Rydym yn gweithredu polisi dwyieithog. Gwahoddir ymgeiswyr i wneud cais yn Gymraeg, ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a wneir yn Saesneg.
Dyddiad Cau: 05/08/2026
Cyfeirnod: REQ106801
37 awr / Parhaol
39,152 - 40,777 *
Penmorfa, Aberaeron
Noder fod y cyflog a hysbysebir ar gyfer y swydd hon yn amodol ar ddyfarniad cyflog cenedlaethol 2026/2027 sydd ar ddod. Caiff y cyflog terfynol ei addasu yn unol â hynny unwaith y bydd y dyfarniad wedi’i gytuno.
Gall yr ymgeisydd llwyddiannus fod yn gymwys i hyd at uchafswm o £8,000 (gan gynnwys TAW) tuag at gost y treuliau a dynnir oherwydd adleoli i Geredigion. Am fwy o wybodaeth, anfonwch e-bost at adnoddaudynol@ceredigion.gov.uk. Am fwy o wybodaeth am sir Ceredigion a’r ffordd o fyw ragorol y mae’n ei gynnig, cliciwch yma.
Ydych chi’n frwdfrydig dros ddefnyddio Therapi Galwedigaethol i helpu pobl i fyw bywydau mwy ystyrlon? Ydych chi’n gwerthfawrogi gweithio mewn sefydliad penderfynol sy’n canolbwyntio ar les? Os felly, parhewch i ddarllen.
Yn dilyn ehangu parhaus y Tîm Therapi Galwedigaethol Llesiant Gydol Oes, crëwyd y rôl – Uwch Therapydd Galwedigaethol er mwyn cydlynu prosesau a gweithgareddau’r tîm brysbennu. Er bod y Rôl yma’n bennaf o fewn y tîm brysbennu, bydd cysylltiadau gwaith agos gyda gofal sy’n cael ei gefnogi gan dechnoleg, y Gwasanaeth galluogi a’r Ganolfan Byw’n Annibynnol ym Mhenmorfa yn allweddol. Bydd hyn yn creu cyfleoedd clinigol cyffrous ac eang ar gyfer datblygiad proffesiynol.
Mae rôl Uwch Therapydd Galwedigaethol hefyd yn cael ei hysbysebu i oruchwylio’r un maes yn glinigol. Bydd y Therapydd Galwedigaethol cymwys a’r Uwch Therapydd Galwedigaethol yn gweithio’n agos gyda’i gilydd i ddatblygu gwasanaethau blaengar o fewn Cyngor Ceredigion, gyda chefnogaeth barhaus gan Uwch Therapyddion Galwedigaethol profiadol eraill, rheolwr y tîm a chydweithwyr ym maes gwaith cymdeithasol (fel rhan o’r tîm brysbennu ehangach).
Pwrpas y swydd
O ddydd i ddydd:
Mae’r rôl hon yn rhan o’r Tîm Therapi Galwedigaethol Llesiant Gydol Oes, o fewn y tîm Brysbennu ac asesu, gan ddelio gyda’r cysylltiadau cyntaf posibl o ran atgyfeiriadau. Byddwch yn defnyddio eich sgiliau asesu Therapi Galwedigaethol yn weithredol, gan weithio’n uniongyrchol gyda defnyddwyr gwasanaeth, o bell ac yn eu cartrefi, i leihau risg a hyrwyddo annibyniaeth o’r pwynt cyswllt cyntaf gyda’r gwasanaethau cymdeithasol.
Byddwch yn meithrin perthnasau proffesiynol cynhyrchiol ac yn datblygu gwybodaeth fanwl am wasanaethau Ceredigion, gan sicrhau bod pobl yn derbyn cyngor, gwybodaeth a mynediad at wasanaethau priodol mewn modd amserol, gan wneud y gorau o ganlyniadau personol sy’n ystyrlon ac o ansawdd. Byddwch yn allweddol wrth gefnogi staff anghymwysedig ac wrth hyrwyddo arloesedd a newid cadarnhaol fel rhan o Dîm Ceredigion.
Tîm Therapi Galwedigaethol Llesiant Drwy Oes:
Rydym yn frwdfrydig dros y gwasanaeth o safon sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn yr ydym yn ei ddarparu i bobl yng Ngheredigion a’r safbwynt unigryw y mae ein galwedigaeth yn ei gynnig i’r sefydliad ehangach. Rydym yn credu bod gan bobl hawl i gyrraedd eu potensial llawn ym mhob cyfnod o’u bywydau.
Fel tîm, rydym yn falch o’n diwylliant cefnogol ac yn awyddus i rannu ein cryfderau, sgiliau proffesiynol, a’n gwybodaeth eang – yn ein gwasanaeth Therapi Galwedigaethol uniongyrchol a chyda’n cydweithwyr amlddisgyblaethol.
Fel Therapydd Galwedigaethol cymwys a phrofiadol, gallwch ddisgwyl derbyn goruchwyliaeth broffesiynol reolaidd a chyfnodau penodol ar gyfer Datblygiad Proffesiynol Parhaus.
Ein nod yw grymuso unigolion i wneud y mwyaf o’u hannibyniaeth eu hunain, gan ddefnyddio adnoddau’n deg ac yn gyfrifol, yn unol â’n cyfrifoldebau proffesiynol a deddfwriaethol.
Mae gan ein tîm arbenigedd mewn:
Fel Therapydd Galwedigaethol cymwys, byddwch yn hyderus yn eich sgiliau asesu clinigol; yn gallu egluro’r rhesymeg dros eich penderfyniadau. Byddwch yn hunanymwybodol yn broffesiynol, gan fod yn ymwybodol o’ch ffiniau o ran cymwyseddau. Byddwch yn awyddus i ddysgu ac i rannu eich gwybodaeth.
Yn bennaf, dylech fod yr un mor frwdfrydig ag yr ydym ni dros arloesi, gwaith tîm a darparu gwasanaeth o safon sy’n seiliedig ar dystiolaeth. Rydym yn gweithio fel tîm ac yn gwerthfawrogi cyfraniad pob aelod.
Os ydych yn rhannu ein gwerthoedd, cysylltwch i drafod y cyfle cyffrous hwn, neu ymgeisiwch nawr.
Mae’r manteision sy’n gysylltiedig â’r swydd hon yn cynnwys;
Disgrifiad Swydd a Manyleb Person
Pecyn Gwybodaeth Tîm Ceredigion
Am ragor o wybodaeth, neu os hoffech drafod y cyfle hwn, cysylltwch â: Steven Elliott, Rheolwr Tîm ar Steven.elliott@ceredigion.gov.uk
Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.
Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu ac amddiffyn plant ac oedolion sydd mewn perygl Fel rhan o’r ymrwymiad hwn, mae rhai rolau o fewn ein sefydliad yn gofyn am wiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) i asesu addasrwydd ymgeiswyr. Bydd y rôl hon yn gofyn am wiriad DBS Uwch. Sylwch na fydd presenoldeb euogfarnau blaenorol o reidrwydd yn anghymhwyso ymgeisydd rhag ystyriaeth ar gyfer y swydd hon. Rydym yn asesu pob ymgeisydd fesul achos, ac yn ystyried natur a pherthnasedd unrhyw euogfarnau mewn perthynas â chyfrifoldebau’r rôl. Ein nod yw creu amgylchedd gwaith cynhwysol a chefnogol lle caiff pob unigolyn ei drin yn deg a chyda pharch. Os oes gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau am y broses hon, mae croeso i chi gysylltu â ni am eglurhad. Mae eich preifatrwydd a’ch urddas yn hollbwysig i ni drwy gydol y broses recriwtio.
Cydbwysedd bywyd a gwaith
Cynllun cynilo ffordd o fyw
Cynllun pensiwn cyflogwr hael
Cynllun beicio i'r gwaith
Dysgu a datblygu
Rydym wrth wraidd darpariaeth gofal cymdeithasol gydol oes Ceredigion ac ein nod yw sicrhau bod pob unigolyn yn derbyn yr ymyrraeth orau i ddiwallu ei anghenion neu, lle bo angen, eu tywys at gymorth cynnar neu wasanaethau arbenigol. Ein prif swyddogaethau yw:
Gwasanaethau Brysbennu ac Asesu Integredig
Gwasanaethau Uniongyrchol