîm cyfleusterau presennol, gan weithio ar draws cartrefi gofal preswyl Gwasanaethau Uniongyrchol Cyngor Sir Ceredigion. Bydd y swyddi hyn yn darparu capasiti hyblyg ychwanegol i gefnogi’r gwasanaeth yn ystod cyfnodau o salwch, gwyliau blynyddol, hyfforddiant a phwysau gweithredol tymor byr.

Byddwch yn helpu i sicrhau bod y cartrefi yn parhau i fod yn ddiogel, glân ac wedi’u cynnal a’u cadw’n dda i breswylwyr, staff ac ymwelwyr. Bydd y dyletswyddau’n cynnwys gwaith cynnal a chadw arferol, gwiriadau amgylcheddol, tasgau iechyd a diogelwch, gwiriadau tân ac offer, a gwaith ymarferol arall i gefnogi gweithrediad dyddiol y cartrefi.

Rydym yn chwilio am unigolion dibynadwy, hyblyg ac ymarferol sydd â sgiliau cyfathrebu da, y gallu i weithio ar eu menter eu hunain ac fel rhan o dîm, ac ymrwymiad i gynnal amgylchedd o safon uchel. Mae profiad blaenorol mewn rôl debyg, trwydded yrru lawn a dilys yn y DU, a mynediad at gerbyd neu gludiant ar gyfer teithio busnes yn hanfodol.

Bydd angen gwiriad DBS manylach ar gyfer y swydd hon. Mae sgiliau Cymraeg yn ddymunol, a bydd disgwyl i’r ymgeisydd llwyddiannus ddatblygu’r lefelau iaith Gymraeg gofynnol o fewn dwy flynedd i’r penodiad.

Disgrifiad Swydd a Manyleb Person

Pecyn Gwybodaeth Tîm Ceredigion

Os hoffech wybodaeth bellach am y rôl hon, cysylltwch â Chloe Williams-Lawless – Chloe.Williams-Lawless@ceredigion.gov.uk

Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.

Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu ac amddiffyn plant ac oedolion sydd mewn perygl Fel rhan o’r ymrwymiad hwn, mae rhai rolau o fewn ein sefydliad yn gofyn am wiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) i asesu addasrwydd ymgeiswyr. Bydd y rôl hon yn gofyn am wiriad DBS Uwch. Sylwch na fydd presenoldeb euogfarnau blaenorol o reidrwydd yn anghymhwyso ymgeisydd rhag ystyriaeth ar gyfer y swydd hon. Rydym yn asesu pob ymgeisydd fesul achos, ac yn ystyried natur a pherthnasedd unrhyw euogfarnau mewn perthynas â chyfrifoldebau’r rôl. Ein nod yw creu amgylchedd gwaith cynhwysol a chefnogol lle caiff pob unigolyn ei drin yn deg a chyda pharch. Os oes gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau am y broses hon, mae croeso i chi gysylltu â ni am eglurhad. Mae eich preifatrwydd a’ch urddas yn hollbwysig i ni drwy gydol y broses recriwtio.

Yr hyn a gynigwn

Cydbwysedd bywyd a gwaith

Cynllun cynilo ffordd o fyw

Cynllun pensiwn cyflogwr hael

Cynllun beicio i'r gwaith

Dysgu a datblygu

Lle byddwch yn gweithio

Porth Gofal – Gwasanaethau Ymyrraeth wedi’u Targedu

Rydym wrth wraidd darpariaeth gofal cymdeithasol gydol oes Ceredigion ac ein nod yw sicrhau bod pob unigolyn yn derbyn yr ymyrraeth orau i ddiwallu ei anghenion neu, lle bo angen, eu tywys at gymorth cynnar neu wasanaethau arbenigol. Ein prif swyddogaethau yw:

Gwasanaethau Brysbennu ac Asesu Integredig

  • Tîm Derbyn a Gweithrediadau Integredig
  • Tîm Asesu Integredig
  • Tîm Dyletswydd Brys
Gwasanaethau Targedig a Thymor Byr
  • Gwasanaeth Cymorth Taliadau Uniongyrchol
  • Tîm Logisteg a Gweithrediadau’r Ganolfan Byw’n Annibynnol (CILC)
  • Gofal Integredig Targedig a Galluogi
  • Gofal a Galluogir gan Dechnoleg a Gwasanaethau Synhwyraidd
  • Therapi Galwedigaethol

Gwasanaethau Uniongyrchol

  • Tîm Gwasanaethau Gofal Dyddiol
  • Timau Gofal Preswyl
Penmorfa
Penmorfa yw ein swyddfa fwyaf canolog, dyma lle mae ein Prif Weithredwr a'n Cynghorwyr wedi'i leoli. 
Darllen mwy
Aberaeron
Mae Aberaeron yn dref harbwr brydferth ac mae'n un o gyrchfannau gwyliau mwyaf poblogaidd Ceredigion gyda llefydd poblogaidd i aros a bwyta.
Darllen mwy