Rydym yn gweithredu polisi dwyieithog. Gwahoddir ymgeiswyr i wneud cais yn Gymraeg, ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a wneir yn Saesneg.

Rheolwr Corfforaethol – Partneriaeth a Pherfformiad

Dyddiad Cau: 30/07/2026

Cyfeirnod: REQ106781

37 awr / Parhaol

63,367 - 65,841 *

Penmorfa, Aberaeron

*Mae'r gwerthoedd cyflog yn pro-rata.

Ynglŷn â'r rôl

Noder fod y cyflog a hysbysebir ar gyfer y swydd hon yn amodol ar ddyfarniad cyflog cenedlaethol 2026/2027 sydd ar ddod. Caiff y cyflog terfynol ei addasu yn unol â hynny unwaith y bydd y dyfarniad wedi’i gytuno.

Mae Cyngor Sir Ceredigion yn chwilio am Reolwr Corfforaethol – Partneriaeth a Pherfformiad medrus a llawn cymhelliant i chwarae rôl allweddol wrth gefnogi blaenoriaethau strategol y Cyngor a gyrru gwelliant parhaus ar draws gwasanaethau.

Mae hon yn rôl gorfforaethol arwyddocaol sy’n gweithio’n agos gydag uwch arweinwyr, lle byddwch yn rheoli portffolio eang o swyddogaethau ac yn helpu i sicrhau llywodraethu, perfformiad a phartneriaeth gref ar draws y sefydliad, gan gynnwys rôl allweddol wrth gryfhau gwytnwch sefydliadol a pharatoi ar gyfer argyfwng.

Ynglŷn â’r Rôl

Gan adrodd i’r Swyddog Arweiniol Corfforaethol – Polisi, Perfformiad a Diogelu’r Cyhoedd, byddwch yn rheoli swyddogaeth Partneriaeth a Pherfformiad y Cyngor ac yn cefnogi’r gwaith o gyflawni blaenoriaethau corfforaethol.

Fe fyddwch yn:

  • Arwain a datblygu tîm amlddisgyblaethol sy’n darparu gwasanaethau corfforaethol allweddol
  • Goruchwylio a chydlynu meysydd craidd gan gynnwys:
    • Partneriaethau strategol (e.e. Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus a Diogelwch Cymunedol)
    • Perfformiad corfforaethol, cynllunio busnes a hunanasesu
    • Cydraddoldeb, ymgysylltu ac ymgynghori
    • Cwynion a Rhyddid Gwybodaeth
    • Argyfyngau sifil a chynllunio argyfwng, gan gynnwys cydlynu parodrwydd ac ymateb yn ystod digwyddiadau mawr
    • Cydlyniant cymunedol ac ailsefydlu ffoaduriaid
    • Datblygu polisi, ymchwil a dadansoddi
  • Cefnogi’r Swyddog Arweiniol Corfforaethol i lunio polisi a strategaethau er mwyn gwella
  • Darparu cyngor proffesiynol i uwch reolwyr, aelodau etholedig a phartneriaid
  • Adeiladu perthnasoedd gwaith cryf ar draws gwasanaethau a gyda sefydliadau allanol
  • Arwain ar fentrau trawsbynciol ar draws y Cyngor
  • Sicrhau cydymffurfiaeth â chyfrifoldebau statudol a fframweithiau llywodraethu

Amdanoch chi

Rydym yn chwilio am reolwr galluog a chydweithredol sy’n gallu gweithredu’n effeithiol mewn amgylchedd sector cyhoeddus cymhleth.

Profiad a Gwybodaeth

  • Profiad o reoli timau a gwella gwasanaethau
  • Dealltwriaeth gref o lywodraeth leol a chyd-destun gwleidyddol
  • Profiad o reoli perfformiad, gweithio mewn partneriaeth a datblygu polisi
  • Gwybodaeth am fframweithiau deddfwriaethol a rheoleiddiol perthnasol

Sgiliau a Phriodoleddau

  • Sgiliau trefnu ac arwain cryf
  • Y gallu i reoli blaenoriaethau cystadleuol a chyflawni i ddyddiadau cau
  • Sgiliau cyfathrebu a dylanwadu effeithiol
  • Ymrwymiad i gydraddoldeb, cydweithredu a darparu gwasanaethau o ansawdd uchel

Cymwysterau

  • Gradd neu brofiad cyfatebol
  • Tystiolaeth o ddatblygiad proffesiynol parhaus
  • Cymhwyster uwch reolwyr (neu barodrwydd i weithio tuag ato)

Gofynion Eraill

  • Sgiliau iaith Gymraeg
  • Trwydded yrru lawn
  • Swydd sydd wedi’i gyfyngu’n wleidyddol

Pam ymuno â ni?

  • I chwarae rôl allweddol wrth gefnogi blaenoriaethau corfforaethol a gwella canlyniadau
  • I weithio ar y cyd ar draws gwasanaethau a gydag ystod eang o bartneriaid
  • I ddatblygu eich gyrfa mewn awdurdod lleol blaengar
  • I fwynhau gweithio’n hyblyg mewn amgylchedd arfordirol unigryw

Credwn fod cydbwysedd bywyd a gwaith yn holl bwysig. I’ch cefnogi i gyflawni hyn, bydd gennych fynediad at y buddion dewisol canlynol:

  • Gweithio Hybrid: Yn amodol ar fodloni rhai amodau, gallwch ddewis gweithio o’ch cartref neu mewn swyddfa.
  • Amser-fflecsi: Gellir gweithio oriau o fewn lled band diffiniedig, o ddydd Llun i ddydd Gwener, yn amodol ar anghenion gwasanaeth.

Ymgeisiwch Nawr

Os ydych chi’n rheolwr profiadol gydag angerdd am weithio mewn partneriaeth, gwytnwch sefydliadol a gwella perfformiad, byddem yn croesawu eich cais.

Disgrifiad Swydd a Manyleb Person

Pecyn Gwybodaeth Tîm Ceredigion

Am ragor o wybodaeth, a thrafodaeth anffurfiol ynglŷn â’r swydd hon, cysylltwch â Diana Davies ar diana.davies@ceredigion.gov.uk

Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.

Yr hyn a gynigwn

Cydbwysedd bywyd a gwaith

Cynllun cynilo ffordd o fyw

Cynllun pensiwn cyflogwr hael

Cynllun beicio i'r gwaith

Dysgu a datblygu

Lle byddwch yn gweithio

Polisi, Perfformiad a Diogelu’r Cyhoedd

Rydym yn arwain y ffordd o ran perfformiad corfforaethol, polisi corfforaethol, partneriaethau strategol, ymgysylltu, cydlyniant cymunedol ac argyfyngau sifil, ac mae gennym hefyd gyfrifoldeb strategol a gweithredol dros ddiogelu’r cyhoedd: iechyd yr amgylchedd, twyll bwyd, safonau trwyddedu a masnachu.  Mae ein prif swyddogaethau yn cynnwys: 

  • Cwynion, Canmoliaeth a Rhyddid Gwybodaeth
  • Polisi a Pherfformiad Corfforaethol: Perfformiad corfforaethol; Rhestr eiddo; Ymchwil.
  • Diogelu’r Cyhoedd: Iechyd yr amgylchedd; Twyll bwyd; Trwyddedu; Safonau masnach; Rheoli Llygredd; Rheoli Pla; Pwysau a Mesurau; Clefydau Trosglwyddadwy; Iechyd a Diogelwch; Iechyd Anifeiliaid.
  • Partneriaethau Strategol, Ymgysylltu ac Ymchwil: Parhad busnes; Argyfyngau sifil; Partneriaeth diogelwch cymunedol; Ymgysylltu; Cydraddoldeb; Bwrdd gwasanaethau cyhoeddus; Rhaglenni ffoaduriaid.
Penmorfa
Penmorfa yw ein swyddfa fwyaf canolog, dyma lle mae ein Prif Weithredwr a'n Cynghorwyr wedi'i leoli. 
Darllen mwy
Aberaeron
Mae Aberaeron yn dref harbwr brydferth ac mae'n un o gyrchfannau gwyliau mwyaf poblogaidd Ceredigion gyda llefydd poblogaidd i aros a bwyta.
Darllen mwy