Rydym yn gweithredu polisi dwyieithog. Gwahoddir ymgeiswyr i wneud cais yn Gymraeg, ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a wneir yn Saesneg.

Uwch Ymarferydd – Therapydd Galwedigaethol

Dyddiad Cau: 05/08/2026

Cyfeirnod: REQ106802

37 awr / Parhaol

42,839 - 45,091 *

Penmorfa, Aberaeron

*Mae'r gwerthoedd cyflog yn pro-rata.

Ynglŷn â'r rôl

Noder fod y cyflog a hysbysebir ar gyfer y swydd hon yn amodol ar ddyfarniad cyflog cenedlaethol 2026/2027 sydd ar ddod. Caiff y cyflog terfynol ei addasu yn unol â hynny unwaith y bydd y dyfarniad wedi’i gytuno.

Gall yr ymgeisydd llwyddiannus fod yn gymwys i hyd at uchafswm o £8,000 (gan gynnwys TAW) tuag at gost y treuliau a dynnir oherwydd adleoli i Geredigion. Am fwy o wybodaeth, anfonwch e-bost at adnoddaudynol@ceredigion.gov.uk. Am fwy o wybodaeth am sir Ceredigion a’r ffordd o fyw ragorol y mae’n ei gynnig, cliciwch yma.

Ydych chi’n angerddol am ddefnyddio Therapi Galwedigaethol i helpu pobl i fyw bywydau mwy ystyrlon? Ydych chi’n gwerthfawrogi gweithio mewn sefydliad blaengar sy’n canolbwyntio ar les? Ydych chi’n barod i gymryd rôl arweiniol sy’n bwysig? Os ydych, darllenwch ymlaen.

Yn dilyn adolygiad diweddar o’r gwasanaethau Therapi Galwedigaethol o fewn Cyngor Sir Ceredigion, mae strwythur gwasanaeth newydd wedi’i ddatblygu. Mae rolau uwch therapydd galwedigaethol Oedolion a Phediatrig bellach yn dod o dan yr un strwythur rheoli o fewn model llesiant gydol oes Ceredigion.

Mae dod â’r gwasanaethau Oedolion a Phediatreg ynghyd yn ymgais newydd. Felly, bydd disgwyl hyblygrwydd yn eich dull o weithredu a bod yn angerddol am ddatblygu gwasanaeth. Wrth i’r gwasanaeth aeddfedu, bydd y tîm yn dod yn fwy integredig ac mae’r ffiniau rhwng gwasanaethau oedolion / plant yn debygol o orgyffwrdd wrth i’r broses gyffrous hon fynd rhagddi.

Rydym yn angerddol am y gwasanaeth o ansawdd uchel sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn a ddarparwn i bobl Ceredigion a’r persbectif unigryw y mae ein proffesiwn yn ei roi i’r sefydliad ehangach. Credwn fod gan bobl yr hawl i gyrraedd eu llawn botensial ym mhob cyfnod o fywyd.

Fel tîm rydym yn falch o’n diwylliant cefnogol ac yn ceisio rhannu ein cryfderau, ein sgiliau proffesiynol, a’n gwybodaeth eang – yn ein gwasanaeth therapydd galwedigaethol uniongyrchol a chyda chydweithwyr y tîm amlddisgyblaethol.

Fel uwch ymarferydd gallwch ddisgwyl cael goruchwyliaeth broffesiynol reolaidd ac amser wedi’i ddiogelu o ran datblygiad proffesiynol parhaus.

Eich ffocws yn y tîm fydd:

  • Rhoi cymorth clinigol, arweiniad, a goruchwyliaeth ffurfiol i therapyddion galwedigaethol a chynorthwywyr therapyddion galwedigaethol sy’n cario llwyth achosion cymunedol.
  • Sgrinio a blaenoriaethu atgyfeiriadau newydd.
  • Gweithio’n glinigol gyda defnyddwyr gwasanaethau sydd â’r anghenion mwyaf cymhleth.
  • Cynorthwyo rheolwr y tîm i amlygu ac ailadrodd arferion gorau clinigol o fewn y tîm.
  • Nodi, cyfrannu at ac arwain ar brosiectau datblygu gwasanaethau.
  • Cynorthwyo gyda dull o asesu a darparu gwasanaethau sydd bob amser yn gwella.
  • Mynd ati yn agored, trawsgyflenwi rhwng rolau uwch Oedolion / Pediatrig os oes angen.
  • Cyflwyno hyfforddiant tîm yn ôl yr angen a modelu datblygiad proffesiynol parhaus yn ymarferol.
  • Parhau i adeiladu ar ddatblygiadau cyffrous diweddar o ran gwasanaethau a threfniadaeth mewn meysydd fel:
    • Ymarfer clinigol sy’n datblygu
    • Gofal a alluogir gan dechnoleg
    • Trin â llaw ar sail tystiolaeth (gan ryddhau amser i ofalu)
    • Canolfan Penmorfa ar gyfer Byw’n Annibynnol (adnodd cymunedol)

Mae rôl therapi galwedigaethol cymunedol yn amrywiol, ein nod yw grymuso pobl i wneud y mwyaf o’u hannibyniaeth eu hunain wrth ddefnyddio adnoddau’n deg ac yn gyfrifol, yn unol â’n cyfrifoldebau proffesiynol a deddfwriaethol. Mae ein tîm yn arbenigwyr mewn

  • Addasiadau
  • Technegau ac offer trin â llaw
  • Asesiad swyddogaethol
  • Grymuso pobl sydd â chyflyrau hirdymor cymhleth
  • Defnyddio dulliau cydadferol, adsefydlu ac sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn
  • Gweithio mewn tîm amlddisgyblaethol
  • Nodi ffyrdd arloesol newydd o helpu pobl i fyw bywydau mwy ystyrlon.

Fel Uwch Ymarferydd byddwch yn hyderus yn eich sgiliau asesu clinigol; yn gallu esbonio pam a sut rydych chi’n gwneud penderfyniadau. Byddwch yn broffesiynol hunanymwybodol, gan wybod ble mae eich cymwyseddau eich hun yn dechrau ac yn gorffen. Byddwch gennych lwyddiant blaenorol o gefnogi a goruchwylio staff therapi galwedigaethol / staff cymorth eraill yn llwyddiannus. Byddwch yn meddu ar sgiliau trefnu cryf. Yn bennaf oll, dylech fod yr un mor angerddol â ni am arloesi, gwaith tîm a darparu gwasanaeth o safon sy’n seiliedig ar dystiolaeth. Rydym yn gweithio fel tîm, rydym yn gwerthfawrogi pwysigrwydd cyfraniad pob aelod o’r tîm.

Os ydych yn rhannu ein gwerthoedd, cysylltwch â ni i drafod y cyfle cyffrous hwn, neu gwnewch gais nawr.

Mae’r rolau hyn yn elwa o:

  • Weithio Hybrid (potensial i weithio gartref ac yn y swyddfa, mae angen teithio o fewn y sir hefyd)
  • Amser hyblyg
  • Grant ariannol dewisol hael i gefnogi’r ymgeisydd cywir i adleoli i Geredigion.

Disgrifiad Swydd a Manyleb Person

Pecyn Gwybodaeth Tîm Ceredigion

Am fwy o wybodaeth neu os hoffech drafod y cyfle hwn, cysylltwch â: Steven Elliott, Rheolwr Tîm, trwy ebost steven.elliott@ceredigion.gov.uk

Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.

Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu ac amddiffyn plant ac oedolion sydd mewn perygl Fel rhan o’r ymrwymiad hwn, mae rhai rolau o fewn ein sefydliad yn gofyn am wiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) i asesu addasrwydd ymgeiswyr. Bydd y rôl hon yn gofyn am wiriad DBS Uwch. Sylwch na fydd presenoldeb euogfarnau blaenorol o reidrwydd yn anghymhwyso ymgeisydd rhag ystyriaeth ar gyfer y swydd hon. Rydym yn asesu pob ymgeisydd fesul achos, ac yn ystyried natur a pherthnasedd unrhyw euogfarnau mewn perthynas â chyfrifoldebau’r rôl. Ein nod yw creu amgylchedd gwaith cynhwysol a chefnogol lle caiff pob unigolyn ei drin yn deg a chyda pharch. Os oes gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau am y broses hon, mae croeso i chi gysylltu â ni am eglurhad. Mae eich preifatrwydd a’ch urddas yn hollbwysig i ni drwy gydol y broses recriwtio.

Yr hyn a gynigwn

Cydbwysedd bywyd a gwaith

Cynllun cynilo ffordd o fyw

Cynllun pensiwn cyflogwr hael

Cynllun beicio i'r gwaith

Dysgu a datblygu

Lle byddwch yn gweithio

Porth Gofal – Gwasanaethau Ymyrraeth wedi’u Targedu

Rydym wrth wraidd darpariaeth gofal cymdeithasol gydol oes Ceredigion ac ein nod yw sicrhau bod pob unigolyn yn derbyn yr ymyrraeth orau i ddiwallu ei anghenion neu, lle bo angen, eu tywys at gymorth cynnar neu wasanaethau arbenigol. Ein prif swyddogaethau yw:

Gwasanaethau Brysbennu ac Asesu Integredig

  • Tîm Derbyn a Gweithrediadau Integredig
  • Tîm Asesu Integredig
  • Tîm Dyletswydd Brys
Gwasanaethau Targedig a Thymor Byr
  • Gwasanaeth Cymorth Taliadau Uniongyrchol
  • Tîm Logisteg a Gweithrediadau’r Ganolfan Byw’n Annibynnol (CILC)
  • Gofal Integredig Targedig a Galluogi
  • Gofal a Galluogir gan Dechnoleg a Gwasanaethau Synhwyraidd
  • Therapi Galwedigaethol

Gwasanaethau Uniongyrchol

  • Tîm Gwasanaethau Gofal Dyddiol
  • Timau Gofal Preswyl
Penmorfa
Penmorfa yw ein swyddfa fwyaf canolog, dyma lle mae ein Prif Weithredwr a'n Cynghorwyr wedi'i leoli. 
Darllen mwy
Aberaeron
Mae Aberaeron yn dref harbwr brydferth ac mae'n un o gyrchfannau gwyliau mwyaf poblogaidd Ceredigion gyda llefydd poblogaidd i aros a bwyta.
Darllen mwy