Rydym yn gweithredu polisi dwyieithog. Gwahoddir ymgeiswyr i wneud cais yn Gymraeg, ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a wneir yn Saesneg.

Partner Busnes Adnoddau Dynol

Dyddiad Cau: 02/08/2026

Cyfeirnod: REQ106792

37 awr / Parhaol

39,152 - 45,091 *

Canolfan Rheidol, Aberystwyth

*Mae'r gwerthoedd cyflog yn pro-rata.

Ynglŷn â'r rôl

Noder fod y cyflog a hysbysebir ar gyfer y swydd hon yn amodol ar ddyfarniad cyflog cenedlaethol 2026/2027 sydd ar ddod. Caiff y cyflog terfynol ei addasu yn unol â hynny unwaith y bydd y dyfarniad wedi’i gytuno.

Mae gennym gyfle cyffrous i weithiwr proffesiynol AD profiadol i ymuno â’n tîm AD cyfeillgar a chefnogol.

Mae hon yn swydd wedi’i graddio’n ôl gyrfa, sy’n golygu y gallwn benodi ar:

  • Gradd 10 – Partner Busnes AD, neu
  • Gradd 11 – Partner Busnes AD

yn dibynnu ar eich profiad a’ch cymwysterau.

Yn y rôl allweddol hon, byddwch yn gweithredu fel partner busnes AD y gellir ymddiried ynddo, gan ddarparu cyngor arbenigol a chefnogaeth ymarferol i reolwyr, penaethiaid ac aelodau llywodraethol ar draws ystod eang o faterion gweithlu. Mae’r gwaith yn amrywiol, yn werth chweil, ac yn aml yn gymhleth – gan gynnwys meysydd fel cysylltiadau cyflogaeth, newid sefydliadol, cynllunio’r gweithlu a datblygu polisïau.

Rydym yn chwilio am rywun sydd:

  • Yn weithiwr proffesiynol AD hyderus a chredadwy gydag arbenigedd cryf mewn cysylltiadau cyflogeion.
  • Yn fedrus wrth ddelio â sefyllfaoedd cymhleth a sensitif gyda phroffesiynoldeb ac empathi.
  • Yn gallu meithrin perthnasoedd effeithiol ar draws gwasanaethau, gan gynnwys ysgolion a’r undebau llafur.
  • Yn canolbwyntio ar ddatrys heriau, yn wydn, ac yn gallu rheoli blaenoriaethau sy’n gwrthdaro.
  • Yn ymrwymedig i ddatblygiad proffesiynol parhaus.

Bydd gennych:

Gradd 10:

  • Cymhwyster CIPD Lefel 5 (neu brofiad cyfatebol) gyda’r ymrwymiad i symud ymlaen i Lefel 7 CIPD o fewn 3 blynedd, a
  • Tua 3+ blynedd o brofiad AD.

Neu,

Gradd 11:

  • Cymhwyster CIPD Lefel 7 a/neu Aelodaeth Siartredig CIPD, a
  • Phrofiad sylweddol o fewn AD (fel arfer 5+ blynedd) gyda’r gallu i weithredu ar lefel strategol.

Rydym yn dîm bach, clos sy’n ymfalchïo mewn bod yn:

  • Gefnogol a chroesawgar
  • Cydweithredol ac yn canolbwyntio ar ddatrus herriau
  • Wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaethau AD o ansawdd uchel

Byddwch yn ymuno â thîm lle mae pobl yn helpu ei gilydd  ac mae eich cyfraniad yn cael ei gydnabod a’i werthfawrogi.

Ein Cynnig

Rydym wedi ymrwymo i feithrin perthynas waith sy’n fuddiol i’r ddwy ochr, wedi’i seilio ar:

  • Ymddiriedaeth, tryloywder a pharch
  • Hyblygrwydd a dealltwriaeth
  • Cydnabyddiaeth o ymdrech ac effaith
  • Cyfleoedd ar gyfer datblygu a chynnydd

Rydym yn chwilio am rywun sydd ag agwedd hyblyg a rhagweithiol, gan fod y rôl yn gallu cynnwys blaenoriaethau sy’n newid a’r angen i deithio’n rheolaidd ar draws y sir. Yn gyfnewid, rydym yn cynnig hyblygrwydd o ran sut, pryd a ble rydych yn gweithio, gan gynnwys ein cyllllun fflecsi a gweithio hybrid poblodaeth, yn ogystal ag amgylchedd cefnogol i’ch helpu i lwyddo.

Rydym yn annog yn weithredol geisiadau gan ymgeiswyr sy’n ceisio trefniadau hyblyg, gan gynnwys:

  • Gwaith rhan-amser
  • Rhannu swydd
  • Gwaith hybrid
  • Oriau hyblyg / cywasgedig

Byddwn yn ystyried pob cais.

Disgrifiad Swydd a Manyleb Person (Gradd 10)

Disgrifiad Swydd a Manyleb Person (Gradd 11)

Pecyn Gwybodaeth Tîm Ceredigion

Diddordeb?

Ar gyfer trafodaeth anffurfiol neu i gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â:

Catherine Hutton

Rheolwr Tîm – Adnoddau Dynol

catherine.hutton@ceredigion.gov.uk

Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.

Yr hyn a gynigwn

Cydbwysedd bywyd a gwaith

Cynllun cynilo ffordd o fyw

Cynllun pensiwn cyflogwr hael

Cynllun beicio i'r gwaith

Dysgu a datblygu

Lle byddwch yn gweithio

Pobl a Threfniadaeth

Rydym yn cynnig cymorth i’r sefydliad er mwyn denu, datblygu a chadw gweithlu ystwyth sy’n perfformio’n dda, gan weithio mewn amgylchedd diogel, sy’n gallu darparu gwasanaethau o’r safon uchaf i ddinasyddion Ceredigion nawr ac yn y dyfodol. Ein prif swyddogaeth yw:

  • Cyngor a Gweinyddu Adnoddau Dynol: Absenoldeb; Arfarniadau; Cytundebau; Disgyblu; Cwyno; Gwerthuso Swyddi; Rheoli Newid; Recriwtio ac Ar-fyrddio.
  • Iechyd, Diogelwch a Lles: Cyngor; Cydymffurfio; Asesiadau risg.
  • Dysgu a Datblygu: E-ddysgu; Digwyddiadau; Panel cymwysterau; Hyfforddiant.
  • Ymgysylltu a Lles: Ceri +; Cyfathrebu Mewnol; Marchnata Recriwtio
  • Tâl a Budd-daliadau:  Cyflogres; Pensiynau; Taflenni amser.
  • Systemau: Datblygiad a System Ceri; Data ac Adrodd.
Canolfan Rheidol
Mae ein swyddfa yn Aberystwyth, Canolfan Rheidol, yn adeilad sydd wedi ennill gwobrau. Mae'r swyddfa, gyda'i dyluniad cynllun agored, yn darparu lle rhagorol ar gyfer gweithio ar y cyd.
Darllen mwy
Aberystwyth
Mae Aberystwyth yn dref brifysgol fywiog ac yn gyrchfan glan môr gyda phromenâd a phier. Yn ogystal dyma yw lleoliad y ddrama deledu atmosfferig Y Gwyll. Mae Aberystwyth yn lleoliad delfrydol i archwilio Llwybr Arfordir Cymru ar hyd Bae Cere...
Darllen mwy