Rydym yn gweithredu polisi dwyieithog. Gwahoddir ymgeiswyr i wneud cais yn Gymraeg, ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a wneir yn Saesneg.

Swyddog Cynllunio dan Hyfforddiant

Dyddiad Cau: 02/08/2026

Cyfeirnod: REQ106791

37 awr / Cyfnod Penodedig

26,403 - 27,694 *

Penmorfa, Aberaeron

*Mae'r gwerthoedd cyflog yn pro-rata.

Ynglŷn â'r rôl

Ydych chi’n awyddus i ddechrau gyrfa ym maes cynllunio? Yn barod i helpu i lunio dyfodol Ceredigion? Â diddordeb yn y ffordd mae trefi, pentrefi a chymunedau’n tyfu ac yn datblygu?

Rydym yn chwilio am unigolyn brwdfrydig ac uchelgeisiol i ymuno â’n Gwasanaeth Cynllunio fel Hyfforddai Graddedig. Mae hwn yn gyfle gwych i gael 12 mis o brofiad ymarferol mewn amgylchedd cynllunio proffesiynol, gan weithio ar brosiectau go iawn sy’n gwneud gwahaniaeth i gymunedau ledled y sir. Byddwch hefyd yn cael cefnogaeth i gwblhau cymhwyster rheoli prosiectau PRINCE2 achrededig a rhoi’r hyn a ddysgir ar waith wrth gefnogi blaenoriaethau’r gwasanaeth.

Mae’r Gwasanaeth Cynllunio, sy’n ymdrin â dyletswyddau a gofynion statudol o dan y Deddfau Cynllunio Gwlad a Thref a deddfwriaeth berthnasol arall, yn chwarae rôl hanfodol wrth sicrhau cydbwysedd rhwng datblygu, gwarchod yr amgylchedd a thwf economaidd. Gan weithio ochr yn ochr â gweithwyr cynllunio proffesiynol profiadol, byddwch yn datblygu sgiliau ac arbenigedd ymarferol yn y maes, gan adeiladu sylfaen gadarn ar gyfer gyrfa lwyddiannus ym maes cynllunio.

Beth fyddwch chi’n ei wneud?

  • Helpu i ddarparu gwasanaeth cynllunio effeithiol, effeithlon, ymatebol ac o safon uchel.
  • Ymgymryd â rhywfaint o waith achos a gwaith ymchwil sy’n ymwneud â pholisi cynllunio.
  • Cefnogi swyddogion ar draws y gwasanaeth, gan gynnwys ym maes gorfodi, rheoli datblygu a pholisi cynllunio.

Pwy ydym ni’n chwilio amdano?

  • Bydd gennych radd 2:1 neu uwch, a gafwyd o fewn y 3 blynedd diwethaf. Byddai gradd mewn Cynllunio Gwlad a Thref (neu ddisgyblaeth gysylltiedig), neu gyfuniad cyfwerth o wybodaeth a phrofiad ym maes cynllunio, yn arbennig o ddymunol.
  • Y gallu i gyfathrebu’n ddiduedd, yn broffesiynol ac yn effeithiol gydag ystod eang o bobl ar wahanol lefelau.
  • Y gallu i weithio gyda goruchwyliaeth gyfyngedig ac i fodloni terfynau amser heriol.
  • Ymrwymiad cryf i ddarparu gwasanaeth o safon uchel i’r cyhoedd a sicrhau boddhad cwsmeriaid.

Mae’r swydd hon yn gofyn am lefel benodol o ruglder yn y Gymraeg. Fodd bynnag, os nad ydych yn cyrraedd y safon ofynnol ar hyn o bryd, byddwn yn eich cefnogi’n llawn i’w chyflawni ar ôl cael eich penodi.

Beth ydyn ni’n cynnig i chi?

  • Rôl graddedig cyflogedig 12 mis gyda phrofiad ymarferol gwerthfawr.
  • Cefnogaeth broffesiynol, mentora a datblygiad gan weithwyr cynllunio profiadol.
  • Y cyfle i ennill profiad ymarferol ar draws sawl maes cynllunio.
  • 27 diwrnod o wyliau blynyddol, ynghyd ag 8 gŵyl banc.
  • Gweithio hybrid, yn amodol ar drefniadau gweithio gartref addas ac anghenion y gwasanaeth.
  • Amser hyblyg, sy’n eich galluogi i weithio’n hyblyg rhwng 7:30yb a 7:00yh.
  • Cyfle i adeiladu’r wybodaeth, y profiad a’r rhwydwaith proffesiynol sydd eu hangen ar gyfer gyrfa lwyddiannus ym maes cynllunio.

Os ydych yn barod i ddechrau gyrfa lle gallwch wneud gwahaniaeth parhaol i gymunedau, tirweddau a dyfodol Ceredigion, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych.

Gwybodaeth Ychwanegol

Am wybodaeth fanwl am y rôl hon, cyfeiriwch at y Disgrifiad Swydd a’r Fanyleb Person. Gallwch hefyd ddysgu mwy am y Gwasanaeth Cynllunio a gweithio gyda Thîm Ceredigion yma. Mae rhagor o wybodaeth am y Cynllun Hyfforddeion Graddedig ar gael yma hefyd.

Am sgwrs anffurfiol am y cyfle, cysylltwch â Catrin Newbold (Rheolwr Gwasanaeth – Rheoli Datblygu) ar (01545) 572131.

Cynhelir cyfweliadau o bell ar ddydd Iau, 6 Awst 2026.

Noder fod y cyflog a hysbysebir ar gyfer y swydd hon yn destun dyfarniad cyflog cenedlaethol 2026/2027 sydd heb ei gytuno eto. Bydd y cyflog terfynol yn cael ei addasu yn unol â hynny unwaith y bydd dyfarniad wedi’i gytuno.

Yr hyn a gynigwn

Cydbwysedd bywyd a gwaith

Cynllun cynilo ffordd o fyw

Cynllun pensiwn cyflogwr hael

Cynllun beicio i'r gwaith

Dysgu a datblygu

Lle byddwch yn gweithio

Economi ac Adfywio

Rydym yn chwarae rhan hanfodol yn y gwaith o gyflawni un o brif amcanion Strategaeth Gorfforaethol y Cyngor, sef ceisio rhoi hwb i economi’r Sir a Chanolbarth Cymru. Rydym wedi ein trefnu yn dair prif adran: Gwasanaethau Economi, Cynllunio ac Eiddo.  Ein prif swyddogaethau yw:

  • Twf a Menter: Cefnogi twf ac adfywiad economaidd yn lleol ac ar draws y rhanbarth; Tyfu Canolbarth Cymru; yr Ystâd Gorfforaethol a Chyfleoedd Datblygu; Cefnogaeth Prosiect; Cyllid Ewropeaidd a lleol; Canolfan Fwyd Cymru a chefnogi datblygiad Bwyd-Amaeth; Hyrwyddo a datblygu twristiaeth; Canolfannau Gwybodaeth i Dwristiaid; Arfordir a Chefn Gwlad
  • Gwasanaethau Cynllunio: Cefnogi twf trwy’r Gwasanaethau Cynllunio a Rheoli Adeiladu; Polisi Cynllunio Defnydd Tir Strategol a Lleol; Rheoli Datblygu; Rheoli Adeiladu; a Chwiliadau Tir.
  • Gwasanaethau Eiddo: Cefnogi rhaglen y Cyngor trwy Reoli Prosiectau; Cynnal a Chadw Eiddo ac Adeiladau; Rheoli Cyfleusterau; Rheoli Carbon; a’r Defnydd Effeithlon o Eiddo’r Cyngor.
Penmorfa
Penmorfa yw ein swyddfa fwyaf canolog, dyma lle mae ein Prif Weithredwr a'n Cynghorwyr wedi'i leoli. 
Darllen mwy
Aberaeron
Mae Aberaeron yn dref harbwr brydferth ac mae'n un o gyrchfannau gwyliau mwyaf poblogaidd Ceredigion gyda llefydd poblogaidd i aros a bwyta.
Darllen mwy