Rydym yn gweithredu polisi dwyieithog. Gwahoddir ymgeiswyr i wneud cais yn Gymraeg, ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a wneir yn Saesneg.
Dyddiad Cau: 30/07/2026
Cyfeirnod: REQ106785
37 awr / Parhaol
28,598 - 30,518 *
Penmorfa, Aberaeron
Noder fod y cyflog a hysbysebir ar gyfer y swydd hon yn amodol ar ddyfarniad cyflog cenedlaethol 2026/2027 sydd ar ddod. Caiff y cyflog terfynol ei addasu yn unol â hynny unwaith y bydd y dyfarniad wedi’i gytuno.
Tîm Therapi Galwedigaethol Cyngor Ceredigion – Gwasanaethau Targedig a Thymor Byr.
Rydym yn dîm sy’n teimlo’n angerddol am ddefnyddio Therapi Galwedigaethol i helpu pobl i fyw bywydau mwy ystyrlon.
Bydd y rôl Cynorthwyydd Therapi Galwedigaethol hon wedi’i lleoli o fewn y tîm Gofal wedi’i Alluogi gan Dechnoleg.
Rydym yn darparu gwasanaethau o ansawdd uchel sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn i bobl Ceredigion, ac yn ychwanegu gwerth drwy’r persbectif unigryw y mae ein proffesiwn yn ei gyfrannu at y sefydliad ehangach.
Credwn fod gan bobl, ym mhob cyfnod o fywyd, yr hawl i gyrraedd eu llawn botensial.
Fel tîm, rydym yn falch o’n diwylliant cefnogol ac yn ceisio rhannu ein cryfderau, ein sgiliau proffesiynol a’n gwybodaeth eang – o fewn ein gwasanaeth Therapi Galwedigaethol uniongyrchol a gyda chydweithwyr aml-ddisgyblaethol.
Fel Cynorthwyydd Therapi Galwedigaethol, gallwch ddisgwyl derbyn goruchwyliaeth a chymorth i ddatblygu’r sgiliau arbenigol sy’n angenrheidiol ar gyfer eich rôl.
Bydd eich ffocws yn y tîm yn cynnwys:
Fel Cynorthwyydd Therapi Galwedigaethol, dylai fod gennych ddealltwriaeth sylfaenol o’r proffesiwn Therapi Galwedigaethol. Mae profiad blaenorol o weithio ym maes iechyd neu ofal cymdeithasol yn ddymunol ond nid yw’n hanfodol.
Fel Cynorthwyydd Therapi Galwedigaethol o fewn y tîm Gofal wedi’i Alluogi gan Dechnoleg, byddwch yn ymrwymedig i weithio yn unol â gweledigaeth Ceredigion i alluogi pobl i “ddatblygu’r sgiliau a’r gwydnwch sydd eu hangen arnynt i fyw bywydau cyflawn a chyflawni eu nodau”.
Byddwch yn awyddus i ddysgu a rhannu eich profiad.
Yn bennaf oll, dylech fod mor angerddol â ni am arloesi, gwaith tîm a darparu gwasanaeth o ansawdd sy’n seiliedig ar dystiolaeth.
Rydym yn gweithio fel tîm, ac rydym yn gwerthfawrogi pwysigrwydd cyfraniad a photensial pob aelod o’r tîm.
O ddydd i ddydd, byddwch yn ymwneud â:
Credwn fod cydbwysedd bywyd a gwaith yn holl bwysig. I’ch cefnogi i gyflawni hyn, bydd gennych fynediad at y buddion dewisol canlynol:
Os ydych yn rhannu ein gwerthoedd, cysylltwch â ni i drafod y cyfle cyffrous hwn, neu gwnewch gais nawr.
Disgrifiad Swydd a Manyleb Person
Pecyn Gwybodaeth Tîm Ceredigion
Am ragor o wybodaeth, neu os hoffech drafod y cyfle hwn, cysylltwch â Steven Elliott, Rheolwr Tîm – Steven.elliott@ceredigion.gov.uk
Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.
Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu ac amddiffyn plant ac oedolion sydd mewn perygl Fel rhan o’r ymrwymiad hwn, mae rhai rolau o fewn ein sefydliad yn gofyn am wiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) i asesu addasrwydd ymgeiswyr. Bydd y rôl hon yn gofyn am wiriad DBS Uwch. Sylwch na fydd presenoldeb euogfarnau blaenorol o reidrwydd yn anghymhwyso ymgeisydd rhag ystyriaeth ar gyfer y swydd hon. Rydym yn asesu pob ymgeisydd fesul achos, ac yn ystyried natur a pherthnasedd unrhyw euogfarnau mewn perthynas â chyfrifoldebau’r rôl. Ein nod yw creu amgylchedd gwaith cynhwysol a chefnogol lle caiff pob unigolyn ei drin yn deg a chyda pharch. Os oes gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau am y broses hon, mae croeso i chi gysylltu â ni am eglurhad. Mae eich preifatrwydd a’ch urddas yn hollbwysig i ni drwy gydol y broses recriwtio.
Cydbwysedd bywyd a gwaith
Cynllun cynilo ffordd o fyw
Cynllun pensiwn cyflogwr hael
Cynllun beicio i'r gwaith
Dysgu a datblygu
Rydym wrth wraidd darpariaeth gofal cymdeithasol gydol oes Ceredigion ac ein nod yw sicrhau bod pob unigolyn yn derbyn yr ymyrraeth orau i ddiwallu ei anghenion neu, lle bo angen, eu tywys at gymorth cynnar neu wasanaethau arbenigol. Ein prif swyddogaethau yw:
Gwasanaethau Brysbennu ac Asesu Integredig
Gwasanaethau Uniongyrchol