Rydym yn gweithredu polisi dwyieithog. Gwahoddir ymgeiswyr i wneud cais yn Gymraeg, ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a wneir yn Saesneg.

Swyddog Cymorth i Brosiectau

Dyddiad Cau: 30/07/2026

Cyfeirnod: REQ106799

Mewnol yn unig

37 awr / Cyfnod Penodedig

35,412 - 37,280 *

Penmorfa, Aberaeron

*Mae'r gwerthoedd cyflog yn pro-rata.

Ynglŷn â'r rôl

Dim ond gweithwyr cyfredol all wneud cais am y swydd hon.

Mae cyfle wedi codi i Swyddog Cymorth i Brosiectau gael ei recriwtio i’r Tîm Swyddfa Prosiect Cymorth Gwasanaethau Corfforaethol ar sail cyfnod penodol llawn amser tan 31ain Mawrth 2028.

Mae hwn yn gyfle gwych i ennill profiad o gefnogi rhaglenni rhanbarthol proffil uchel a threfniadau llywodraethu, gan weithio gydag Awdurdodau Lleol, Llywodraeth Cymru ac ystod eang o bartneriaid rhanbarthol.

Bydd y rôl hon wedi’i lleoli o fewn tîm Tyfu Canolbarth Cymru. Mae’n gyfle cyffrous i gefnogi partneriaeth ranbarthol brysur sy’n gweithio ar draws Ceredigion a Phowys. Mae Tyfu Canolbarth Cymru yn cefnogi’r gwaith o gyflawni blaenoriaethau economaidd rhanbarthol, gan gynnwys Bargen Twf Canolbarth Cymru a gwaith ehangach sy’n gysylltiedig â buddsoddi, llywodraethu a datblygu rhanbarthol.

Am y rôl

Byddwch yn darparu cymorth prosiectau a rhaglenni i helpu i sicrhau bod gweithgareddau allweddol yn cael eu trefnu, eu cydlynu a’u dilyn yn dda. Bydd hyn yn cynnwys cefnogi cyfarfodydd, cynnal cynlluniau ymlaen llaw, olrhain camau gweithredu, cydlynu papurau a helpu i sicrhau bod gwybodaeth yn cael ei rheoli’n glir ac yn gyson.

Bydd y rôl yn cefnogi gwaith ar draws Tyfu Canolbarth Cymru, gan gynnwys gweithgarwch sy’n gysylltiedig â Chytundeb Twf Canolbarth Cymru a threfniadau llywodraethu rhanbarthol. Byddwch yn gweithio gydag ystod o gydweithwyr a phartneriaid, gan helpu i sicrhau bod dyddiadau cau yn cael eu bodloni, camau gweithredu’n cael eu symud ymlaen a bod cofnodion yn gywir ac yn gyfredol.

Mae hon yn rôl amrywiol a fyddai’n addas i rywun sy’n drefnus iawn, yn rhagweithiol ac yn hyderus yn gweithio mewn amgylchedd prysur. O ddydd i ddydd, byddwch chi yn:

  • cefnogi cydlynu cyfarfodydd, agendâu, papurau a chamau dilynol;
  • helpu i gynnal cynlluniau ymlaen, cofnodion gweithredu, cofnodion penderfyniadau ac amserlenni adrodd;
  • monitro blychau post a chalendrau a rennir, gan sicrhau bod ymholiadau’n cael eu cyfeirio’n briodol;
  • cefnogi rheoli dogfennau, rheoli fersiwn a chadw cofnodion cywir;
  • helpu i olrhain dyddiadau cau a dilyn i fyny gyda chydweithwyr a phartneriaid lle bo angen;
  • cynorthwyo gyda pharatoi a chydlynu dogfennaeth prosiect a llywodraethu;
  • cefnogi cyfathrebu effeithiol rhwng cydweithwyr, meysydd gwaith a phartneriaid allanol;
  • cyfrannu at drefniadau cymorth prosiect cyson ar draws y tîm;
  • helpu i sicrhau bod cyfarfodydd, adroddiadau a chofnodion yn cael eu trefnu mewn modd amserol a phroffesiynol.

O ddydd i ddydd, bydd gofyn i ddeiliad y swydd gynorthwyo i ddatblygu, monitro a chynnal a chadw dogfennau sy’n gysylltiedig â’r prosiect ac arwain ar amserlennu, gweinyddu a nodi ystod o gyfarfodydd prosiect. Bydd y rôl yn gofyn am gyfathrebu wyneb yn wyneb, yn ysgrifenedig, ar lafar ac yn electronig gydag ystod o randdeiliaid mewnol ac allanol.

Am yr Ymgeisydd:

Rydym yn chwilio am unigolyn sy’n meddu ar isafswm lefel o gymwysterau o’r canlynol:

  • Cymhwyster rheoli prosiect (e.e. Prince2)/rheoli i lefel gradd/NVQ5 neu brofiad cyfatebol y gellir ei ddangos.

Bydd angen unigolyn trefnus a dibynadwy sydd â phrofiad o ddarparu prosiect, rhaglen, llywodraethu neu gymorth gweinyddol mewn amgylchedd tîm neu bartneriaeth brysur.

Bydd gennych sylw rhagorol i fanylion, sgiliau cyfathrebu cryf a’r gallu i reoli blaenoriaethau cystadleuol. Byddwch yn hyderus gan ddefnyddio Microsoft Office ac yn gallu cadw cofnodion cywir, cydlynu cyfarfodydd a gweithredu dilynol mewn ffordd broffesiynol.

Dylech fod yn gyfforddus yn gweithio gydag ystod o bobl, yn gallu defnyddio eich menter eich hun, ac yn barod i gyfrannu at amgylchedd tîm lle gall blaenoriaethau newid. Byddai profiad o gefnogi cyfarfodydd prosiect, paratoi agendâu, olrhain camau gweithredu, rheoli dogfennau neu weithio gyda threfniadau llywodraethu ffurfiol yn fantais.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn rhagweithiol, yn synhwyrol ac yn drefnus, gydag agwedd gadarnhaol at ddatrys problemau ac ymrwymiad cryf i ddarparu cymorth o ansawdd uchel.

Gellir ystyried cyfle secondiad; fodd bynnag, mae hyn yn amodol ar drafodaeth a chymeradwyaeth gan eich rheolwr llinell presennol.

Ein cynnig:

Credwn fod cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith yn bwysig iawn. Er mwyn eich cefnogi i gyflawni hyn, bydd gennych fynediad at y buddion dewisol canlynol:

Gweithio Hybrid: Yn amodol ar amodau penodol yn cael eu bodloni, gallwch ddewis gweithio gartref neu mewn lleoliad swyddfa er y bydd anghenion y rôl yn gofyn am bresenoldeb yn y swyddfa.

Amser hyblyg: Gellir gweithio oriau o fewn lled band diffiniedig, o ddydd Llun i ddydd Gwener, yn amodol ar anghenion gwasanaeth.

Disgrifiad Swydd a Manyleb Person

Pecyn Gwybodaeth Tîm Ceredigion

Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os hoffech drafod hyn ymhellach, cysylltwch â Meleri.richards@ceredigion.gov.uk

Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.

Yr hyn a gynigwn

Cydbwysedd bywyd a gwaith

Cynllun cynilo ffordd o fyw

Cynllun pensiwn cyflogwr hael

Cynllun beicio i'r gwaith

Dysgu a datblygu

Lle byddwch yn gweithio

Gwasanaethau Democrataidd

Rydym yn chwarae rhan allweddol yn sicrhau rheolaeth esmwyth ac effeithlon ar broses gwneud penderfyniadau’r Cyngor, gan gynnwys cefnogaeth a chyngor i Gynghorwyr; Cefnogaeth PA, gweinyddol a rheoli prosiect i bob maes gwasanaeth; hwyluso etholiadau; tim cyfathrebu; cyfieithu a swyddog polisi Iaith Gymraeg. Mae ein prif swyddogaethau yn cynnwys

  • Cefnogaeth Gwasanaeth Corfforaethol: PA a chefnogaeth weinyddol; Cymorth busnes gan gynnwys rheoli prosiect a chymryd cofnodion.
  • Gwasanaethau Democrataidd: Cynghorwyr; Pwyllgorau a Phwyllgorau Rheoleiddio Cyngor, Cabinet, Trosolwg a Chraffu.
  • Gwasanaethau Etholiadol: Etholiadau cyffredinol a lleol; Rheoli’r gofrestr etholiadol.
  • Tim Cyfathrebu: Rheoli gweithgareddau cyfathrebu yn gorfforaethol; rhoi cymorth i wasanaethau mewn ymgyrchoedd a phrosiectau; delio â’r wasg a’r cyfryngau; datblygu a chyhoeddi datganiadau i’r wasg; rheoli tudalennau cyfryngau cymdeithasol.
  • Cyfieithi: Dogfennau a chyfieithu ar y pryd.
  • Safonau’r Iaith Cymraeg: Gweithredol; Llunio polisi; Hyrwyddo; Monitro; Darparu gwasanaeth.
Penmorfa
Penmorfa yw ein swyddfa fwyaf canolog, dyma lle mae ein Prif Weithredwr a'n Cynghorwyr wedi'i leoli. 
Darllen mwy
Aberaeron
Mae Aberaeron yn dref harbwr brydferth ac mae'n un o gyrchfannau gwyliau mwyaf poblogaidd Ceredigion gyda llefydd poblogaidd i aros a bwyta.
Darllen mwy